Annwyl Lysgenhadon
 

Rydym wedi bod yn mwynhau tywydd anarferol o heulog yr Haf hwn ac mae llawer o Lysgenhadon STEM wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau cyhoeddus megis yr Eisteddfod, Introfest a Gardd Einstein, y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cynnal yn yr awyr agored. Gellir darllen am gefnogaeth gwahanol dimau o Lysgenhadon STEM ym Mhafiliwn Gwyddoniaeth yr Eisteddfod isod.
Mae hi’n fraint cael ymweld â chymaint ag y gallaf o weithgareddau Llysgenhadon STEM ac i weld drosof fy hun yr amrywiaeth o grwpiau ysgol a chyhoeddus yr ydym yn eu cefnogi.

O Gyfweliadau Ffug mewn ysgolion uwchradd i Wyddoniaeth Cynradd, digwyddiadau i’r Cyhoedd a chais gan Ysgol Anghenion Arbennig – cewch hyd i Gyfleon yng nghylchlythyr  y mis yma i siwtio pob diddordeb!

Rwy’n gobeithio ymweld â mwy o weithgareddau Llysgenhadon STEM yn yr Hydref!
 
Sian


 

Cynnwys

Newyddion
 

Cyfleoedd Llysgennad STEM
 

 

Pentre Gwyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol – cyfraniad gan Lysgenhadon STEM

 

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni gyda digwyddiadau yn digwydd ar draws ardal y Bae. Roedd y Pentref Gwyddoniaeth yn boblogaidd iawn gyda teuluoedd trwy gydol yr wythnos gyda Llysgenhadon STEM yn cyfrannu’n sylweddol at ei lwyddiant.


Cyflwynwyd ystod o weithgareddau o Bioymoleuedd i Fodelu Molecylau i Godio gan Lysgenhadon STEM. Cynigiodd Llysgenhadon STEM eraill eu hamser i gyfarch, cynorthwyo a darparu cefnogaeth i ymwelwyr.

Cynigiwyd ymgysylltiad ymarferol gwych gan Lysgenhadon STEM o:
 

  • Ysgol Fferylliaeth Caerdydd: Gwyddoniaeth y Môr – o dan arweiniad Dr Arwyn Jones

  • Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol: Molecylau, Arogleuon a’u Strwythurau – o dan arweiniad Dr Dayna Mason

  • Her Godio DVLA: Rhaglennu

  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Roboteg


Bu’r Llysgennad STEM Ian Treen (DVLA) yn gwirfoddoli trwy’r wythnos gan ddarparu rhyngweithio bywiog bob dydd! 

"Dwi wedi mwynhau pob munud – hyd yn oed yr heriau – mae’r wythnos wedi hedfan"

Llysgenhadon STEM yn mynd yn Uwchsonig yn Ysgol Gynradd St Michael

Treuliodd y Llysgennad STEM a Bloodhound SSC Allan Reid, ynghŷd â’r Llysgenhadon STEM Jeff Webb a Karl Jones, ddiwrnod cofiadwy yn Ysgol St Michael ar yr 8fed o Fehefin fel rhan o’u Wythnos Wyddoniaeth.

Nod y diwrnod oedd cyflwyno’r car Uwchsonig Bloodhound SSC a all osod record byd newydd mewn cyflymder tir o 1000 mya.
Cyflwynodd Allan fanylion am ddyluniad y car a lle bydd yr ymdrechion record cyflymder tir yn digwydd. Roedd y cyflwyniad yn cynnwys rhai fideos wedi'u hanimeiddio'n ddeinamig yn dangos sut y bydd SSC Bloodhound yn edrych yn ystod ymdrechion record cyflymder tir yn Ne Affrica 2019.
Fe wnaeth y tîm Llysgennad STEM helpu Blynyddoedd 3 a 4 i ddylunio ac adeiladu eu ceir model eu hunain a adeiladwyd o becynnau Knex a ddarparwyd gan dîm Addysg Bloodhound SSC. Eglurodd Allan y meini prawf dylunio oedd eu hangen. Bu’r disgyblion yn gweithio’n eiddgar yn cynhyrchu cynlluniau unigryw a diddorol. Roedd cyfle i dimau asesu a gwella eu dyluniadau os oedd angen cyn y ras derfynol yn y prynhawn.

Defnyddiwyd yr iard chwarae i brofi a rasio’r modelau. Llwyddodd rhai o’r ceir i deithio hyd at 15 metr.
Nododd aelod o staff fod y disgyblion yn hawdd i'w hysbrydoli a'u cymell i gael budd llawn y profiad dysgu unigryw a phleserus hwn.
I'r rhan fwyaf o'r plant, dyma'r tro cyntaf iddynt weld neu ddefnyddio citiau Knex ac roedd hyn yn eu hannog i ddatblygu eu sgiliau dylunio a deheurwydd.
Diolchodd yr Athrawon Mrs Gates a Mrs Davies a'r holl blant i Jeff, Karl ac Allan am brofiad addysgol pleserus, adeiladol a diddorol iawn. Cyflwynodd Allan dystysgrif cyfranogiad Ysgol Bloodhound SSC wedi ei fframio i'r ysgol i'w harddangos.

Os hoffai eich ysgol neu eich sefydliad chi gael ymweliad gan Lysgennad Bloodhound SSC i roi sgwrs ar y Bloodhound SSC, cofrestrwch eich diddordeb yma:
www.bloodhoundssc.com

Apȇl Cynrhon gyda’r Athro Yamni Nigram 

Mae Yamni yn wyneb cyfarwydd mewn llawer digwyddiad STEM – gwelwch hi a’i thȋm yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni!
Sefydlodd Yamni Grŵp Ymchwilio Cynrhon Prifysgol Abertawe sydd yn edrych ar briodweddau meddyginiaethol cynrhon.

Mae ei gwaith allgymorth hynod o lwyddiannus wedi cynnwys ysgolion cynradd yn Abertawe a thu hwnt.
Yn ddiweddar cafodd ei gweithdy Cynrhon ar gyfer Ymgyrraedd yn Ehangach ei gyflwyno i grŵp o blant agored i niwed a’u gwarchodwyr.


Cafodd y gweithdy hefyd ei gyflwyno i glwstwr Cynradd Cynghrair Ebbw Fawr gan gynnwys:
 
Ysgol Gynradd Cwm
Ysgol Gymunedol Willowtown
Ysgol Gynradd Glyncoed
Cyfnod Cynradd Ebbw Fawr
Ysgol Gynradd RC All Saints
Ysgol Gynradd Rhos Y Fedwen

Mae trafod am ddatblygiadau cyffrous ar sut gellir cynnwys dysgu am Gynrhon a therapi Cynrhon yn y Cwricwlwm newydd.

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Dosbarth Feistr Bacterioleg yn Ysgol Pentrehafod

Bu’r Athro Edward Guy, Uwch Wyddonydd Clinigol gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymweld ag Ysgol Pentrehafod yn Abertawe yng Ngorffennaf. 
Roedd yr athrawes Rebecca Cassells wedi gwneud cais am sesiynau ar gymwysiadau Bioleg a Chemeg.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awyddus i hyrwyddo'r llwybrau gyrfa eang y maent yn eu cynnig i ddisgyblion sydd fel arfer yn ymwybodol o yrfaoedd meddygol mewn Gwyddor Gofal Iechyd yn unig.

Llwyddodd Ed i gyfuno Bacterioleg a Microbioleg a hyd yn oed i gynnwys cysylltiadau hanesyddol ar effaith ffliw Sbaeneg ar hanes y byd!

"Treuliais ddiwrnod ym Mhentrehafod ac roedd i weld wedi mynd yn dda. Mi wnes i 6 sesiwn 50 munud fel a ganlyn:
 
Samplu a phrofi Amgylcheddol
Mi es i â swabiau a dysglau petri i’r ysgol a bu un o’r dosbarthiadau yn gwneud samplu amgylcheddol o arwynebau. Siaradais gyda nhw am bacterioleg sylfaenol (bygiau a germau) yn ystod yr awr honno.

Ble mae’r bygiau?

Halogiad bacteriol o’r amgylchedd. Sut mae bacteria yn lledaenu a rhagofalon i’w osgoi. Roedd rhan o’r sesiwn yma yn edrych ar y bacteria oedd wedi tyfu o’r samplu blaenorol ac i adael iddynt ddod i’w casgliad ei hunain ynglŷn â lle mae’r risgiau mwyaf, h.y. pobl nid arwynebau!

Whodunnit

Dysgodd y plant sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i ddigwyddiad ac yna gwnaethant eu hymchwiliad eu hunain i wenwyn bwyd trwy gasglu gwybodaeth gan gleifion a darganfod y ffynhonnell.

Pandemigion

Pandemig ffliw Sbaeneg 1918 a sut iddo ladd 100 miliwn o bobl ac amharu ar fywyd bob dydd ar draws y blaned. Ei gymharu gyda’r digwyddiad SARS yn 2003 lle roedd y feirws yr un mor hawdd i’w ledaenu ac yr un mor farwol ond bu farw llai na 1000 o bobl. Dysgodd y plant pam bod ffliw Sbaeneg wedi achosi cymaint o broblemau a sut gwnaeth technoleg a chydweithio rhyngwladol rwystro SARS rhag bod mor ddifrifol.
 

Llysgennad STEM David Dodd yng Nghei Conna gyda Pyrotechnics!

Gosododd David ddau rwydwaith LV ffug fel sydd yn y lluniau.


Defnyddiwyd pyrotechnics i efelychu’r ffrwydriad fyddai’n digwydd pe bai’n sefyllfa go iawn. 

Roedd hyn i gyd wedi ei anelu at Weithwyr Adeiladu, Asiedyddion, Plymwyr a Thowyr.

Roeddym yn tanlinellu peryglon trydan, beth i edrych mas amdano, pa mor beryglus yw e ac hefyd bod ganddon ni rif ffôn newydd, 105, sydd yn rif cenedlaethol sydd yn galw cwmni ‘Trydan Lleol’ ble bynnag rydych  chi yn ffonio. Hefyd yr wybodaeth sydd ar gael ar wefan yr HSE fel "Avoiding danger from underground services - HSG47" ac " Avoiding danger from overhead power lines GS6".

Llysgennad STEM Carl Mason a’r Cadets yn hedfan!

 

Mae’r Llysgennad STEM Carl Mason yn beilot arolygu ar gyfer y Cwrs Awyrennau Cadets Morwrol.

Mae cymorth ymgysylltu STEM Carl yn cynnwys Corff Cadet Cyfunol a Chorff Cadet Gwirfoddol yn ogystal â’i yrfa gyda’r BBC!


“Aeth wythnos gyntaf yr ysgol ddaear yn dda a hedfanodd yr holl gadetiaid gyda'r Llynges yr wythnos honno.
Yn ystod wythnos dau hedfanodd y 12 cadet a ddewiswyd o wythnos 1 gyda Lt John Reeve RNR a mi. Pob un yn hedfan yn y Grob Motorglider ond stopiodd y tywydd unryw hedfan pellach.
Rydym nawr yn paratoi at yr wythnos olaf yn Awst gydag Adran Awyr y Llynges yn Yeovilton.

Cefais fy synnu pan gyflwynwyd bathodyn i mi ar ôl yr hediad cyntaf am gyflawni dros 50 awr o hediadau profiad i’r cadets!"

Cyfleoedd mewn ysgolion

 

Cymru Gyfan
 

 

Mae’r Greenpower Goblins angen eich help!
 

Mae galw brwd am Lysgenhadon o bob cwr o Gymru  i helpu Ysgolion Cynradd gyda’r prosiect yma.

Bydd disgyblion yn gweithio mewn timau i adeiladu a rasio ceir trydan: https://www.greenpower.co.uk/volunteering

Os gallwch gynnig bod yn fentor, cysylltwch os gwelwch yn dda. Bydd Ciara Doyle, Swyddog Rhanbarthol Cymru ar gyfer Ymddiriedolaeth Greenpower, wrth ei bodd yn clywed gennych.  

Ffair yrfaoedd i ysgolion Uwchradd, ‘Llwybrau Creadigol’

 

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. 20 Tachwedd (10am i 2:30pm).
Dyma'r drydedd flwyddyn i Gyrfa Cymru drefnu'r digwyddiad; mae'r ddwy flynedd flaenorol wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda disgyblion Blwyddyn 10, 11 a 6ed Dosbarth o ysgolion yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr yn mynychu. Eleni rydym yn ei agor i ysgolion yng Nghaerffili a Chasnewydd hefyd.
Eleni mae gennym thema ddigidol gydag ardal yn benodol ar gyfer cyflogwyr digidol creadigol. Cliciwch yma am ffilm o ddigwyddiad 2016 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd gan rai o'ch Llysgenhadon sy'n gweithio yn y sector creadigol ddiddordeb mewn mynychu.

 

Mentoriaid Cyflogadwyedd Caerloyw

 

Mae tȋm Addysg GFirst LEP yn sir Caerloyw yn chwilio am wirfoddolwyr busnes ysgogol a brwdfrydig i'n helpu i gyflawni ein rhaglen fentora mewn ysgolion uwchradd ar draws y sir.
Gan weithio gyda phobl ifanc rhwng 14-16 oed ar sail un i un, mae ein mentoriaid yn ymgysylltu â nhw i helpu i ddatblygu hyder, sgiliau cyflogadwyedd, a hefyd i'w helpu i archwilio eu dewisiadau addysgol a gyrfa yn y dyfodol. Mae mentora wedi cael ei ddangos i wella rhagolygon cyflogaeth hirdymor person ifanc yn gadarnhaol ac i'w helpu i gyflawni llwyddiannau critigol yn eu cymwysterau TGAU a chymwysterau uwch a ymgymerir yn hwyrach yn eu gyrfa academaidd.      
Mae pob darpar fentor yn derbyn hyfforddiant mentora cyn iddynt gael eu cyfateb gydag unigolyn yn un o’r ysgolion yr ydym yn gweithio gyda nhw.
Os ydych chi'n teimlo y gallech wirfoddoli'ch amser i helpu ysbrydoli a meithrin person ifanc wrth iddynt gymryd eu camau cychwynnol i gael gwaith, cysylltwch â Duncan Willoughby, Cydlynydd Menter: duncan.willoughby@gfirstlep.com neu ffoniwch 07803 411508.  

 

'Inspire the world with science'

Mae ITV yn chwilio am wyddonwyr ac ymchwilwyr i ddweud wrthym beth maent yn ei wneud, a pham ei fod yn bwysig, ar gyfer adran newydd yn ein cylchgrawn (Dyma ein rhifyn cyfredol - http://www.itvscience.com/magazine-issue-1-may-2018/)

Os hoffech chi, neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod, gael eich cynnwys yn yr Adran '10 seconds of Fame' (neu hyd yn oed cyfweliad mwy os byddai'ch ymchwil yn ddiddorol i ddarllenwyr) cysylltwch â
Cameron Costigan gyda disgrifiad dim mwy na 100 gair, a llun ohonnoch chi


www.itvscience.com
Info@itvscience.com

 

 

Codau post CAERDYDD a’r Fro
 

 

Cefnogi ‘Maths Inspiration Roadshow’ 11 Rhagfyr
Coleg Frenhinol Cerdd a Drama
Caerdydd
CF10 3ER

  • Mae’r sioe flynyddol hon yn ôl yn 2018!

  • Mae’r digwyddiad diddorol yma yn gofyn am 2 Lysgennad STEM i helpu cyn i’r sioe gychwyn

  • Cwrdd a chofrestru grwpiau ysgolion yna cewch fwynhau’r sioe gyda nhw!

  • Dim llawer o waith a dim angen paratoi – fy nghyswllt yw Rob Eastaway

 

Sesiynau STEM: Y Corff Dynol neu Trydan unryw ddydiad cyn / ar ôl hanner tymor
Ysgol Gynradd Lansdowne
Caerdydd
CF5 1JY

  • Mae’r athro Karl Redding yn chwilio am Lysgenhadon STEM all gynnig sesiwn i flwyddyn 3

  • Pwnc cyn hanner tymor: Y Corff Dynol

  • Pwnc ar ôl hanner tymor: Trydan

  • Ar gyfer dosbarth o 30 6 – 7 oed

 
 

Digwyddiad Dragons Den 19 & 20 Rhagfyr (dyddiad i’w gadarnhau)
Ysgol Uwchradd Gatholig St Illtyd
Rhymney
Caerdydd
CF3 1XQ
 

  • Bydd timau o ddisgyblion Bl 10 yn dylunio cynnyrch ac yn ‘pithco’ eu syniadau busnes i banel o ‘Ddreigiau’

  • Mae galw am Lysgenhadon STEM i fod yn aelodau o’r panel

  • Bydd pob ‘pitch’ yn cynnwys rôl poab aelod o’r tȋm – marchnata, dyluni, cyllid ayyb

  • Mae cais hefyd am bobl i fynd i mewn i’r ysgol ychydig o wythnosau ymlaen llaw i helpu’r disgyblion gyda’u cynlluniau: byddai pobl sy’n ymwneud â dylunio yn berffaith

  • Os hoffech fod yn Ddraig neu os gallwch helpu ymlaen llaw, byddaf yn gadael i Adrain Cole wybod

Caerdydd: Sesiwn Sgerbwd Dynol
Ysgol Gynradd Severn
Treganna
CF11 9DZ

  • Mae’r athro Sam Slater yn chwilio am Lysgennad STEM ar gyfer sesiwn ar y Sgerbwd Dynol

  • Ar gyfer Bl4 (7-8y oed)

  • Gellir trefnu unrhyw ddyddiad yn nhymor yr Hydref

Caerdydd: Y Ddaear Gynaliadwy ac Ailgylchu
Ysgol Gynradd Severn
Treganna
CF11 9DZ

  • Mae’r athro Sam Slater yn chwilio am Lysgennad STEM ar gyfer sesiwn ar Ailgylchu a Lleihau Ôl troed Byd eang

  • Ar gyfer Bl4 (7-8y oed)

  • Gellir trefnu unrhyw ddyddiad yn nhymor yr Hydref

YSGOL GYMRAEG - Caerdydd: Sesiynau Gwyddoniaeth
Ysgol Gymraeg Nant Caerau
Ely
CF5 5QZ
 

  • Mae’r athrawes Alaw yn trefnu Wythnos Wyddoniaeth. Mae’r ysgol yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Caerdydd gyda tua 30% yn derbyn Prydau Am Ddim.

  • Ei nod yn ystod Wythnos Wyddoniaeth yw adeiladu dyheadau bywyd y plant ac ennyn diddordeb y disgyblion mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg.

  • Mi fydd yn hapus i groesawu Llysgenhadon STEM i gyflwyno sesiynau ar unryw thema ac unryw bwnc!

Y Barri: Cefnogaeth Cyngor Gwyddoniaeth a Sesiynau CA2

Ysgol Gynradd Gladstone
CF62 8NA
 

  • Mae’r athro Stefan Hicks yn chwilio am gymorth gan Lysgenhadon STEM ar gyfer CA2

  • Byddai’r ysgol yn croesawu unai:

    • Trafdaeth gyda’r Cyngor Gwyddoniaeth

    • Gweithdai ar gyfer CA2

  • 30 ym mhob dosbarth a 2 ddosbarth ym mhob blwyddyn

  • Dyddiadau hyblyg

Caerdydd: Ymweliadau i lefydd gwaith

Ysgol Gynradd St Peters
Y Rhath
CF24 3SP.
 

  • Sesiynau STEM / ymweliadau i leoedd gwaith. Mae'r athro Phil Ryan yn awyddus iawn i adeiladu ar ymweliadau diweddar gan Lysgenhadon STEM ac i ddiwydiannau lleol.

  • Dyddiadau hyblyg.

  • Hoffai Phil glywed gan unrhyw Lysgenhadon STEM neu grŵp o Lysgenhadon a allai gynnig sesiwn neu ymweliad cwmni.

Disgyblion Bl4.  

Caerdydd: Gwyddoniaeth ar gyfer Blwyddyn 5

Ysgol Gynradd Lansdowne
Treganna
CF5 1JY 
 

  • Mae'r athro Karl Redding yn awyddus i gynnal sesiwn Llysgennad STEM.

  • Gall pynciau fod yn unrhyw beth: Y Gofod - Natur - Corff Dynol - Peirianneg a'r Byd o'n cwmpas.

  • Gall y sesiwn / gweithdy fod o 1 awr i hanner diwrnod fel sy'n addas i'ch sesiwn chi

Bro Morgannwg: ‘The More Complex Switch’: Sessiwn Trydan
Medi / Hydref unryw ddiwrnod oni bai am ddydd Llun
Ysgol Gynradd St David
Colwinston
CF71 7NL
 

  • Mae'r athrawes Karen Anthony yn gofyn am Lysgennad STEM i gyflwyno gweithdy ar bwnc ‘The More Complex Switch’ (manylion pwnc y cwricwlwm ar gael). Mae ei disgyblion yn Bl 5/6 (8 - 9 oed).

  • Mae unrhyw ddiwrnod Medi neu Hydref yn bosibl ac eithrio dydd Llun.

Sesiynau STEM i ddisgyblion Mwy Abl a Thalentog
Medi – Tachwedd dyddiadau hyblyg
Ysgol Uwchradd Gatholig St Richard Gwyn
Y Barri
CF63 1BL
 

  • Mae'r Pennaeth Cynorthwyol Amy Leftley yn chwilio am sesiynau STEM (o unrhyw ddisgyblaeth) ar gyfer ei disgyblion MAT.

  • Nod y sesiynau fydd trafod cyfleoedd yn eich maes arbenigedd.

  • Byddai bywgraffiad gyrfa a Chwestiwn ac Ateb neu gyflwyniad ddiddorol ar eich llwybr gyrfa

Marshfied Girl Guide Sesiwn Fforensig – unryw nos Lun 7.30 – 8.30pm
Neuadd Bentref Marshfield
3 Wellfield Road
Caerdydd
CF3 2UD
 

  • Mae’r Arweinydd Shona yn chwilio am ymweliadau Llysgennad STEM ar gyfer tymor yr Hydref

  • Maent yn awyddus i gael sesiwn ar Fforensig neu unrhyw bwnc sy'n gysylltiedig â Gwyddoniaeth Fforensig

  • Croesewir elfen ryngweithiol neu ymarferol

  • Mae 22 o Guides yn mynychu bob wythnos, rhwng 11 a 14 oed

Coda Post NP
 

Sesiynau STEM mewn ysgol Anghenion Arbennig (dyddiadau hyblyg)

Ysgol Bryn Derw
Melfort Road
Casnewydd
NP20 3Q
 

  • Mae'r athrawes Debbie Jenkins yn awyddus i gynnig profiad i’w disgyblion mewn STEM

  • Mae'r ysgol yn addysgu disgyblion anghenion arbennig (awtistig) yn Sir Casnewydd a'r ardaloedd cyfagos

  • Mae'r disgyblion yn ymateb yn dda iawn i ryngweithio ymarferol, profiad synhwyraidd ac ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y person

  • Mae'r dosbarthiadau yn fach iawn (uchafswm o 8 disgybl) gyda chymorth athro rhagorol


Dyam rai syniadau:

Ar gyfer anghenion ymddygiad

  • Unrhyw beth ffrwydrol sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth

  • Arbrofion gwyddoniaeth doniol

  • Y Gofod

  • Technoleg bwyd (gwneud cacennau a chinio).


 
Ar gyfer dosbarth synhwyraidd o blant di-eiriau:

  • Tan Gwyllt,

  • cynefinoedd / gaeafgysgu (draenogod ac ati),

  • edrych ar y sȇr,

  • gwyddoniaeth synhwyraidd (pethau sy'n newid lliw, mynd bang, ac ati),

  • coginio,

  • robotics-beebots syml,

  • Teganau sy’n gweithio gyda swits

Casnewydd: cefnogi cystadleuaeth her STEM BP ‘Reinventing Everyday Items’
Ysgol Rougemont
NP20 6QB
 

  • Mae disgyblion Blwyddyn 8 a 9 yn cystadlu yn Her STEM BP

  • Mae’r athrawes Alison Jenkins yn chwilio am Llysgennad STEM i ymweld â'i disgyblion i drafod syniadau

  • Yr her yw i ail-ddyfeisio eitemau bob dydd. Mae Alison yn gobeithio y gall Llysgennad STEM ddarparu syniadau ysbrydoledig

  • Mae'r disgyblion yn cwrdd yn eu Clwb STEM ar ddydd Llun 1.30pm - 2pm

 

**YSGOL GYMRAEG** Casnewydd: Trafnidiaeth a Chynllunio Ffyrdd: Dyddiadau hyblyg tymor yr Hydref
Ysgol Gymraeg Casnewydd
Casnewydd
NP18 2LN
 

  • Mae disgyblion Blwyddyn 3 a 4 yn ymchwilio i effeithiau ffordd newydd ar gynefinoedd lleol

  • Mae'r Dirprwy Bennaeth Rhian Evans yn awyddus i gael ymweliad gan Lysgenhadon STEM gydag arbenigedd mewn trafnidiaeth, cynllunio ffyrdd a'r ystyriaethau ar gyfer cynefinoedd lleol

**YSGOL GYMRAEG** Casnewydd: Sesiwn Tywydd Dyddiadau hyblyg tymor yr Hydref
Ysgol Gymraeg Casnewydd
Casnewydd
NP18 2LN
 

  • Mae disgyblion Blwyddyn 1 a 2 yn astudio systemau tywydd yn nhymor yr Hydref

  •  Byddai'r Dirprwy Bennaeth Rhian Evans yn gwerthfawrogi sesiwn neu weithdy Llysgennad STEM i ychwanegu diddordeb ac arbenigedd i'r pwnc

Casnewydd: Cyrff iach – Sut mae fy nghorff yn gweithio
Ysgol Gynradd St Julian
NP19 7UB

  • Mae'r athrawes Louise Robinson yn ceisio dod â ‘ffactor wow’ i'r thema 'sut mae fy nghorff yn gweithio?'

  • Mae'r thema yn cynnwys deall treuliad, sut i gadw dannedd yn iach, adnabod organau a gweithio ar ddeiet iach.

  • Mae'r disgyblion yn Bl 4 (8 oed)

  • Dyddiadau unrhyw amser Tymor yr Hydref

Casnewydd: Creigiau a Ffosiliau
Ysgol Gynradd St Julian
NP19 7UB
 

  • Mae'r athrawes Louise Robinson yn chwilio am ddaearegwr i gyfoethogi addysgu am greigiau a ffosilau

  • Mae'r thema wyddoniaeth 'creigiau a phriddoedd' yn cyd-fynd â dysgu'r myfyrwyr am y Rhufeiniaid

  • Mae'r disgyblion yn Bl 3 (6 oed)

  • Unrhyw adeg ar ôl hanner tymor Hydref

Casnewydd: Ymweliadau STEM
Ysgol Gynradd Crindau

NP20 5ND
 

  • Roedd yr athrawes Medi James a’i chydathrawon wrth eu bodd gyda ymweliadau Llysgennad STEM yn ystod tymor yr Haf
  • Byddai'r ysgol wrth eu bodd yn cynnal Llysgenhadon STEM yn nhymor yr Hydref
  • Mae croeso i bob pwnc a gellir trefnu'r dyddiadau yn unol â'ch amserlen chi

Casnewydd: Sesiynau STEM ar gyfer pob oed

Ysgol Gynradd St Woolos
Stow Hill
NP20 4DW
 

  • Hoffai'r athrawes Abi Watkins drefnu ymweliadau tymhorol gan wahanol Lysgenhadon STEM
  • Yn ddelfrydol, bydd Llysgenhadon yn cynnig 3 sesiwn yn ystod eu hymweliad fel y gall pob disgybl o'r grŵp blwyddyn brofi'r sesiwn
  • Gallwch chi ddewis pa flwyddyn i weithio gyda
  • Gellir ystyried unrhyw bwnc gan fod y cwricwlwm yn helaeth ac yn arbrofol

Casnewydd: Prosiect ‘Ditch the Dirt’

Ysgol Gynradd Clytha
NP20 4JT
 

  • Mae'r athrawes Jade Jones a'i disgyblion CA2 yn dechrau'r Her STEM newydd ar ddŵr glân.

  • Mae'r prosiect yn cwmpasu'r pwysigrwydd a'r dechnoleg y tu ôl i hidlo, rhidyllu a sut y gellir gwneud dŵr budr yn lân

  • Byddent yn gwerthfawrogi Llysgennad STEM i ymweld â'r prosiect a darparu rhywfaint o gyngor / mewnwelediad

Casnewydd. Brownies Rhiwderin sesiwn Gwyddoniaeth / Peirianneg

Unrhyw ddydd Mercher 5.30pm – 6.30pm.
 

  • Mae’r arweinydd Sam yn chwilio am Lysgenhadon STEM (yn enwedig menywod) i ymweld â'u grŵp. Byddent wrth eu bodd yn clywed eich stori gyrfa.

  • Os gallwch ddod â rhywbeth diddorol iddynt - demo neu weithgaredd byddai hynny’n wych.

Rhymni: Cynefinoedd i CA1
Ysgol Idris Davies
Abertysswg,
NP22 5XF
 

  • Mae'r athrawes Danielle Self yn chwilio am Lysgenhadon STEM a allai gynnig sesiwn ar Gynefinoedd (planhigion neu anifeiliaid) ar gyfer disgyblion CA1.

  • Mae'r disgyblion yn 4 oed - 6 oed

  • Unrhyw ddyddiadau y tymor hwn

**YSGOL GYMRAEG** Cil-y-Coed: Gweithdai STEM
Ysgol Y Ffin
Cil-y-Coed
NP26 4NQ
 

  • Mae croeso bob amser i Lysgenhadon STEM gynnig sesiynau ymweliadau / clwb ar ôl ysgol yn yr ysgol

  • Bydd yr ysgol hefyd yn cynnal digwyddiad Dydd Sadwrn teuluol - manylion i ddilyn – Bydd croeso i Lysgenhadon STEM

Coed Duon: Technoleg / Ffilm / Gemau cyfrifiadurol
Ysgol Gynradd Pontllanffraith
NP12 2DN

  • Mae'r athrawes Carys Price yn chwilioam  Lysgennad STEM am un sesiwn neu gyfres o sesiynau (eich dewis chi)

  • Mae ei disgyblion Bl 5 a 6 yn gweithio ar brosiect ac eisiau gwneud ffilm fer neu glip fideo.

  • Os gallwch chi gynnig cyngor ymarferol neu sesiwn fer, bydden nhw wrth eu bodd!

**YSGOL GYMRAEG** Caerffili: Ymweliad i Glwb ar ôl ysgol neu amser cinio
Ysgol Gymraeg Trelyn.
NP12 3ST.
 

  • Mae Liz Owen yn awyddus i groesawu Llysgenhadon STEM. Mae disgyblion CA2 yn gweithio ar Chwarae gyda Ffiseg (Bl 3/4) a Ynni Golau a Sain (Bl 5/6)

  • Sesiwn un awr 3.30 -4.30 neu ymweliad amser cinio

  • Dyddiadau hyblyg

Pont-y-Cymer: Pynciau Gwyddoniaeth – Dyddiadau hyblyg
Ysgol Gynradd Waunfawr
NP11 7PG.

    • Mae'r athrawes Joanne Cueto yn chwilio am sesiynau Llysgennad STEM ar unrhyw un o'r canlynol:

    • Fi fy Hun neu Dan y Môr neu Castelli Rhyfeddol Meithrin - Bl2

    • Tecstilau neu 'Sut mae fy nghorff yn gweithio'. Bl 3 & 4

    • Byw'n Iach a Bwyd. Bl 5 & 6

Sir Pen-y-Bont; Rhondda; Merthyr Tydfil
 

Title

Ysgol Gynradd Oldcastle Wythnos STEM Tachwedd (12 – 16 Tachwedd)
Pen-y-Bont
CF31 3ED

Cynhelir yr wythnos STEM flynyddol ym mis Tachwedd
Mae'r athrawes Katie Coleman unwaith eto yn chwilio am Lysgenhadon STEM i gynnal:

• Gweithdai ymarferol
• Sgyrsiau
• Ymweliadau safle â gweithleoedd / lleoedd o ddiddordeb

Mae pob grŵp Blwyddyn Gynradd yn gysylltiedig - gallwch ddewis o Feithrinfa - bl 6
Y thema gyffredinol yw Ecoleg / Cynaliadwyedd ond bydd yr holl gynigion yn cael eu derbyn!

Wythnos STEM 22 – 26 Hydref
Ysgol Uwchradd Pontypridd Safle Albion, Cilfynydd, CF37 4SF
 

  • Mae'r athrawes Sian Brayford yn chwilio am ystod eang o sesiynau gan Lysgenhadon STEM

  • Gellir dewis unrhyw ddiwrnod o'r wythnos hon

  • Dewiswch pa oedran i weithio gyda o 11 i 18 oed

  • Mae Sian yn croesawu sgyrsiau, cyflwyniadau, gweithdai

Rhondda Cynon Taf:  Cefnogaeth gweithdy Ecoleg

Bl 9 & 10 
Ysgol Rhydywaun
CF44 9ES
 

      • Mae'r athrawes Leana Stansfield yn bwriadu rhedeg gweithdai ar ecoleg

      • Gall y rhain gynnwys dipio pwll, arolwg cen, pridd neu samplu gan ddefnyddio pedrannau

      • Yn y lle cyntaf, byddai Leana a'i chydweithwyr yn dymuno trafod â Llysgenhadon STEM ar gynnwys y sesiwn
      • Mae cymorth pellach yn ddewisol


Merthyr Tydfil: Wythnos STEM
Ysgol Gynradd Pantysgallog
Dowlais,
CF48 2AD

  • Bydd yr athro Craig Lynch yn falch o glywed gan Lysgenhadon STEM a all gynnig sesiwn yn ystod Wythnos Wyddoniaeth.
  • Byddai Craig yn falch o unrhyw gynigion o gefnogaeth - byddai croeso arbennig i sesiwn ryngweithiol neu arddangosiad

‘Stop the Spread’: Pythefnos cyfoethogi CREST Ysgol Bishop Hedley
Merthyr Tydfil
CF47 9AN
 

  • Bydd disgyblion yr athrawes Laura Seedat yn cymryd rhan mewn dylunio, cynhyrchu a phrofi model a fyddai'n helpu gyda golchi dwylo mewn gwledydd yn Africa.

  • Byddai wrth ei bodd yn cael help gyda chyflwyno neu brofi'r modelau hyn, neu ymweliad gan rywun sy'n gweithio mewn profion labordy ar gyfer micro-organebau.

Merthyr Tydfil: Sesiynau Gwyddoniaeth

Ysgol Gynradd Trelewis
CF46 6AH

Nid oedd yr ysgol yn gallu cynnal Wythnos Wyddoniaeth ym mis Mawrth, ac nid ydynt am i'r disgyblion golli'r profiad
 

  • Mae'r Athro Jonathan Keefe yn chwilio am unrhyw sesiynau pwnc STEM.

  • Gallwch gynnig ar gyfer unrhyw grwpiau oedran 5 oed - 10 oed, a bydd pob pwnc yn cael ei dderbyn.

  • Mae'r disgyblion yn astudio Gofod, Trydan, Ysgafn, Sain, Amgylchedd, Cynefin, Y Corff Dynol, Technoleg, pynciau Peirianneg, a llawer mwy

Bargoed: STEM - Ffrangeg
Ysgol Lewis Pengam
Pengam,
CF81 8LJ
 

  • Mae Ffion McCarthy am drefnu sesiwn i fechgyn blwyddyn 8 am bwysigrwydd dysgu Ffrangeg gyda phynciau STEM.

  • Eu nod yw codi ymwybyddiaeth disgyblion o bwysigrwydd dysgu iaith a gweithio mewn amgylchedd STEM

  • Mae hon yn ysgol uwchradd i fechgyn yn Pengam

 Cymwysiadau Cyfrifiadureg.

Ysgol Lewis Pengam
Bargoed
CF81 8LJ.
 

  • Mae'r athro David Eyles yn awyddus iawn i gynnal sgyrsiau neu weithdy Llysgenhadon STEM ar Gyfrifiadureg. Mae'n hyblyg ar ddyddiadau.

  • Mae nifer fawr o ddisgyblion (bechgyn i gyd) yn frwdfrydig am gemau cyfrifiadurol, rhaglennu a chymhwyso cyffredinol mewn gyrfaoedd.

Codau post SA

Newid Hinsawdd: Prosiect Ysgolion mewn cydweithrediad â Llysgenhadon STEM Prifysgol Abertawe

Mae Dr Jennifer Rudd yn ceisio cysylltu â Llysgenhadon STEM sydd wedi datblygu / cyflwyno sesiynau Newid Hinsawdd mewn ysgolion.

Mae Jennifer a'i chydweithwyr yn datblygu gweithdy ac adnoddau y maent yn anelu at gynnig i Ysgolion Uwchradd ledled Cymru a byddai'n gwerthfawrogi trafodaethau gyda Llysgenhadon STEM profiadol.

Os hoffech gynnig cyngor, cysylltwch â mi.  

Abertawe
**YSGOL GYMRAEG** Sesiwn Labordy BTEC Gwyddoniaeth
Ysgol Ystalyfera
Ystalyfera
Abertawe
SA9 2JJ

Mae'r athrawes Bethan Murphy yn ceisio cyflwyniad neu arddangosiad byr ar Systemau Gwybodaeth Labordy ar gyfer myfyrwyr BTEC lefel 3.
Mae'r modiwl yn gofyn i fyfyrwyr:

  • Disgrifiwch y drefn ar gyfer storio gwybodaeth mewn system rheoli gwybodaeth labordy

  • Esboniwch y prosesau sy'n gysylltiedig â storio gwybodaeth mewn gweithle wyddonol

  • Trafodwch y manteision a geir trwy gadw data a chofnodion ar system gwybodaeth rheoli labordy

Sesiwn Prosiect Ysgol Gynradd: Rhannau prosthetic: unrhyw ddyddiad cyn y Nadolig
Ysgol Ynystawe
Treforys
SA6 5AY

  • Mae'r Athro John Jenkins yn ceisio Llysgennad STEM ar gyfer sesiynau mewnwelediad sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn

  • Bydd yr ysgol gyfan yn cymryd rhan

  • Gallai'r cyswllt fod â pheirianneg, anatomeg dynol, addasu, seicoleg ac ati

  • Gallwch gynnig sesiwn ar gyfer unrhyw grŵp Blwyddyn, unrhyw amser a dyddiad

Abertawe: Prosiect ‘SCREAM Theme’

Ysgol Gynradd Cadle
Fforest Ffach
SA5 5DU
 

  • Mae Cydlynydd Gwyddoniaeth Jamie Davies yn chwilio am Sesiynau Llysgennad STEM i'w ddisgyblion

  • Maent yn dilyn prosiect o'r enw 'Scream Theme' sy'n edrych ar reids mewn Parciau Thema

  • Mae'r ysgol mewn ardal ddifreintiedig ac nid oes gan ddisgyblion brofiad gwyddoniaeth ddiddorol y tu allan i'w cwricwlwm ysgol

  • Byddai Jamie yn croesawu Llysgennad STEM i gynnig cefnogaeth sy'n edrych ar Ffiseg, Peirianneg a Gwyddoniaeth reidiau Parc Thema

Gŵyr: Ymweliad Clwb STEM Club unrhyw dydd Mercher

Ysgol Gynradd Pennard
Gŵyr
SA3 2AD
 

  • Galw pob Gwyddonydd a Pheirianwyr

  • Mae Ysgol Gynradd Pennard yn awyddus i gynnal Llysgenhadon STEM yn y Clwb amser cinio

  • Mae Blynyddoedd 3 - 6 yn mynychu (6-10 oed)

  • Croeso mawr i arddangosiadau neu weithgareddau ymarferol

Ffug Gyfweliadau: 21 & 22 Tachwedd

Ysgol Uwchradd Penyrheol
SA4 4FG

Nod y Cyfweliad yw rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio ac ymarfer y sgiliau, yr agweddau, y gwerthoedd a'r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith trwy sesiwn ffug gyfweliad.
 

Unrhyw amser gallwch ei roi rhwng 8.45am a 3pm
 

Ffug Gyfweliadau Hendy-gwyn Sir Gaerfyrddin

Ysgol Dyffryn Taf
Hendy-gwyn
SA34 0BD

1 Hydref a / neu 2 Hydref

Nod y Cyfweliad yw rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio ac ymarfer y sgiliau, yr agweddau, y gwerthoedd a'r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith trwy sesiwn ffug gyfweliad.
 

Unrhyw amser gallwch ei roi rhwng 8.45am a 3pm
 

Abertawe: STEM – FFRANGEG – SBAENEG

Ysgol Uwchradd Dylan Thomas
Sgeti
SA3 0FR

  • Mae'r athrawes Lucy Griffin yn ceisio Llysgennad STEM gyda sgiliau iaith Ffrangeg neu Sbaeneg

  • Mae disgyblion Bl 7 yn astudio Sbaeneg gyda Ffrangeg yn cael ei gyflwyno yn Bl 8

  • Byddai'r sesiwn yn canolbwyntio ar yrfaoedd gyda Mathemateg / Gwyddoniaeth / Peirianneg / Tech ynghŷd ag ieithoedd tramor modern.

  • Cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau iaith, nid yn unig dramor ond hefyd yng Nghymru

  • Mae llawer o'i myfyrwyr o gefndir eithaf inswleiddiol, statws economaidd-gymdeithasol isel, llawer â medrau llythrennedd is na'r cyfartaledd cenedlaethol.

  • Yn ddelfrydol 4 sesiwn gydag egwyl cinio rhwng sesiynau

Byddai hwn yn gyfle gwych i'r disgyblion hyn gan fod ganddynt lai o gyswllt â gweithwyr proffesiynol STEM.

Codau post LL

Gwledd Conwy 26-28 Hydref
Neuadd Ddinesig
Conwy LL32 8AY

  • Bydd gan y Gymdeithas Frenhinol Bioleg stondin gwyddoniaeth ymarferol yng Ngwledd Conwy ar 26-28 Hydref https://www.rsb.org.uk/events?event_id=2374

  • Maent yn ceisio gwirfoddolwyr i ymuno â ni i helpu'r tîm RSB i gyflwyno nifer o weithgareddau gwyddoniaeth ymarferol.

  • Os hoffech wirfoddoli, anfonwch e-bost at Amanda Hardy amanda.hardy@rsb.org.uk a byddwch yn cael manylion pellach cyn y digwyddiad.

Gogledd Ddwyrain Cymru Ffug Gyfweliadau: Ardal Wrecsam
Nod y Cyfweliad yw rhoi cyfle i bobl ifanc archwilio ac ymarfer y sgiliau, yr agweddau, y gwerthoedd a'r rhinweddau sydd eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith trwy sesiwn ffug gyfweliad.
 
Bydd pob gwirfoddolwr yn gwneud 6 cyfweliad 30 munud.
3, 4, or 5 Hydref Ysgol Y Grango Wrecsam   LL14 1EL Blwyddyn 11 Bore yn unig

26 Hydref Ysgol Rhiwabon Wrecsam LL14 6BT Blwyddyn 11 Bore yn unig

17 Ionawr 2019 Ysgol St Joseph’s Wrecsam LL13 7EN Blwyddyn 11 Bore yn unig

25 Ionawr 2019 Ysgol Rhosnesni LL13 9ET Blwyddyn 11 Bore yn unig

22 Chwefror 2019 The Maelor Wrexham LL13 0LU Blwyddyn 11 Bore yn unig
22 Mawrth 2019 Ysgol Bryn Alyn Wrexham LL11 4HB Blwyddyn 11 Bore yn unig
11 Ebrill 2019 YSgol Uwchradd Darland Rosett LL12 0DL Blwyddyn 10 Bore yn unig
 


Rhifedd yn y Gwaith: Ysgolion Uwchradd Darland a Bryn Alyn

Mae'r rhain yn weithdai dan arweiniad cyflogwyr sy'n cynrychioli gwahanol sectorau.
Mae angen gweithdy 6 x 40 munud yn siarad â grwpiau o tua 20-25 o ddisgyblion.
Mae gofyn i’r gweithdy / sgwrs ganolbwyntio ar yrfaoedd a chyfleoedd yn eu sector a phwysigrwydd mathemateg.
Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i ddisgyblion Blwyddyn 8 neu 9 ddeall pwysigrwydd mathemateg a dechrau datblygu'r sgiliau a'r agweddau sy'n angenrheidiol ar gyfer byd gwaith.

21 Tachwedd Ysgol Uwchradd Darland Rosett LL12 0DL Bl 8 & 9, 9.00am – 1.30pm

6 Mawrth 2019 Ysgol Bryn Alyn Wrecsam LL11 4HB Bl 7 9am – 12pm
 

Ffair Gyrfaoedd 6 Chwefror 2019
Neuadd Chwaraeon Prifysgol Glyndwr
LL11 2AW

Nod y digwyddiad yw cynyddu a gwella ymwybyddiaeth disgyblion o'r cyfleoedd gwahanol a'r llwybrau gyrfa galwedigaethol sydd ar gael iddynt. Mae'r fformat yn anffurfiol lle mae llysgenhadon gwirfoddol o wahanol sectorau yn siarad gyda pobl ifanc yn rhoi cipolwg iddynt ar eu gyrfaoedd a'u teithiau bywyd
Bl 10 –13 (GCSE / lefel A) ysgolion lleol

Carwsel Cyflogwyr ‘World of Work’ 12 Chwefror 2019

Ysgol Bryn Alyn
Wrecsam
LL11 4HB

6 o weithdai 45munud gan gyflogwyr. 
Maent yn ffordd bwysig o hwyluso dysgu myfyrwyr am fyd gwaith. Nodwedd o ddigwyddiad World of Work yw bod cyflogwyr yn cymryd rhan yn cyflwyno astudiaethau achos yn seiliedig ar eu profiad eu hunain
 

Her ‘Stockbroker’ 24 a 25 Mehefin 2019 9.00am – 1.30pm
 

Ysgol Uwchradd Darland
Rosett
LL12 0DL

Gwahoddir 6 Llysgennad gyda rhywfaint o brofiad o ddiwydiant / busnes i gefnogi'r her.
Bydd disgyblion Blwyddyn 8 a 9 yn cyflwyno prosiectau ac yn cymryd rhan mewn her tîm.

Ymweliadau safle i mannau o ddiddordeb neu Sgyrsiau Ysbrydoledig
Gogledd Ddwyrain Cymru

Os gallwch chi gynnig ymweliad safle neu sgwrs ysbrydoledig ar gyfer ysgol yn eich ardal, fe'i gosodaf mewn cysylltiad â Lesley Lloyd Gyrfa Cymru Gogledd Ddwyrain.
Mae Lesley wedi derbyn ceisiadau gan ysgolion am ymweliadau. 
 

Sŵ Caerprosiect EU ‘Vidubiology’ 9 Hydref 13.30

Bydd y prosiect EU vidubiology (graddfa fawr Erasmus a CA2) http://vidubiology.eu yn cynnal gweithdy i athrawon Bioleg a Gwyddoniaeth CA3 yng Nghaer. 
Manylion a ffurflen gofrestru ar wefan y prosiect  http://vidubiology.eu/vidubiology_workshop/ 
Does dim cost am y gweithdy ond mae cyfyngder ar y niferoedd.
Mae’r prosiect Erasmus plus, sy’n cael ei ariannu gan yr EU, Vidubiology – fideo creadigol ar gyfer Bioleg yn brosiect ar raddfa fawr i wella'r addysgu ac ymgysylltu â Bioleg a gwyddoniaeth, i fyfyrwyr yn yr ysgol (10 – 14 years).
Mae Vidubiology yn cynnig syniadau cyffrous ac effeithiol sut y gall fideo a chyfryngau gefnogi dysgu bioleg trwy ddarparu enghreifftiau clir o themâu biolegol sy'n addas ar gyfer cwricwlwm myfyrwyr, a ffyrdd gwych y gall myfyrwyr ddefnyddio camerâu yn annibynnol ac ar y cyd er mwyn gwella eu dysgu.
 

Bangor: Clwb STEM unrhyw ddydd Llun 3pm – 4pm

Ysgol Gynradd St Gerards
Bangor
LL57 2EL
 

  • Mae'r athrawes Tamzin Pritchard yn chwilio am Lysgenhadon STEM i ymweld â'r disgyblion yn eu Clwb STEM

  • Mae Tamzin wedi bod wrth ei bodd gydag effaith ymweliadau Llysgennad STEM blaenorol

  • Bydd yn falch i dderbyn unrhyw sesiwn STEM!

Treffynnon Sesiynau STEM – dyddiadau hyblyg

Ysgol Maes Y Felin
Sir y Fflint
CH8 7EN

  • Mae’r athrawes Tamsin yn chwilio am sesiynau ar gyfer disgyblion Sylfaen, Bl 1 / Bl 2

  • Y tymor nesaf maent yn codi dyheadau a nodau y disgyblion gyda’u thema 'Reach for the Stars'

  • Byddai croeso i bob pwnc STEM a bydd rhai elfennau rhyngweithiol yn bwysig

Llandudno Cefnogaeth Clwb Codio (neu sesiwn STEM cyffredinol)
Ysgol Bodafon

LL30 3BA
 

  • Mae'r ysgol yn chwilio am gefnogwr Clwb Codio neu sesiwn ar STEM yn gyffredinol.

  • Os gallwch chi helpu, mi fyddaf yn eich rhoi mewn cysylltiad ag Adam Davies wales@codeclub.org.uk

Prifysgol Bangor Ffair Yrfaoedd Gwyddorau Eigion
1pm – 3.30pm Dydd Mercher 13 Mawrth 2019
Porthaethwy
LL59 5AB
 

  • Mae Katrien Van Landegham yn gwahodd Llysgenhadon STEM i arddangos / mynychu'r digwyddiad Gyrfaoedd

  • Os hoffech gael presenoldeb, byddaf yn anfon eich diddordeb ymlaen

  • Bydd arddangoswyr yn cael cinio

  • Mae'r myfyrwyr yn astudio Bioleg, Gwyddorau Morol a Daeareg

 

Codau Post SY a LD

Sesiynau STEM ar gyfer disgyblion Mwy Abl a Thalentog

Unrhyw ddiwrnod yn nhymor yr Hydref
Ysgol Gynradd Gatholig St Mary’s
3 The Orchard,
Milford Rd,
Y Drenewydd
SY16 2DA
 

  • Mae'r athrawes Sarah Ruggeri sdlruggeri@icloud.com yn chwilio am sesiynau STEM o bob math sy'n canolbwyntio ar unrhyw bwnc

  • Mae'r disgyblion yn 5 oed - 11 oed, unrhyw grŵp blwyddyn o'ch dewis

  • Ysgol fach yw hon sy'n cychwyn ffocws STEM cryf y tymor yma

Croesoswallt Rhaglen o siaradwyr STEM
Marches School
Croesoswallt
SY11 2AR

Mae Meg Murphy yn gofyn am gefnogaeth Llysgennad STEM ar gyfer y diwrnodau canlynol

  1. 22 Hydref 2018           4          Siaradwr

  2. 6 Tachwedd 2018       1          Siaradwr

  3. 20 Tachwedd 2018     2          Siaradwr

  4. 4 Rhagfyr 2018           3          Siaradwr – paratoi at gyfweliadau

  5. 18 Rhagfyr 2018         4          Siaradwr

Mae'r sgyrsiau wedi'u hanelu at ddisgyblion Blwyddyn 9/10. Mae angen tua 30 munud.

Aberhonddu Sesiynau gwyddoniaeth cynradd. Dyddiadau hyblyg
 
Ysgol Gynradd Llangors
LD3 7UB. 

Mae’r athrawes Meg yn awyddus i gael ymweliad gan Lysgenhadon STEM ar unrhyw un o'r pynciau hyn:

a) Coedwigoedd glaw blwyddyn 3
b) Bywyd Môr a Morol - blwyddyn 4
c) Cynaliadwyedd - blwyddyn 5

Mae gwerthfawrogiad mawr am wirfoddolwyr yn yr ysgol fach wledig hon
 


Crughywel: Sesiynau STEM

Ysgol Gynradd Llangynidr
NP8 1LU.
 

  • Mae'r athrawes Claire Watson yn chwilio am Lysgennad i gyflwyno gweithdy neu siarad ar unrhyw bwnc STEM.

  • Croeso i bynciau diddorol rhyngweithiol  

NEWYDD AR GYFER YR HYDREF – codau post GL
 

Cais gan LEP Caerloyw, Gfirst, i gefnogi ysgolion cyfagos yng Nghaerloyw. Os gallwch chi gefnogi unrhyw gais, copïwch fi i mewn i neges i Duncan Willoughby



Mentoriaid Cyflogadwyedd

Cais am wirfoddolwyr busnes cymhellgar a brwdfrydig i helpu i gyflwyno ein rhaglen fentora mewn ysgolion uwchradd ar draws y sir.
Gan weithio gyda phobl ifanc rhwng 14-16 oed ar sail un i un, mae ein mentoriaid yn ymgysylltu â nhw i helpu i ddatblygu hyder, sgiliau cyflogadwyedd, a hefyd i'w helpu i archwilio eu dewisiadau addysgol a gyrfa yn y dyfodol.
Mae pob darpar fentor yn derbyn hyfforddiant mentora cyn iddynt gael eu cyfateb i unigolion sy'n gweithio yn yr ysgolion yr ydym yn gweithio gyda nhw. Bydd mentora'n ysbrydoli a meithrin person ifanc wrth iddynt gymryd eu camau cychwynnol i mewn i gyflogaeth.

Gweithgareddau ysgolion: Ffug Gyfweliadau a ‘Young Entrepreneurs’

 Young Entrepreneurs 9am-4pm


17eg Hydref 2018       Blwyddyn 9    Coleg Cheltenham      
9fed Tachwedd 2018 Blwyddyn 9     Ysgol Sir Thomas Rich’s, Caerloyw    
                       
Ffug Gyfweliadau 8.30am -1.30pm

19eg Hydref 2018       Blwyddyn 13 Ysgol Y Crypt, Caerloyw        
7fed Tachwedd 2018 Blwyddyn 13 Ysgol Churchdown, Caerloyw                        
8fed Tachwedd 2018             Blwyddyn 13 Ysgol Churchdown, Caerloyw
15fed Tachwedd 2018 Blwyddyn 11 Ysgol Dene Magna, Mitcheldean                    
20fed Tachwedd 2018 Blwyddyn 10 Ysgol Pittville, Cheltenham                   
30ain Tachwedd 2018 Blwyddyn 10 Ysgol Wycliffe, Stonehouse               
4ydd Rhagfyr 2018 Blwyddyn 12 Ysgol Sir Thomas Rich, Caerloyw           
10fed Rhagfyr 2018 Blwyddyn 12 Ysgol Archway, Stroud             
14eg Ionawr 2019 Blwyddyn 11 Ysgol Y Crypt Caerloyw       

        
Brecwast Busnes

13eg Tachwedd 2018                         Ysgol Y Crypt, Caerloyw
                       
2019 Ffug Gyfweliadau 8.30am -1.30pm

5ed Chwefror 2019    Blwyddyn 11 Ysgol Y Cotswold, Bourton-on-the-water
6ed Chwefror 2019    Blwyddyn 11 Ysgol Y Cotswold, Bourton-on-the-water
4ydd Mawrth 2019      Blwyddyn 11  Ysgol Chipping Campden                    
5ed Mawrth 2019        Blwyddyn 11 Ysgol Chipping Campden                     
5ed Mehefin 2019       Blwyddyn 10 Ysgol Archway, Stroud                                  
6ed Mehefin 2019       Blwyddyn 10 Ysgol Archway, Stroud                                  
12fed Mehefin 2019    Blwyddyn 10 Ysgol Churchdown, Caerloyw            
13eg Mehefin 2019    Blwyddyn 10 Ysgol Churchdown, Caerloyw            
20fed Mehefin 2019    Blwyddyn 10 Ysgol Maidenhill, Stonehouse       
      
Young Entrepreneurs

15fed Chwefror 2019 Blwyddyn 9 Ysgol Y Crypt, Caerloyw 8.30am-1.30pm                     
8fed Mawrth 2019 Blwyddyn 9 Ysgol Archway, Stroud 8.00am-3.00pm
 

Cyfleoedd Eraill
Plastig untro – Beth amdano?

 

Digwyddiad cyhoeddus NRN-LCEE ar blastig untro

Dydd Iau 18 Hydref 2018, Riverside Terrace, Stadiwm Principality, Caerdydd

Ewch i www.nrn-lcee.ac.uk/plastics am fwy o wybodaeth

Fe'ch gwahoddir i ymuno â'r digwyddiad cyhoeddus hwn sy'n darparu cyd-destunau a datblygiadau mewn ymchwil o ran problemau, heriau ac atebion ar gyfer plastigau untro (SUP). Bydd tair sesiwn:

  • Plastig Untro a'r Amgylchedd - Pam mae angen i ni (neu beidio) boeni am SUP? Beth yw maint y broblem llygredd a gwastraff yn yr amgylchedd?

  • Plastig Untro ac Arloesi - Beth sy'n newid? Beth sy'n digwydd gyda'r technolegau diweddaraf ar gyfer ailgylchu a datblygu dewisiadau amgen i SUP?

  • Plastig Untro yn y Gymdeithas - Beth yw rôl plastigion yn ein cymdeithas? Ydyn nhw yma i aros? Sut mae ymddygiad a dewis defnyddwyr yn effeithio ar heriau, arloesedd ac argaeledd SUP yn y dyfodol?

Bydd pump o siaradwyr o bob rhan o’r DU yn mynd i'r afael â'r themâu hyn a rhannu eu gwybodaeth a'u profiad fel y gallwch chi gael barn wybodus ar rôl a heriau plastigau untro mewn cymdeithas.

Siaradwyr

·        Edward Kosior, Nextek Ltd.
·        Yr Athro Gary Leeke, Prifysgol Cranfield
·        Yr Athro Wouter Poortinga, Prifysgol Caerdydd
       Dr Richard Quilliam, Prifysgol Stirling

  • 5ed Siaradwr i’w gadarnhau

Mae’r digwyddiad hwn am ddim (wedi ei gyfyngu i 100 o lefydd). Cofrestrwch yma

 
Update your preferences | Unsubscribe from marketing emails