Wedi ei ddiweddaru ddiwetha: Hydref 28
Cyfarfod yw hwn gyda thechnegwyr eraill sy'n rhoi cyfle i rannu syniadau, prosiectau ac arfer da rhwng technegwyr eraill mewn ysgolion a cholegau ar draws y wlad. Mae gan bob TechMeet ar-lein slotiau cyflwyno i chi rannu eich arbenigedd gyda thechnegwyr ledled y wlad. Rhoddir y slotiau hyn ar sail y cyntaf i'r felin. Nodwch ar y ffurflen archebu os hoffech chi rannu rhywbeth gyda'r technegwyr eraill ac archebu slot pum munud i wneud hynny. I'r rhai sy'n gwylio mae'n ffordd wych o rannu syniadau a gallwch ofyn cwestiynau ar ôl pob cyflwyniad. I archebu ewch yma
Canolfan yr Holl Genhedloedd Sachville Avenue, Caerdydd.
Mae Gŵyl TeenTech Caerdydd yn ddigwyddiad â ffocws clir sy’n newid canfyddiadau ac yn helpu myfyrwyr i ddeall eu potensial eu hunain. Mae’n ddiwrnod sy’n newid meddyliau – yn enwedig y rhai nad ydynt efallai erioed wedi ystyried gyrfa mewn gwyddoniaeth neu dechnoleg o’r blaen! Gall ysgolion ddod â grŵp o ddeg o fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad rhithwir ddydd Iau 21 Tachwedd 2024. Byddant yn dod â’u prosiect i Ŵyl TeenTech Caerdydd ddydd Iau 5 Rhagfyr 2024 lle byddant yn datblygu eu prosiect ymhellach, yn derbyn adborth gan arbenigwyr a hefyd yn cymryd rhan mewn cyfres o heriau a gweithgareddau bywiog sy'n dod â byd gwyddoniaeth a thechnoleg yn fyw. Cofrestrwch Nawr Am Ddim
Mae Llysgenhadon STEM yn dangos posibiliadau pynciau a gyrfaoedd STEM drwy ddatgelu pa mor hanfodol yw STEM ledled y byd yr ydym yn byw ynddo. Mae’r gwasanaeth hwn AM DDIM i ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol. Mae sgiliau a phrofiadau amrywiol Llysgenhadon STEM yn galluogi athrawon i ymgorffori cysylltiadau rhagorol â byd gwaith yn eu haddysgu. Bydd y digwyddiad hwn yn eich cyflwyno i Raglen Llysgenhadon STEM ac yn mynd â chi drwy’r broses o sut i ofyn am Lysgennad i ymweld â’ch ysgol yn rhad ac am ddim. I archebu cliciwch yma
Ymunwch â ni ar 11 Rhagfyr am 2pm ar gyfer gweminar STEM llawn hwyl AM DDIM! Bydd Llysgennad STEM yn arwain eich dosbarth CA2 trwy Esblygiad, Dewis Naturiol, a dirgelion mwyaf bywyd. Mae'r sesiwn 30 munud hon yn cynnwys sesiwn holi-ac-ateb rhyngweithiol lle gall myfyrwyr ofyn cwestiynau! Perffaith ar gyfer meddyliau chwilfrydig - peidiwch â cholli allan! Cofrestrwch YMA!
Cynhadledd Flynyddol ASE, a noddir eleni gan AQA, yw cynhadledd addysg wyddonol fwyaf y DU sy’n casglu ynghyd addysgwyr gwyddoniaeth o bob rhan o’r sbectrwm addysg. Mae’r tri diwrnod yn cynnwys dros 250 o sesiynau gyda phrif siaradwyr, siaradwyr a gweithdai, ynghyd ag arddangosfa wych o sefydliadau addysg wyddonol a chyflenwyr adnoddau, digwyddiadau cymdeithasol a mwy. *Mae tocynnau adar cynnar nawr yn fyw - Archebwch eich tocynnau nawr a sicrhewch gyfradd Aelod ASE o ddim ond £99 am un diwrnod, gyda thocynnau Aelod Myfyriwr ASE (hyfforddeion/ECTs) ar gael am ddim ond £25 y dydd. Mwy o wybodaeth yma
Cynhelir Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2025 rhwng 7 a 16 Mawrth a’r thema fydd ‘Newid ac Addasu’.
Yn ystod yr wythnos, anogir ysgolion i ddathlu gyda gweithgareddau a digwyddiadau STEM. Gellir cysylltu Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg i gyd â newidiadau mewn natur, technoleg, gofod, a mwy.
Felly os ydych yn bwriadu cynllunio prosiectau WWP ymlaen llaw, mae digon o bynciau i ddewis ohonynt.
Gallai dysgwyr hefyd ganolbwyntio ar ymddygiad a'r addasiadau y gallem eu gwneud i greu newidiadau cadarnhaol i'r boblogaeth a'r blaned.
Cliciwch yma i ddysgu mwy am Wythnos Wyddoniaeth Prydain 2025 a sut i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau neu ddigwyddiadau yn y dyfodol. Yn yr hydref, bydd Pecynnau Blasu BSW AM DDIM yn cael eu rhyddhau gyda gweithgareddau ar y thema hon ac yna Pecynnau Gweithgareddau cyflawn ym mis Ionawr. Yn y cyfamser, os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth gallwch lawrlwytho Pecynnau Gweithgareddau BSW blaenorol neu ymweld â gwefan Gwobrau CREST am adnoddau a syniadau.