This is the September STEM Ambassador Newsletter in Welsh  - if you would like to read the English version please  click here



Annwyl Lysgenhadon


Rwyf yn dod â newyddion gyda theimladau cymysg. Dyma fy wythnos olaf fel Cydlynydd Llysgenhadon STEM yng Nghymru. Wedi 11 mlynedd roedd yn benderfyniad anodd ond yr un cywir ar yr adeg yma.
Mae’r profiad o weithio gyda chi fel Cydlynydd Llysgenhadon wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’r Rhaglen yn ddibynnol are eich sgiliau ac ymroddiad eich cefnogaeth. Mae eich efaith yn gwneud gwahaniaeth.
Rwyf yn symud i rôl newydd gydag Age Cymru lle byddaf yn recriwtio, hyfforddi a a rhoi eu rhwydwaith gwirfoddol ar waith i gefnogi cymunedau Cartrefi Gofal ledled Cymru. Mae llawer yn weithwyr proffesiynol ifanc ar draws sector cyflogaeth eang.
Cofiwch bod y platform Llysgenhadon STEM yn arloesiad gwych i alluogi Llysgenhadon STEM i gyrchu gwasanaeth eang.
Mi ydw i ar LinkedIN ac rwy’n hapus i gadw cysylltiad gydag unrhyw un hoffai gysylltu yn y dyfodol!

Fy nymuniadau gorau a diolch diffuant

Sian

Cynnwys

Newyddion
 

Cyfleoedd ar gyfer Llysgenhadon STEM
 

 

Newyddion Diweddaraf
 

Gwobrau STEM Cymru 


Cydnabyddwyd Llysgenhadon ac Athrawon STEM yng Nghymru yn y Gwobrau STEM Inspiration rhanbarthol cyntaf yn gynharach eleni mewn seremoni yn Techniquest, Caerdydd. Dyma’r rhai dderbyniodd wobrau:

Llysgennad STEM Presennol Eithriadol

Enillydd Rosie Lawrence

Rosie yw’r cyswllt allweddol ar gyfer Llysgenhadon STEM Cymru yn Raytheon. Mae hi wedi gwneud cyfraniad sylweddol i allgymorth ysgolion yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a thros y ffin yn ysgolion Swydd Gaer.

Clod Uchel Dr Sarah Jane Potts

Mae Sarah-Jane wedi dangos perfformiad cyson ac achrededig fel Llysgennad STEM. Wedi cyflawni PhD a swydd darlithydd, mae’n cyflwyno ystod eang o weithgareddau STEM yn amrywio o gynulleidfaoedd cynradd i uwchradd a chyhoeddus. 


Cyflogwr STEM Ysbrydoledig
Enillydd DVLA


Mae tîm Llysgennad STEM y DVLA yn cydlynu hanes gwych ac anodd ei ddilyn o allgymorth STEM. 40 o Lysgenhadon STEM yn cymryd rhan mewn digwyddiadau o Wyliau Gwyddoniaeth, digwyddiadau ysgolion bach a mawr, estyniadau Clwb Cod ac yn fwyaf arwyddocaol creu Cystadleuaeth Her Cod Cymru.


Clod Uchel
Blue Gem Wind
 
Mae Blue Gem Wind a David Jones, sydd yn arwain eu Llysgenhadon STEM, wedi creu rhaglen safonol o allgymorth STEM. 

Newport Wafer Fab
Mae Newport Wafer Fab yn un o gyflogwyr mawr y sector lled-ddargludyddion yng Nghymru. Gan weithio’n bennaf gydag ysgolion uwchradd, maent wedi codi dyheadau myfyrwyr gan gynnwys Prosiect Cymoedd Cymru sydd wedi cael canmoliaeth uchel.


Cyfraniad Eithriadol at Ehangu Cyfranogiad, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn STEM

Enillydd Technocamps

Mae Technocamps yn gosod safon uchel iawn ar gyfer mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hysbys mewn rhyw a chefndir ym myd gyrfaoedd Cyfrifiadureg a TG, sefydlodd tîm Teachnocamps ddull proffesiynol o ymgysylltu â'u Llysgenhadon a chyflwyno rhaglenni yn y maes hwn.  

Clod Uchel 
Siemens Energy a Siemens AG

Ciara Doyle 
O dan brosiectau Ymddiriedolaeth Greenpower ni ellir gorbwysleisio rôl werthfawr y Llysgennad STEM Ciara Doyle a’i chydweithwyr.

DECA Sealand
Mae gan Deca dîm o Brentisiaid Llysgennad STEM hynod fedrus. Maent yn cefnogi cymunedau difreintiedig ar draws Gogledd Cymru.
 

Darllenwch fwy

Dathlu Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol gyda Llysgenhadon STEM.

 

Roedd pumed pen-blwydd y Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol yn flwyddyn arloesol, gan gyflawni lefel wirioneddol drawsnewidiol o effaith ar draws y DU. Cododd nifer y sefydliadau hyrwyddwr sy'n hyrwyddo Diwrnod Cenedlaethol Rhifedd 71% ers y llynedd i 4,813. Fe wnaethom hyd yn oed osod Record Byd Guinness newydd gyda phlant ysgol ledled y DU.
Eleni cefnogodd Llysgenhadon STEM Cymru  Ddiwrnod Rhifedd Cenedlaethol gyda chyfres o fideos yn ymwneud â Mathemateg fel
berthnasol i'w bywydau gwaith. O weithgaredd hwyliog a deniadol i ddisgyblion cynradd i bynciau cyfoes ar Fathemateg i Ysgolion Uwchradd, nod fideos yw dangos y rhan gynyddol bwysig y mae mathemateg yn ei chwarae mewn bywydau bob dydd.

Siaradwyr
Dr Brais Lopez Parades Gwyddonydd Data IQVIA
Sut mae Mathemateg yn cael ei ddefnyddio mewn treialon Fferyllol
https://youtu.be/kmFLR_B1_qE

Robert Bowen Peiriannydd Graddedig Grŵp Rhyngwladol Babcock plc
Mathemateg mewn Amddiffyniad Morol
https://youtu.be/jtldiayu56Q

Dr Claudia Medrano Tiwtor ac Ymchwilydd Mathemateg
Celfyddyd Pi i ddisgyblion Cynradd
https://youtu.be/9qDm_5l_KPI

Dr David Willock Darllenydd mewn Cemeg Damcaniaethol a Chyfrifiadurol Prifysgol Caerdydd
Cemeg a Mathemateg
https://youtu.be/oOFgKJKwAs0

Darllenwch fwy

John Morlais Jones 

Rydym am gymeryd y cyfle yma i dalu teyrnged i golled drist ein Llysgennad John Morlais Jones ym mis Ebrill.
Trwy fentrau IET a STEM bu'n cefnogi ysgolion am dros 40 mlynedd gan alluogi prosiectau fel y ffilm Hanes Byw yn Abertawe, gweithdai IET, heriau a llawer mwy. Cynhaliodd John her leol hyd yn oed i ddisgyblion ail-greu sut y cyflawnwyd Peirianneg Côr y Cewri! Yn y blynyddoedd diweddar mynychodd John gyfarfodydd athrawon a Llysgenhadon STEM, cyfweliadau ffug a mwy gan oresgyn problemau symudedd.
Yn frwdfrydig ar bob achlysur, roedd yn ymroddedig i wella cyfle cyfartal pobl ifanc.

Anfonodd ei fab Mark y newyddion a gwneud sylwadau,

“Roedd dad yn dda am gadw i fyny gyda phob math o dechnoleg ac roedd yn hen law mewn cyfrifiadura gan greu tystysgrifau ar gyfer prosiectau ysgolion amrywiol, helpu i greu gwefan ei Gweithgareddau Ysgol ac yn y blynyddoedd diweddarach yn defnyddio Sioe Alexa Amazon i gadw mewn cysylltiad gan ddefnyddio deialu llais.” Mark Jones

Darllenwch fwy

Greenpower Goblins yn Rasio Eto!

 

Ar safle Renishaw Meisgyn, mwynhaodd ysgolion ddychwelyd i gystadleuaeth Greenpower Racing. Wedi 
gohiriad dwy flynedd oherwydd y pandemig, trefnwyd y digwyddiad mor llwyddiannus ag erioed!
Mae Ymddiriedolaeth Addysg Greenpower oedd yn darparu rhai o'r prosiectau STEM mwyaf effeithiol, gyda disgyblion yn profi'r  dysgu Peirianneg Cynaliadwy; Gwaith tîm; deheurwydd llaw; creadigrwydd mewn peirianneg dylunio ac wrth gwrs yn cael  hwyl aruthrol o adeiladu a gyrru eu car trydan eu hunain!
Ysgol Gynradd Woodlands, Cwmbrân, oedd yn mynychu am y tro cyntaf  enillodd wobr am y Corffwaith Gwyrddaf, gyda chefnogaeth eu mentor Llysgennad STEM Igor, a oruchwyliodd a chynghorodd cwblhau'r prosiect. Llongyfarchiadau i bob  ysgol
Safle
1. Ysgol Gynradd Horfield C of E gyda Heulwen
2. Cert Jwrasig Ysgol Gynradd Cwmlai
3. Ysgol Gynradd Woodlands
4. Tîm Ysgol Gynradd Cwmlai 2 Usain Bolt

Os hoffai eich ysgol ddarganfod mwy ewch i https://www.greenpower.co.uk/start-team

Cyfleoedd i Lysgenhadon STEM

Cyfleoedd Cymru Gyfan


Troi eich Llaw i Beirianneg: cefnogaeth ar gyfer gweithdai Weldio Siocled
Bydd y Tîm Troi eich Llaw i Beirianneg yn cynnal y gweithdai weldio siocled hyn. Maent yn darparu'r holl adnoddau.
Mae gobaith mawr am gael Lysgenhadon STEM i helpu i gyflwyno pob un o’r gweithdai hyn. Gallwch gynnig sgwrs ragarweiniol ar eich llwybr gyrfa a chyflogwr neu fywyd gwaith.
Darperir gwybodaeth a hyfforddiant cyn y sesiwn.

Cyswllt: Michelle Snell Coleg Sir Gar michelle.snell@colegsirgar.ac.uk


Lleoliadau / Dyddiadau

  • Ysgol Uwchradd Pontypridd / Hydref 4ydd 10am – 11am
  • Ysgol Dyffryn Aman, SA18 2NW / Hydref 12fed amser i’w gadarnhau
  • Ysgol Y Gogarth, Llandudno LL30 1YE / Hydref 17eg 9.30am – 10.30am
  • Ysgol Mary Immaculate, Caerdydd CF5 5QZ / Hydref 24ain amser i’w gadarnhau
  • Bangor Ysgol Friars, LL57 2LN 16th October 9.10am – 10.50am
  • Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Merthyr Tudful CF47 0LS / Tachwedd 25ain amser i’w gadarnhau

 

De Cymru


Cyflwyniad Mwyngloddio a’r Chwyldro Gwyrdd
Tachwedd 16eg
Ysgol Gyfun Y Bontfaen
Y Bontfaen
CF71 7EN 


https://www.stem.org.uk/platform/activity/e79e4665-8de6-47b7-812e-c8db1a5a0e0c

Hoffai’r athro Jamie Taylor gadeirio/gynnal dadl ffug gyda’i fyfyrwyr am ddatblygiad mwyngloddio newydd posibl (FFUG) yn Ne Cymru.
Bydd Llysgenhadon STEM a myfyrwyr yn trafod moeseg mwyngloddio, yr effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol, yr angen am adnoddau newydd, materion ailgylchu.....mae'r rhestr yn ddiddiwedd.


Beth Nesa? Digwyddiad Gyrfaoedd i ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol
Tachwedd 16 9am – 2pm
Canolfan Hamdden Pontypwl
Pontypwl,
NP4 8AT 

https://www.stem.org.uk/platform/activity/2fcb003e-8321-4289-8233-dac821331c9a

Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o ysgolion yng Ngwent. Bydd y digwyddiad yn
  • Codi ymwybyddiaeth o opsiynau ôl-ysgol;
  • Rhoi cyfle i ddisgyblion brofi sesiynau blasu ymarferol, galwedigaethol;
  • Caniatáu i bobl ifanc weld ystod eang o sefydliadau cymunedol.
  • Helpu myfyrwyr i fagu hyder wrth siarad â chyflogwyr

Cymorth prosiect Enthuse: Tyfu planhigion gyda Hydroponics
Ysgol Greenhill
Rhiwbeina
Caerdydd
CF4 6UJ

https://www.stem.org.uk/platform/activity/acde1387-c6eb-4d06-9318-b5bd68b06ec8

Mae Hannah Coulson yn Swyddog Ymrwymiad Caerdydd sy'n gweithio gydag Ysgol Greenhill ar y prosiect hwn.
Bydd disgyblion yn ymchwilio i sut y gellir tyfu bwyd heb ddefnyddio pridd.
Byddai’r athro’n gwerthfawrogi’n fawr gymorth Llysgennad STEM i uwchsgilio gyda gwybodaeth a gwybodaeth am y pwnc.
Hoffent hefyd dderbyn syniadau ar gyfer ymchwiliad y disgyblion.
Mae hon yn ysgol arbennig i fechgyn yn unig.


‘All things bright and beautiful’
Campws Cymunedol Blaenafon,
Heol Coed Cae Ganol,
Blaenafon,
NP4 9AW 

https://www.stem.org.uk/platform/activity/6f7ff984-0acc-4564-b89d-d9fd9fdde99e

Ein thema yw ‘All things bright and beautiful’ ac rydym yn mynd i fod yn dysgu am olau. Byddem wrth ein bodd yn cael rhywun i siarad gyda’r plant ac i ddangos iddynt sut mae cylched golau yn gweithio fel eu bod, yn y pen draw, yn gallu creu addurn Nadolig sy’n goleuo.

 

Gogledd Cymru


“Beth Nesa” Digwyddiad Gyrfaoedd i ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol
Ysgol Gogarth,
Ffordd Nant Y Gamar,
Llandudno,
LL30 1YE 

Trefnydd: Martin Webber Gyrfa Cymru

Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer disgyblion 14 i 19 mlwydd oed gydag anghenion dysgu ychwanegol. Darperir lluniaeth ysgafn.                                
Amcan y digwyddiad yw i alluogi disgyblion i ymgysylltu gydag ystod o gyflogwyr lleol a gweithgareddau a chymdeithasau cymunedol sydd yn cyflogi neu yn cefnogi pobl gydag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn
•                Codi ymwybyddiaeth o opsiynau ôl-ysgol;
•                Rhoi cyfle i ddisgyblion brofi sesiynau blasu ymarferol, galwedigaethol;


Troi eich Llaw i Beirianneg: cefnogaeth ar gyfer gweithdai Weldio Siocled
Manylion uchod

Lleoliadau / Dyddiadau
  • Ysgol Y Gogarth, Llandudno LL30 1YE / Hydref 17eg 9.30am – 10.30am
  • Bangor Ysgol Friars, LL57 2LN 16th Hydref 9.10am – 10.50am
Cysylltwch gyda ni