This is the October STEM Ambassador Newsletter in Welsh  - if you would like to read the English version please  click here

Annwyl Lysgenhadon


Rydym yn anfon diweddariad atoch yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau a cheisiadau am Lysgenhadon.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd Hayley Pincott yn ymuno â ni fel Cydlynydd Rhaglen Llysgenhadon STEM ar Dachwedd 1af. Mae Hayley wedi bod yn Llysgennad STEM ers dros 5 mlynedd ac yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda hi.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu
.

Cofion,
Y Tîm Llysgenhadon STEM  @SeeScience

CYNNWYS

Newyddion
 

Cyfleoedd a rhwydweithio i Lysgenhadon STEM 
 

IOP Cynhadledd Cyfathrebwyr ac Allgymorth. Dydd Iau 17 Tachwedd. Mewn person yn Llundain ac Ar-lein

Cyfleoedd Llysgenhadon - Ysgolion Cynradd 

Menter Caerdydd - Gweithdy Hanner Tymor
Ysgol Gynradd Derwendeg
Ysgol Gynradd Severn
Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon  
Ysgol Gynradd Jenner Park 
 

Cyfleoedd Llysgenhadon - Ysgolion Uwchradd
 

Ysgol Gyfun Y Pant
Ysgol Rhiwabon Wrecsam 
Ysgol Gyfun Aberpennar
Ysgol Penglais
Ysgol Nantgwyn
Ysgol Gymunedol Ferndale
Canolfan Chwareuon Pontypwl
 

CYFLEOEDD I YMGYSYLLTU

Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd
 
Fel rhan o bartneriaeth newydd gyffrous gyda’r Wythnos Gyrfaoedd Genedlaethol, sy’n hyrwyddo swyddi sero net a llwybrau gyrfa gwyrdd, bydd yr Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd gyntaf yn cael ei chynnal rhwng 7fed a'r 12fed o Dachwedd 2022. Byddem wrth ein bodd pe bai Llysgenhadon yn cymeryd rhan a dangos i bobl ifanc rai o'r gyrfaoedd gwyrdd cyffrous sydd ar gael! 
Un o’r ffyrdd y gallwch chi gefnogi Wythnos Gyrfaoedd Gwyrdd yw darparu proffil gyrfa syml i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o swyddi ar draws y DU. Darganfyddwch fwy a chofrestrwch ddiddordeb ar y Llwyfan Llysgennad STEM, lle gallwch ddod o hyd i'r ddolen i'r holiadur. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://greencareersweek.com/. Cofrestrwch eich diddordeb yma.
 

MWY YMA 

World Skills UK rownd derfynol a Sioe Sgiliau
Coleg Caerdydd a'r Fro 

Dyddiad: 16-18 Tachwedd 2022

Mae Sioe Sgiliau/Ffair Gyrfaoedd yn cael ei chynnal ochr yn ochr â rowndiau terfynol WorldSkills UK sy'n cael eu cynnal yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Mae ysgolion o Gaerdydd a’r cyffiniau wedi’u gwahodd i ddod draw i weld rhai o’r cystadlaethau sy’n cael eu cynnal a hefyd i ddarganfod mwy am eu camau nesaf a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt.

Bydd Tîm Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru (ISEiW) yn cymryd rhan mewn gweithgareddau Rhowch Gynnig Arni ac yn gofyn i ddarparwyr helpu gyda rhai o'r stondinau, yn ogystal â mynd â'ch llenyddiaeth/rhoddion am ddim eich hun gyda chi. Bydd aelodau o Dîm ISEiW o gwmpas i ddangos sut mae'r offer yn gweithio ac i ateb unrhyw ymholiadau trwy gydol y dydd.
Fel y gwelwch o'r rhestr isod bydd ystod eang o weithgareddau ar gael, er bod y rhestr derfynol eto i'w chadarnhau.

  • Peirianneg - Weldio Rhithiol, Hydroleg/ Mecanweithiau, Cit adeiladu peirianyddol,
  • Cit Cylched, Lego.
  • Adeiladu - Efelychydd Cludiant, Gwaith Brics, Gwaith Saer, Plymio, Trydanol,
  • Tech Gwyrdd, Tirfesureg a Lefelu.
  • Creadigol a'r Cyfryngau - animeidio 2D a 3D animation a Thech Cerddoriaeth.
  • Iechyd Lletygarwch a Ffordd o Fyw - Arlwyo, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Trin Gwallt,
  • Harddwch, ICAROS, Gofal Plant.
  • TG a Menter - citiau TG a IT kits and Parth Trochi CWIC.

Mae hwn yn gyfle gwych i chi hyrwyddo eich cynnig ac nid oes unrhyw gost i arddangos. I fynegi diddordeb yn y digwyddiad hwn ewch yma

#SCW22 @WorldSkillsUKW @iseinwales

MWY YMA 

Wythnos Peirianwyr Yfory

Mae Wythnos Peirianwyr Yfory yn dychwelyd ar 7 i 11 Tachwedd 2022, gyda’r nod o dynnu sylw at beirianneg, gyrfaoedd peirianneg a pheirianwyr proffesiynol. O beirianwyr unigol i sefydliadau peirianneg proffesiynol a chwmnïau peirianneg byd-eang, mae'n gyfle i arddangos peirianneg fodern a pheirianwyr a thechnegwyr ysbrydoledig.

Cofrestrwch ar gyfer y cylchlythyr yma

 

Cyfleoedd i Lysgenhadon STEM 

Have a Go at Engineering: support for Chocolate Welding workshops

Bydd tîm Have a Go at Engineering yn cynnal y gweithdai weldio siocled yma. Maent yn darparu'r holl adnoddau a bydd hyfforddiant cyn y sesiwn. 

Dyddiadau / lleoliadau

Caerydd Ysgol Uwchradd Mary Immaculate, CF5 5QZ Hydref 24 amser i'w gadarnhau
https://www.stem.org.uk/platform/activity/dd872313-b78c-4343-9378-8ae11a3eec1c


Bangor Ysgol Friars, LL57 2LN Tachwedd 16 9.10am – 10.50am 
https://www.stem.org.uk/platform/activity/332e9c04-7f74-471d-8289-c025e49f81e0


Merthyr Tydfil Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, CF47 0LS Tachwedd 25 amser i'w gadarnhau
https://www.stem.org.uk/platform/activity/328a9093-1b08-4bf3-b5c0-313bc5bbe5ea


Byddai unryw help gyda'r sesiynau hyn yn cael ei werthfawrogi - cysylltwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk

Mwy o gyfleoedd 

CYFLE IAITH GYMRAEG!
Cefnogi Gweithdy STEM Hanner Tymor - Caerdydd

Dydd Mercher Tachwedd 2il 

Mae Menter Caerdydd yn cynnig Diwrnod Gwyddoniaeth yn ystod hanner tymor i blant rhwng 8 ac 11 oed. Bydd Gweld Gwyddoniaeth yn cynnal y diwrnod ond mae croeso mawr i unryw Lysgennad sydd eisiau dod i helpu am y diwrnod cyfan neu i gynnal rhan o'r diwrnod gyda gweithdy bach neu arddangosfa hwyliog. Unig thema'r diwrnod yw bod Gwyddoniaeth yn HWYL!

I ddangos eich diddordeb, cysylltwch ag  cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Ysgol Gynradd Derwendeg, Hengoed CF82 7HP
Cefnogi Clwb STEM

Unrhyw adeg y tymor yma 

Mae'r athrawes, Nicola, yn cynnal Clwb STEM bob prynhawn dydd Gwener rhwng 2.15 a 3pm gydag oedrannau cymysg. Byddai'n croesawu unrhyw un a allai gyfrannu at sesiwn gyda demo priodol neu weithgaredd ymarferol. Mae hi’n arbennig o awyddus i ddangos i ddisgyblion y cysylltiadau rhwng STEM a’r gweithle.

I ddangos eich diddordeb, cysylltwch ag  cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Mwy o gyfleoedd 

Ysgol Uwchradd Y Pant. Pontyclun CF72 8YQ
Digwyddiad Gyrfaoedd STEM - Rhwydweithio chwim

25 Hydref 2022

Hoffai’r ysgol  wahodd cyflogwyr i dynnu sylw at yr hyn y maent yn ei wneud, yr amrywiaeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael ac, os yn bosibl, y llwybrau gwahanol i’r cyfleoedd hynny.

Digwyddiad ysgol gyfan yw hwn (gyda'r amserlen ar gyfer y grwpiau blwyddyn i'w mynychu i'w chadarnhau) Bydd y digwyddiad yn dechrau am 8.50am, a byddwch yn gallu sefydlu o 8a.m. Mae egwyl 9.50-10.50am a bydd y digwyddiad yn gorffen amser cinio 1.10pm Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyrfa Cymru. Mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal ar draws dwy neuadd yn yr ysgol a bydd bwrdd/cadeiriau a lle ar gyfer pop-up yn cael eu darparu ar gyfer pob stondin. Mae Wi-Fi cyhoeddus ar gael a gellir ystyried unrhyw adnoddau eraill megis gofod/bwrdd ychwanegol, pŵer (nifer y pwyntiau pŵer yn gyfyngedig) ac ati fesul achos. Pe bai gennych rywbeth rhyngweithiol, neu ymarferol, neu weithgaredd neu gwis ar eich stondin byddai hyn yn ddelfrydol Byddai'r ysgol hefyd yn hoffi i gyflogwyr amlygu'r hyn y maent yn ei wneud, yr amrywiaeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael ac, os yn bosibl, y llwybrau gwahanol i'r cyfleoedd hynny .

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Ysgol Rhiwabon Wrecsam LL14 6BT

Ffug Gyfweliadau i ddisgyblion Blwyddyn 11 - sgiliau cyflogadwyedd 

28 Hydref 2022

Nod y gweithdai hyn yw rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio ac ymarfer y sgiliau, yr agweddau, y gwerthoedd a'r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith trwy sesiwn ffug gyfweliad. Dros y bore pum cyfweliad 30 munud.

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Mwy o gyfleoedd 

Ysgol Gyfun Aberpennar, CF45 4DG

Cyflwyniad STEM / Holi ac Ateb - Ieithoedd a'r gweithle 

28 Hydref 2022

Bydd y digwyddiad yn Neuadd yr Ysgol. Bydd myfyrwyr yn ymweld â chi mewn grwpiau o 5 myfyriwr (yn debyg iawn i ddigwyddiad rhwydweithio chwim). Bydd gan ddisgyblion blwyddyn 10/11 gwestiynau i’w gofyn am bwysigrwydd cael ieithoedd ychwanegol o fewn y gweithle. Bydd y myfyrwyr yn gofyn y cwestiynau yn Saesneg. A allwch chi roi trosolwg i mi o'ch cwmni os gwelwch yn dda Beth yw'r prif sgiliau rydych chi'n eu defnyddio ar gyfer eich swydd Ydy'r gallu i siarad Cymraeg o fantais wrth chwilio am waith Faint o Gymraeg fyddai ei angen yn eich cwmni/sefydliad Beth yw'r prif feysydd o fewn eich sefydliad/cwmni a fyddai’n elwa fwyaf o ddefnyddio’r Gymraeg. Fel cyflogwr, ydych chi'n gwerthfawrogi'r gallu i siarad Cymraeg fel sgil A yw'r galw am gyflogi Siaradwyr Cymraeg yn cynyddu. Sesiynau o 9am - 1pm.
 

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.ukneu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Ysgol Gynradd Severn, Caerdydd CF11 9DZ

Sesiwn ystafell ddosbarth ryngweithiol i atgyfnerthu dysgu am enwau a swyddogaethau esgyrn dynol

6 Tachwedd 2022

Mae’r athrawes Samantha Slater yn chwilio am weithdy difyr gyda gweithgareddau ymarferol i atgyfnerthu’r modd y mae’r plant yn dysgu enwau’r esgyrn yn y sgerbwd dynol. Edrych hefyd ar swyddogaethau gwahanol esgyrn, cymalau a chyhyrau.
 

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.ukneu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Gweithdy STEM  / gweithgareddau ymarferol  -cylchedau a golau

7 Tachwedd 2022

Rydym yn ymdrin â'r testun Pob peth llachar a hardd a byddwn yn dysgu am olau. Yn ddelfrydol, byddem eisiau rhywun sy'n gallu siarad/dangos i'r plant sut mae cylched golau yn gweithio fel y gallant wneud eu haddurn Nadolig eu hunain yn y pen draw.

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Gweithdy STEM  / gweithgaredd ymarferol i ddisgyblion ddysgu am gludiant

Unrhyw ddyddiad i siwtio Llysgennad

Mae'r dosbarth o 16 o blant ag anghenion addysgol arbennig yn dysgu popeth am ystod o gludiant. Maen nhw'n gobeithio dysgu unrhyw beth am gludiant - gallai fod yn gyflwyniad, yn weithgaredd, yn dylunio eich cludiant eich hun ac ati. Gallai hefyd fod yn Holi ac Ateb.

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Ysgol Penglais, Aberystwyth,SY23 3AW
Cyflwyniad STEM / Holi ac Ateb i hybu Merched mewn STEM

14 Tachwedd 2022

Hoffai’r athrawes Rebecca Flannagan  wahodd Llysgenhadon i gyflwyno sesiwn awr i ddisgyblion blwyddyn 10 yn ystod eu gwers wyddoniaeth. Maen nhw'n chwilio am fenyw sydd â swydd anarferol mewn pwnc STEM. Siarad am rôl eu swydd, pa sgiliau, hyfforddiant a chymwysterau sydd eu hangen arnynt, beth maen nhw'n ei fwynhau am rôl eu swydd ac ati.


I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.ukneu ewch yma

Mwy o gyfleoedd 

Ysgol Nantgwyn, Tonypandy,CF40 1HQ

Gweithdy STEM  / gweithgaredd ymarferol - Gweithgaredd Her Cyflogwr

15 Tachwedd 2022

Angen Llysgenhadon STEM i osod her i ddosbarth. Dylai'r her fod yn gysylltiedig â gwaith y sefydliad. Disgyblion i weithio mewn grwpiau bach i weithio ar yr her a chyflwyno eu canfyddiadau ar ddiwedd y sesiwn. 5 dosbarth yn gweithio ar yr un pryd, angen 1 her yr un. 8.45 i 10.45.

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.ukneu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Gyrfaoedd STEM: Cyngor / Rhwydweithio Chwim - Diwrnod Carwsel Gyrfaoedd Blwyddyn 9

16 Tachwedd 2022

Diwrnod o gyflwyniadau/gweithdai rhyngweithiol lle bydd disgyblion yn darganfod mwy am amrywiaeth o yrfaoedd/sectorau. Gofynnir i gyflogwyr gyflwyno sesiwn i bob un o’r dosbarthiadau drwy gydol y dydd (5 sesiwn i gyd) Er gwybodaeth, bydd diwrnodau tebyg ar gyfer blynyddoedd ysgol eraill (Dim ond un sydd angen i Lysgenhadon gofrestru ar ei gyfer ond mae croeso i chi fynychu mwy): Dydd Mercher 18 Ionawr ar gyfer Blwyddyn 8 a Dydd Mercher 26 Ebrill ar gyfer Blwyddyn 7.

I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.ukneu ewch yma

Mwy o gyfleoedd  

Canolfan Hamdden Pontypŵl  Pontypool. NP4 8AT

Beth Nesa? Digwyddiad Gyrfaoedd i ddisgyblion gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gyrfaoedd STEM: Cyngor / Rhwydweithio chwim  - cyflwyniad i yrfaoedd gyda Llysgenhadon lleol 

16 Tachwedd 2022

Mae'r digwyddiad wedi'i anelu at ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol o ysgolion yng Ngwent. Bydd y digwyddiad yn • Codi ymwybyddiaeth o opsiynau ôl-ysgol; • Rhoi cyfle i ddisgyblion brofi sesiynau blasu ymarferol, galwedigaethol; • Caniatáu i bobl ifanc weld ystod eang o weithgareddau a sefydliadau cymunedol. • Helpu myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau a magu hyder wrth siarad â chyflogwyr. Bydd cynigion yn cael eu hanfon ymlaen at Claire Harris a Jo Evans (Ymgysylltu â Busnes Gyrfa Cymru)


I gofrestru eich diddordeb cysyllwch ag cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu ewch yma

Cyfle Rhwydweithio

IOP Cynhadledd Cyfathrebwyr ac Allgymorth. Dydd Iau 17 Tachwedd. Mewn person yn Llundain ac Ar-lein

Cyfle i gyfathrebwyr ffiseg a selogion allgymorth o bob lefel i gwrdd a thrafod arfer gorau a chydweithio. Gyda’r thema ‘Ymestyn Allan, Dal i Fyny’ mae’r gynhadledd yn canolbwyntio ar archwilio sut yr ydym i gyd wedi gorfod addasu i bandemig Covid19, pa wersi y gallwn eu dysgu o hynny a sut y gallwn fynd yn ôl i ymgysylltu â’r cyhoedd, yn enwedig ar gyfer pobl mewn cymunedaunad nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol ac sydd wedi eu taro'n arbennig o galed. Mae'r sgyrsiau, y posteri, y gweithdai a'r arddangosfa i gyd yn cael eu cyflwyno'n bersonol ond bydd y brif ystafell yn cael ei ffrydio'n fyw i'r rhai na allant ddod yn gorfforol.

Manylion yma.