Gweithdai i ysgolion uwchradd

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig ystod o weithdai pwrpasol hanner diwrnod a diwrnod llawn ar gyfer disgyblion uwchradd.

Mae'r gweithdai wedi'u cynllunio i ddarparu cyfres o heriau i ddisgyblion uwchradd. Mae'r gweithgareddau wedi'u dylunio fel y gellir eu defnyddio hefyd fel gweithgareddau diwrnod pontio.

Mae'r heriau wedi'u cynllunio i hwyluso dysgu, gweithio mewn tîm ac annog chwilfrydedd disgyblion i ddarganfod sut a pham mae pethau'n gweithio. Yn ystod pob her, bydd y disgyblion yn datblygu eu medrau datrys problemau, cyfathrebu ac arloesi.

Gall disgyblion uwchradd sy'n cwblhau diwrnod llawn hefyd gofrestru am Wobr CREST Darganfod.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chost darparu gweithdai ac argaeledd, cysylltwch â ymholiadau@gweld-gwyddoniaeth.co.uk. Darperir yr holl ddeunyddiau ac adnoddau.

Yr Her Cyfathrebu Brys

Mae'r myfyrwyr yn gweithredu fel y tîm achub peiriannyddol sydd wedi'i leoli mewn tref sydd wedi ei effeithio gan dywydd eithafol. Eu her yw dylunio ac adeiladu dyfais prototeip a fydd yn anfon neges gôd ar draws y mynyddoedd i'w dadgodio yn y dref. Bydd y myfyrwyr hefyd yn creu'r cod a'i ddefnyddio i anfon neges. Mae'r gweithgaredd yn eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu.

Yr Her Gofod

Yn y gweithgaredd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu sut y gall grymoedd effeithio ar symudiad a sut mae ffrithiant a disgyrchiant yn effeithio ar wrthrychau sy'n symyd. Byddant yn llunio gorsaf ofod gyda drws neu ddrysau y gellir eu hagor a'u cau o bell.

Yn ail rhan yr her, mae myfyrwyr yn dylunio ac yn adeiladu cerbyd (Mars Rover) a fydd yn teithio ar draws yr wyneb yn yr amser cyflymaf posibl. Mae'r myfyrwyr yn ymchwilio i'r ffordd y mae'r olwynion a'r propelwyr yn cael effaith uniongyrchol ar gyflymder eu cerbydau. Mae'r gweithgaredd yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau gwaith cyfathrebu a chofnodi gwyddonol trwy ddylunio'rcerbyd cyflymaf.

Her Rhedfa'r Farblen

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu disgyblion i ddysgu sut mae ffrithiant a disgyrchiant yn effeithio ar wrthrychau sydd yn disgyn. Bydd y disgyblion yn adeiladu rhedfa farblen ac yn arbrofi lle i osod troeadau a llethrau i gwrdd â'r her. Mae'r gweithgaredd yn galluogi disgyblion i ddatblygu eu gwaith tîm a'u medrau cyfathrebu trwy ddylunio'r rhedfa farblen arafaf. Yn ail ran yr her, mae'r myfyrwyr yn llunio rhedfa dolen dros ddolen a datblygu sgiliau recordio gwyddonol.

Y Her Tomato wedi'i Wasgu

Mae'r Her Tomato wedi'i Wasgu yn Her STEM â gynlluniwyd gan 'Practical Action' lle mae disgyblion yn dylunio ac yn adeiladu model i symud tomatos i lawr mynydd. Yn Nepal mae llawer o ffermwyr sy'n byw ar ochr y mynydd yn tyfu ffrwythau a llysiau, gan gynnwys tomatos. Er mwyn ennill bywoliaeth mae angen iddynt werthu'r rhain yn y farchnad leol.

Y broblem yw fod cyrraedd y farchnad yn golygu cerdded pellter hir, peryglus i lawr ochr y mynydd a thros afon, ac ar y diwedd mae'n bosib y bydd y tomatos yn cael eu gwasgu ychydig. Gofynnir i'r disgyblion ddylunio, adeiladu a phrofi ffordd o symud tomatos fel na fyddant yn eu gwasgu!

Addas ar gyfer disgyblion 11-14 oed.

Achredir y gweithgaredd hwn gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a gellir ei ddefnyddio i ennill Gwobr Darganfod CREST.

Her Stopio'r Lledaeniad'

Mae 'Stop the Spread' yn Her STEM a gynlluniwyd gan Practical Action lle gofynnir i ddisgyblion ymchwilio i glefydau heintus, ac yna dylunio ac adeiladu model o ddyfais golchi dwylo ar gyfer ysgol yn Kenya. Mae afiechydon heintus yn broblem fyd-eang ac yn achosi miliynau o farwolaethau bob blwyddyn.

Mae Stopio'r Lledaeniad yn her STEM sy'n galluogi disgyblion 11-14 i ymchwilio i'r broblem, yna defnyddio eu STEM a sgiliau cyfathrebu i ddylunio dyfeisiau golchi dwylo a deunyddiau addysg ar gyfer ysgol gynradd yn Kenya.

Achredir y gweithgaredd hwn gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain a gellir ei ddefnyddio i ennill Gwobr Darganfod CREST.

Gwyddoniaeth Goffer

Cyflwynir myfyrwyr Uwchradd i syrcas o 10 o arbrofion a dysgu sut i gyflwyno gweithgareddau Labordy Gwyddoniaeth Goffer i gynulleidfa. Yn ystod y broses hon maent yn datblygu eu medrau mewn cyfathrebu, arloesi a chynyddu eu hunanhyder.

Mae'r broses hon yn rhoi perchenogaeth i bob myfyriwr sy'n cymryd rhan o'u dysgu ac yn eu helpu i ennill hyder. Mae gweithgareddau Labordy Gwyddoniaeth Goffer yn weithgareddau gwyddoniaeth syml wedi'u cynllunio i adeiladu hyder plant ac annog eu chwilfrydedd naturiol i ddarganfod sut a pham mae pethau bob dydd yn gweithio. Darperir yr holl adnoddau a deunyddiau i alluogi myfyrwyr i gyflwyno'r gweithgareddau mewn digwyddiadau eraill, e.e. nosweithiau agored a diwrnodau pontio

Hedfan yn Uchel

Mae'r gweithdy bywiog hwn yn seiliedig ar adnoddau o weithgareddau'r RAF 100 sy'n edrych ar y ffiseg y tu ôl i hedfan – cyfle i archwilio hanes y 100 mlynedd diwethaf o hedfan sy'n cynnwys: cynllunio gleider, datrys y cod, gweithgaredd rhyddhau y parsel. Addas i ddisgyblion 11-14 oed.

STEM mewn BAG

Rhowch gynnig ar 10 o weithgareddau byr gwahanol gan ddefnyddio deunyddiau syml ac archwiliwch y gwyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw o utgorn gwelltyn i synnau uchel – o greu hydoddiant i sleim – gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt. Gweithdy ymarferol, yn llawn dychymyg gyda digon i'w wneud a'i drafod.