Gweledigaeth a Phwrpas

'Mae Gweld Gwyddoniaeth yn cefnogi a hyrwyddo y dysgu ac addysgu o bynciau STEM (Gwyddoniaeth,Technoleg,Peirianneg a Mathemateg) yng Nghymru o fewn cyd-destun y byd real.'

Byddwn yn ceisio trosglwyddo ein gweledigaeth mewn cydweithrediad ag asiantaethau addas eraill sydd yn hyrwyddo yr ymrwymiad cyhoeddus o bynciau STEM drwy brosiectau lleol,

Byddwn yn trosglwyddo ein cynnyrch a gwasanaeth i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau, darparu cefnogaeth a gwasanaeth i athrawon a darlithwyr a datblygu deunyddiau addysgol. 

Amcanion

Bydd Gweld Gwyddoniaeth yn ceisio drwy weithgareddau i gyflawni yr amcanion isod:

  • Codi proffil STEM i’r hen a’r ifanc
  • I sicrhau fod pobl ifanc ac addysgwyr o fewn Cymru yn fwy ymwybodol o gyfleoedd a chyrsiau STEM
  • I sicrhau fod pobl ifanc ac addysgwyr o fewn Cymru yn fwy ymwybodol o gyfleoedd o fewn gyrfaeoedd sydd yn gysylltiedig â STEM
  • I sicrhau fod pobl ifanc ac addysgwyr o fewn Cymru yn fwy ymwybodol o bynciau cymdeithasol a moesol sydd yn gysylltiedig â STEM 
  • I ysgogi a hyrwyddo pobl ifanc a’r cyhoedd yn gyffredinol yng Nghymru i ymrwymo gyda gwyddoniaeth a thechnoleg.

Mae Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) wedi cael eu hadnabod fel y pynciau a fydd yn hanfodol i lwyddiant a ffyniant Cymru ar draws y byd. Mae'n rhaid i ni fel cenedl gynyddu diddordeb a chodi proffil y pynciau er mwyn creu cyflenwad cryf o weithwyr gyda sgiliau mewn diwydiannau newydd. 

Cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn ceisio cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru:

  • I godi lefel llwyddiant pobl Cymru drwy eu polisi addysg a hyfforddiant mewn pynciau STEM
  • I hyrwyddo diwylliant o ddysgu gydol oes a rhoi cymorth i wella cyfleoedd i bobl o bob oedran
  • I sicrhau arfer da yn gymdeithasol ac economaidd sydd yn hanfodol i ddatblygu economi lewyrchus drwy y polisiau addysg STEM.