Eleni mae STEM Learning yn dathlu 20 mlynedd o drawsnewid bywydau pobl ifanc.
Diolch am eich cefnogaeth, ymroddiad, brwdfrydedd ac ymrwymiad i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf mewn STEM - ni allem fod wedi cyrraedd 20 mlynedd heboch chi! I ddathlu’r achlysur rydym yn lansio ein hymgyrch hashnod #STEMgiving20!
Cymerwch ran trwy roi dim ond 20 munud o'ch amser i ddod â STEM yn fyw. Darllenwch fwy yma
Mentora STEM Learning Arlein
Mae cynllun mentora ar-lein cenedlaethol rhad ac am ddim STEM Learning wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc 13-19 oed i archwilio eu hopsiynau gyrfa yn y dyfodol trwy sgwrsio â gweithwyr proffesiynol STEM. Cynhelir sgyrsiau trwy negeseuon testun ar lwyfan mentora diogel a chymedroledig, felly nid oes angen i fentoriaid a mentoreion fod ar-lein ar yr un pryd. Cynhelir y sesiynau nesaf rhwng 7 Hydref a 16 Rhagfyr. Gall Llysgenhadon STEM gofrestru i fod yn fentoriaid yma. Gall athrawon a phobl ifanc gofrestru drwy'r dudalen fentora yma. Mae cofrestriadau yn cau ar 30 Medi.
Darganfyddwch sut y gall y Rhaglen Llysgenhadon STEM gefnogi eich grŵp ieuenctid neu fudiad cymunedol i gyfoethogi dysgu a darparu ysbrydoliaeth. Mae’r sesiwn gyntaf ddydd Mawrth 17 Medi am 12.30 a gellir cadw lle ar Eventbrite yma.
Cofrestrwch i wirfoddoli yn y tymor FIRST® LEGO® LEAGUE 2024 – 25 SUMERGED, rydym yn gyffrous iawn i ddechrau gweithio ochr yn ochr â chi. Mae cofrestru i wirfoddoli yn ystod tymor 2024-25 yn cau ar 28 Medi. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch yma.