Helo Lysgenhadon STEM Cymru
 
Bu eleni yn gam anhygoel arall yn llwyddiant rhaglen Llysgennad STEM. Mae ein tîm o Lysgenhadon STEM yng Nghymru wedi tyfu o 1590 i 2100 yn ystod y 12 mis diwethaf. O ganlyniad, mae eich cyrhaeddiad a'i effaith wedi arwain at ymrwymiad gwych: yn cofnodi mynediad at Lysgenhadon STEM yng Nghymru mae
  • 100% Ysgolion Uwchradd
  • 62% Ysgolion Cynradd
  • 84% Colegau AP
 
Cyflwynodd 370 o Lysgenhadon STEM weithgareddau STEM gyda grwpiau 'di-ysgol' fel Guides, Scouts, Cubs, Brownies ac mewn Ffeiriau Gwyddoniaeth gyda digwyddiadau teuluol.
Mae eich ymdrechion ac ymroddiad wedi cefnogi pobl ifanc, teuluoedd ac athrawon wrth gael gafael ar adnodd am ddim - cyfleuster prin y dyddiau hyn.
Mae 2018 yn dechrau gyda mwy o geisiadau Llysgennad STEM fel isod. Bydd y Llwyfan Digidol Llysgennad STEM newydd (STEM Ambassador Digital Platform) hefyd yn eich galluogi i weld eich proffil Llysgennad STEM newydd ac ardal ar gyfer ceisiadau ar-lein.
Gan ddymuno Blwyddyn Newydd hapus, iach a llawen i bob Llysgennad STEM,

Sian
 
Cynnwys
Newyddion
Ceisiadau am Lysgenhadon STEM 
Rownd Derfynol Her Codio y DVLA
 
                                         
Cynhaliwyd rownd derfynol cystadleuaeth wych Her Codio y DVLA yn eu canolfan yn Abertawe ar  Dachwedd 28: http://dvlacodechallenge.dvla.gov.uk
Roedd y diwrnod yn un yn steil X-Factor i Bencampwyr Codio Cynradd – roedd dolen fyw i ysgolion bleidleisio dros yr enillwyr gan sicrhau mai’r gynulleidfa oedd yn cael y gair olaf!
Cyflwynwyd y digwyddiad gan Lucy Owen o BBC Wales a croesawyd 27 o ysgolion cynradd o Ogledd, De Ddwyrain a Gorllewin Cymru. Mi gefais i’r fraint o fod yn un o’r panel Beirniaid. Gwaith y Swyddog Rhanbarthol Clwb Codio, Adam Williams, oedd hi i benderfynu pa 5 ysgol oedd yn mynd i’r Rownd Derfynol o’r nifer mawr iawn o ysgolion oedd wedi ymgeisio.  
Roedd timau wedi dewis un o 4 thema o Achub y Morfil, Gwrth Fwlio, Diogelwch Beicio a Byd Heb Geir.
Roedd gofyn iddynt greu gȇm fideo ar y thema. 
Gyda threfnu gwych, cafodd y disgyblion eu diddanu yn ystod y dydd gan arddangosfeydd awyr agored gan y Frigâd Dân, Incredible Oceans, Heddlu Diogelwch Ffordd a’r Fyddin.
 
Mae gan y DVLA (Abertawe) dȋm o 30 Llysgennad STEM oedd i gyd yn weithgar yn mentora ysgolion neu yn ymwneud â threfnu’r diwrnod. Heb y tȋm rhagorol yma ni fyddai’r diwrnod wedi bod yn bosib.  
Cafodd y digwyddiad ei drefnu a'i gyfarwyddo'n wych gan y Llysgenhadon STEM, Karen Pitt a Mark Jones. Sylwadau a lluniau ar y diwrnod rhyfeddol yma i'w gweld yma #DVLACodeChallenge
 
 
Yr enillwyr oedd
  1. Ysgol Gynradd EYN Usk
  2. Ysgol Our Lady and St Michael Y Fenni 
  3. Ysgol Berllan DegClod uchel Ysgol Gynradd Gwyrosydd Abertawe 
 
Roedd y gwobrau yn hynod o hael! Gwobr gyntaf o £3000, £2000 i’r ail, £1000 i’r trydydd, a £750 i’r rhai gafodd Glod Uchel.
Yn fwy na hyn aeth pob un o'r 250 o ddisgyblion oedd yno ar y diwrnod adref gyda rhodd yn ogystal â Lego Mindstorms ar gyfer pob ysgol oedd yno. Darparwyd cyfle i ennill ar-lein i ysgolion na allant fynychu.
Newyddion cyffrous: mae’r stori hon am barhau i Lysgenhadon STEM y DVLA ac ysgolion yn 2018!
 
 
 
Ffrwyth diwrnod STEM: Gweithdy Afalau gyda Ken Matthews ym Mrymbo  
 
Mae Llysgenhadon STEM, yn enwedig rhai newydd, yn aml yn gofyn am syniadau creadigol i gyflwyno sesiwn berthnasol ac ymarferol. Mae yna lawer o adnoddau da ar-lein, ond dyma un werth i'w ddarllen i'ch ysbrydoli chi!     
 
Mae Ken yn gwirfoddoli yng nghanolfan Treftadaeth Brymbo a bu’n cyflwyno gweithdy gwasgu afalau yn Ysgol St Mary’s.
“Gofynnodd yr ysgol gynradd yn Wrecsam i ni fod yn rhan o'u wythnos wyddoniaeth. Mynychodd 28 o blant gyda 2 o athrawon a Llysgenhadon STEM o Berllan Treftadaeth Brymbo, James Boardman, Ian Mclean a mi, Ken Mathews.
 
Mi drefnais i gyfres o weithgareddau i gyd yn gysylltiedig â gwyddoniaeth a mathemateg. Roedd y plant yn cyfrif yr afalau, yna eu rhannu'n 40 set gyda pob grŵp o 7 o blant yn gwneud y canlynol: 
1.     Pwyso’r afalau
2.     Glanhau’r afalau
3.     Malu’r afalau
4.     Cynhyrchu sudd
5.     Blasu’r sudd
6.     Rhoi’r sudd mewn potel
7.     Pasteureiddio’r sudd
 
Casglwyd yr holl ddata a’i ddadansoddi nȏl yn yr ysgol.
Dyluniwyd labeli ar gyfer cynwysyddion sudd gan dynnu llun rhai o'r afalau.
Roedd pawb wedi mwynhau'r diwrnod - a'r sudd - a byddant yn plannu coed yr wythnos nesaf ym Mherllan Brymbo.” 
 
Llysgenhadon STEM yn llygad y cyhoedd
 
Mae'n bleser mawr gennym ni i weld llwyddiannau Llysgenhadon STEM yn y maes cyhoeddus. Dyma rai eitemau newyddion da diweddar:
 
Alice Gray Blogiwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu Gwyddoniaeth.
Rhoddwyd sylw i Alice a’i rhaglen Science Fixers ar ITV Wales. Roedd cyfweliad gydag Alice ar eu rhaglen newyddion a gallwch ei weld yma: https://youtu.be/k6Q4gI7va_Q
Mae STEM Learning Ltd yn y broses o ddefnyddio’r clip yma yn y gymuned STEM ehangach o athrawon a Llysgenhadon STEM.
 



Dr Bill Lockitt Cyfarwyddwr Polisi Strategaeth yng Nghymunedau G2G.
Derbyniodd Bill wobr am y Llysgennad STEM mwyaf ymroddedig yng ngogledd a chanolbarth Cymru am ei waith fel darparwr allweddol o brosiectau arloesol yn y rhanbarth. Roedd ei sylwadau yn nodweddiadol o wylaidd, “Rwy'n hynod o falch bod y gwaith a wnaed gan Cymunedau G2G CBC ledled Gogledd Cymru wedi'i gydnabod. Mae gennym dîm o staff ymroddedig sy'n gweithio ar nifer o brosiectau arloesol i dynnu sylw at gyfleoedd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM), nid yn unig yng Ngogledd Cymru ond yn Fyd-eang. Trwy weithio gydag ystod eang o bartneriaid bydd Cymunedau G2G CBC yn parhau i wthio ffiniau STEAM mewn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru”.
 
 
Llysgennad STEM Stephen Pickles wedi ei wobrwyo yn Brentis y Flwyddyn Cymru.
Technegydd Cynhyrchu dan hyfforddiant yw Stephen ac yn ddiweddar fe gwblhaodd brentisiaeth gyda chwmni peirianneg a gwyddoniaeth fyd-eang, Renishaw. Enillodd 3 Categori yn y maes hynod gystadleuol hon:
  • Prentis 3ydd Flwyddyn gorau
  • Prentis Gweithgynhyrchu gorau
  • Prentis Eithriadol y flwyddyn.
 “Mae cael ei enwi yn brentis gorau Cymru yn gyflawniad gwych i Stephen ac mae hefyd yn cydnabod gwaith ein staff sydd wedi ei fentora ers iddo ymuno â'n cyfleuster Meisgin ger Caerdydd. Yn ogystal â'i brosiectau a'i gyflawniadau academaidd, mae Stephen hefyd yn un o'n 130 o Lysgenhadon STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) sy'n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau STEM. Fel rhan o'r rôl hon, mae'n rhedeg sesiynau gweithgaredd ac mae wedi cefnogi cystadlaethau car trydan Ffair Fawr Cymru a Greenpower. Y tu allan i'r gwaith, mae'n hyrwyddo gwerth prentisiaeth beirianneg yn ei grŵp sgowtiaid i ysbrydoli pobl ifanc i mewn i beirianneg.” Simon Biggs Swyddog Addysg Meisgin
https://www.facebook.com/RenishawEngineering/posts/10159434196440153

Llysgennad STEM Susan Jones wedi ei enwi yn 100 Uchaf cylchgrawn The Manufacturer.
Roedd Susan yn un o’r 20 Enghreifftiol yn y 100 Uchaf ac wedi ei gwobrwyo yn y categoriau canlynol: 
  • Arwr Di-glod
  • Arweinydd Ysbrydoledig
  • Gyrrwr newid diwylliannol
Sȇr wythnos STEM Ysgol Gynradd Oldcastle
Mae’r Llysgennad STEM Jacqui Murray yn gweithio gyda’r rhaglen Llysgenhadon STEM i drefnu ymweliadau gan Lysgenhadon STEM i’r ysgol ac ymweliadau gan ddisgyblion i weithleoedd yn ystod Wythnos STEM ym mis Tachwedd.
Bu 6 o Lysgenhadon yn cyflwyno sesiynau ymarferol:
  • Alun Armstrong: Dylunio ac Adeiladu
  • Jon Laver: Peirianneg ac Electromagnetedd
  • Mark Smith: Seryddiaeth a Grymoedd
  • Ysgol Niwrowyddoniaeth Caerdydd
  • Geoleg Amgueddfa Caerdydd
  • Fi: Electrolysis a Chemeg
 
 
 
Mae wythnos STEM Ysgol Oldcastle wedi'i ganmol gan Estyn yn eu hadroddiad. Mae adborth athrawon yn gyson uchel:  
“Diolch yn fawr am fynychu ein wythnos STEM ddoe. Fe gafodd y disgyblion amser gwych. Diolch am y gwaith caled yr ydych yn ei roi i drefnu a chyflwyno'ch sesiynau. 
Rwy'n gobeithio y gallwn gydweithio eto y flwyddyn nesaf ar STEM 2018”
 
Athrawes Katie Coleman
 
Lab mewn Lorri ar draws Cymru. Sesiynau isod. 
 
 
Teithiau Lab mewn Lori trwy Gymru. Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ac sy’n cael llawer o gefnogaeth. Gall Llysgenhadon STEM gofrestru i gael mynediad at yr amserlen a'r cyfleoedd i ymuno mewn ysgol yn eich ardal chi. Cynigir treuliau teithio ar gyfer pellteroedd anodd eu cyrraedd.
 
Mae Llysgenhadon STEM yn derbyn hyfforddiant ar yr arbrofion cyn y sesiwn. Mae croeso i bob cefndir STEM. Byddwch yn gweithio gyda thîm Lab mewn Lorri ochr yn ochr â Llysgenhadon STEM eraill. www.labinalorry.org.uk
 
Ionawr 2018    
Gogledd Ddwyrain 11 & 12 Ysgol St Brigid, Ffordd yr Wyddgrug, Dinbych, LL16 4BH.
De 16 & 17 Ysgol St Teilo, Caerdydd, CF23 9PD
De Orllewin 23 & 24 Ysgol Glan Y Mor & Ysgol Botwnnog, Ffordd Caerdydd, Pwllheli, LL53 5NU
De Ddwyrain 30 - 1
 
Ysgol Uwchradd Crughywel, NP8 1AW
Mawrth 2018    
De Orllewin 1&2 Ysgol Bro Gwaun, Heol Dyfed, Abergwaun, SA65 9DT.
Gogledd Orllewin Wythnos y 13eg
 
Digwyddiad Hwb ym Mhrifysgol Bangor.
Canolbarth 20 – 23 Ysgol Y Berwyn & Ysgol Y Moelwyn, digwyddiad hwb yn Y Bala.
 
Wythnos STEM Ysgol Gynradd Brampton Abbot. Ross on Wye HR9 7FX. 5 – 10 Mawrth.  Byddai’r athrawes Holly Field yn ddiolchgar iawn i gael Llysgenhadon STEM o Gymru i gefnogi ei hysgol gydag ymweliadau yn ystod Wythnos STEM. Mae'r ysgol yn ardal wledig y gororau. Bu Llysgennad STEM o Gymru yno yn ddiweddar ac maent yn awyddus iawn i groesawu mwy!
Cefnogaeth Cyfrifiadureg Barefoot
Mae Cydgysylltydd Codio Rhanbarthol o ERW yn gweithio gyda Chyfrifiadureg Barefoot i helpu i gefnogi eu gwaith ar gyfer prosiect "Cracio'r Cod" Llywodraeth Cymru. Bydd Barefoot yn darparu gweithdai i'r ysgolion ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Ceridigion, Castell-nedd Port Talbot a Phowys. Byddai’r Cydlynydd Prosiect Isy Grainger yn falch o glywed gan Lysgenhadon STEM sydd â diddordeb mewn cefnogi'r gweithdai enquiries@barefootcas.org.uk
 
 Canolbarth Cymru Girlguiding Cymru Broneirion Llandinam SY17 5DE. Wythnos Wyddoniaeth. Llun 12 - Iau 15 Mawrth 2018. 
                                                                                                                                                                   Mae'r Arweinydd Jo Woodall yn cynllunio wythnos yn seiliedig ar STEM ar gyfer Wythnos Guides flwyddyn nesaf. Bydd y sesiynau'n rhedeg o 10am - 2.30pm bob dydd. Byddai Jo yn croesawu Llysgennad STEM all wirfoddoli yn ystod yr wythnos trwy gynnig sesiwn. Byddai sesiwn yn rhedeg am 50 munud. 15 disgybl fesul gweithdy. Bydd y disgyblion yn CA2. Ar gyfer Llysgenhadon STEM benywaidd a hoffai helpu am y 4 diwrnod gallant gynnig treuliau llety. Os hoffech gynnig cymorth, fe wnaf eich rhoi mewn cysylltiad â Jo.


Gŵyl Gyrfaoedd Powys 2018. 7 Mawrth 2018 Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae croeso i Lysgenhadon STEM / Cyflogwyr fynychu gyda gweithgaredd ymarferol neu stondin yn y digwyddiad yma sydd fel arfer yn cael llawer o gefnogaeth. I gofrestru am le, cysylltwch â Jo  Shiel: joanna.sheil@careerswales.com Bydd cyfle i noddi'r digwyddiad eleni, os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â jayne.bevan@powys.gov.uk  
 
 
 

1. Caerdydd. Caffi Gwyddoniaeth: sgyrsiau neu bresenoldeb cyffredinol mewn cyfarfodydd gyda'r nos Science Cafe Cardiff‏ @SciCafeCardiff                                                                                                                          Mae Sri Ponnusamy yn croesawu Llysgenhadon STEM i roi sgwrs fer neu i gefnogi trwy fynychu Caffi Gwyddoniaeth Caerdydd. Cyfarfodydd ym mar Porters Bar, Teras Bute CF10 2FE, i gymdeithasu nos Fawrth cyntaf bob mis. Am bris cwpan o goffi neu wydraid o win, gall unrhyw un ddod i archwilio'r syniadau diweddaraf mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. 

2. Penarth. Digwyddiad Gwyddoniaeth Rhanbarth Beavers. Mawrth 3ydd 2018.  

                                                                                                                                  Mae Toria Thomas yn chwilio am wirfoddolwyr a/neu syniadau da i gefnogi bathodyn gwyddoniaeth rhanbarth Beavers ar Fawrth y 3ydd. Mae Beavers rhwng 6 ac 8 oed.

Maent yn bwriadu cynnal cyfres o safleoedd yn ystod y dydd sy'n cwmpasu amrywiaeth o arbrofion a phrofiadau gwyddoniaeth. Gall fod yn unrhyw agwedd ar wyddoniaeth. Pe bai Llysgennad STEM neu ddau yn gallu cynnal sesiwn byddai hynny'n wych. 

Gallwch gysylltu â Toria yn ystod oriau gwaith ar ddyddiau Mawrth, Iau a Gwener ar 02920 769077 neu y tu allan i hynny ar toria@penarthanddistrict.org.uk neu 07939 894250.
 

3. Lab mewn Lorri Ionawr 16 a 17 Ysgol St Teilo, Circle Way East, Caerdydd, CF23 9PD
Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ac sy’n cael llawer o gefnogaeth. Cynigir treuliau teithio ar gyfer pellteroedd anodd eu cyrraedd. Mae Llysgenhadon STEM yn derbyn hyfforddiant ar yr arbrofion cyn y sesiwn. Mae croeso i bob cefndir STEM. Ar gyfer disgyblion CA3. Byddwch yn gweithio gyda thîm Lab mewn Lorri ochr yn ochr â Llysgenhadon STEM eraill. Os am wybod mwy: www.labinalorry.org.uk  

4. Sesiwn ‘Webinar’ gyda Cynghorwyr Gyrfaoedd. Swyddfa Gyrfaoedd Cymru 27 High Street Merthyr Tydfil CF47 8DP.
Dyddiad i’w bennu gyda Llysgennad. Mae Kiara yn gofyn i Lysgenhadon STEM gyflwyno sesiwn 'webinar'. Nod y sesiwn yw cynnig syniad i Gynghorwyr Gyrfaoedd Ysgolion o'ch gwaith, gan ganolbwyntio ar eich llwybr gyrfa, beth yw'ch swydd a pha fath o gefndir STEM y byddai angen ar ddisgybl i ddilyn eich proffesiwn. Byddai'r sesiwn yn awr o hyd, wedi'i amseru am 3pm ymlaen. Os gallwch chi gynnig cefnogaeth, cysylltwch â mi.

5. Caerdydd. Afonydd, Dyfrffyrdd a thebyg. Ysgol Gynradd St Pauls Grangetown CF11 7EU. Dyddiad o’ch dewis chi.
Mae'r athro Matt Wilson yn awyddus iawn i gynnal sesiynau gyda Llysgenhadon STEM ar Afonydd, Daeareg Dyfrffyrdd a phynciau tebyg. Ar gyfer disgyblion Bl6 (10 oed)
 
 6.   Caerdydd. Ysgol Gynradd Springwood CF23 9LS. Wythnos STEM. Mawrth 12 – 17.

          Mae’r athrawes Catherine Rees yn awyddus i groesawu Llysgenhadon STEM 
          Mae ganddynt amserlen amrywiol (gofynnwch am fanylion). Hoffen nw sôn am
   Archwilio offer meddygol.
   Gweithgareddau Peirianneg, e.e. adeiladu pontydd a strwythurau syml.
   Archwilio gwahanol feysydd o wyddoniaeth – seicoleg, seryddiaeth, ffiseg.
   Archwilio ffosiliau. 
   Ymchwiliadau Ffiseg neu Gemeg.
Ar gyfer Cyfnod Sylfaen a CA2
6. Ardal Caerdydd - Penybont.  Cais am brofiad gwaith.
 
Mae disgybl Bl 12 yn chwilio am leoliad neu gyfle profiad gwaith cysylltiedig â ffiseg ar gyfer pwnc i'w gynnwys yn ei Bacc Cymreig. Mae'r disgybl yn arbennig o awyddus ar amgylcheddau ymchwil.  


7. Casnewydd. Grŵp Brownies Rhiwderin. Sesiwn Gwyddoniaeth / Peirianneg. Unrhyw ddydd Mercher 5.30pm – 6.30pm.
Mae’r arweinydd Sam yn chwilio am Lysgenhadon STEM (yn enwedig rhai benywaidd) i ymweld â’r grŵp. Byddent wrth eu boddau yn clywed stori eich gyrfa chi. Byddai’n wych os gallwch hefyd ddod â rhywbeth diddorol i’w ddangos neu i wneud gyda nhw. Gallaf eich rhoi mewn cysylltiad â Sam. 

8. Casnewydd. Ysgol GynraddSt Woolos.
Mae’r athrawes Abi Watkins yn chwilio am gefnogaeth gyda’r pynciau canlynol. Gellir trefnu dyddiadau i’ch siwtio chi:  
Cyfnod Sylfaen, Bl 1 a 2 – unrhyw weithgaredd STEM
Bl 3, 4 a 5 Cemeg
Bl 5 a 6 Y Corff a ‘Bugs’
 


9. Casnewydd. Ymweliadau Clwb STEM Club neu i ddisgyblion allan o’r ysgol.Ysgol Gynradd Gatholig St Patrick NP19 0NR
Mae Lindsay Smith yn chwilio am Lysgenhadon i ymweld â disgyblion Bl 5 & 6 yn eu Clwb STEM. Gallent drefnu adeg ar unryw ddydd bron rhwng 9 a 3. Byddai croeso mawr i unryw syniadau newydd ar sut i gyfoethogi’r cwricwlwm.
Dyma’r pynciau sy’n cael eu astudio:
Trydan;
Codio;
 Gwyddoniaeth Fforensig;
 Young Enterprise.
Os gallwch awgrymu unryw bwnc arall byddai Lindsay yn falch o glywed ganddo chi.
Maent hefyd yn chwilio am lefydd i ymweld â nhw fel amgueddfeydd, galeriau a phrifysgolion.
 


10. Casnewydd, Ysgol Bassaleg Noson Gyrfaoedd Dydd Iau 1 Chwefror 2018. Casnewydd NP10 8NF.
 
Mae disgyblion Blwyddyn 9 a Chweched Dosbarth yn mynychu'r digwyddiad hwn. Mae Llysgenhadon STEM wedi bod yn gefnogaeth allweddol i lwyddiant y noson yn y gorffennol. Byddai stondin neu arddangosfa fach yn ddelfrydol. Am ragor o wybodaeth neu i fynychu, fe wnaf eich rhoi mewn cysylltiad â Pat Williams.

11. Glynebwy. Digwyddiad Ysbrydoli.  Canolfan Chwaraeon Glynebwy. Blaenau Gwent NP23 6GL. 2 Chwefror  8.30am – 3pm.

Mae'r digwyddiad ar gyfer disgyblion Blwyddyn 9 - gyda ffocws ar hyrwyddo STEM. Mae amrywiaeth o gyflogwyr lleol yn mynychu i hyrwyddo cyfleoedd o fewn y diwydiannau fferyllol, peirianneg drydanol a pheirianyddol. Bydd 500 o fyfyrwyr yn mynychu'r digwyddiad ac mae’r trefnwyr yn awyddus i gael amrywiaeth o weithgareddau ymarferol gan Lysgenhadon STEM i ddisgyblion ymgysylltu â hwy. 

12. **YSGOL GYMRAEG** Cil-y-Coed. Diwrnodau Archwilio & Darganfod 9 – 16 Mawrth 2018 Ysgol Y Ffin Cil-y-Coed Casnewydd NP26 4NQ Chwilio am 2 Lysgennad STEM: 
 
Cyfnod Sylfaen:  Unryw bwnc STEM
CA2: Y Gofod ddydd Mercher Mawrth 14. Unryw bwnc weddill yr wythnos. 
 
Fy nghyswllt yw’r Llywodraethwr Liz Neal liz.a.neal@gmail.com copiwch fi i mewn i neges ati hi
 

13. **YSGOL GYMRAEG** Caerffili. Ymweliad i Glwb amser cinio neu ar ôl ysgol. Ysgol Gymraeg Trelyn. Caerffili NP12 3ST.
Mae Liz Owen yn awyddus i groesawu Llysgenhadon STEM. Mae disgyblion CA2 yn cwmpasu pynciau ar Chwarae gyda Ffiseg (bl 3/4) ac Ynni Golau a Sain (bl 5/6) Os gallwch chi gynnig sesiwn un awr 3.30 -4.30 neu ymweliad amser cinio, fe wnai eich rhoi mewn cysylltiad â Liz. Bydd unrhyw ddyddiadau y tymor nesaf yn wych.  

14. Caerffili. Pynciau Gwyddoniaeth isod. Ysgol Gynradd Waunfawr Crosskeys Caerffili NP11 7PG. Dyddiadau hyblyg.
Mae’r athrawes Joanne Cueto yn chwilio am sesiynau gan Lysgenhdaon STEM ar unryw rai o’r canlynol:  

Fi fy Hun, O dan y môr a Cestyll rhyfedd.  Meithrin - Bl2
Planedau a Chysawd yr Haul, Tecstiliau a Sut mae fy nghorff yn gweithio. Bl 3 & 4
Pontydd, Grymoedd a Gemau Olympaidd y Gaeaf, Byw yn iach a Bwyd. Bl 5 & 6
 

15. Caerffili. Grymoedd, Cadwyni Bwyd, Cynefinoedd, Cylchoedd Bywyd, Cyflyrau Mater. Ysgol Gynradd Cwm Ifor CF83 2PG. Unrhyw ddydd Mawrth i ddydd Iau.
Mae’r athro Andrew Rowlands yn gofyn am sesiynau ar y canlynol:
Bl 2: Cylchoedd Bywyd 
Bl 2: Grymoedd
Bl 6: Cyflyrau Mater
Bl 6: Cadwyni Bwyd / Cynefinoedd
 
16. Crughywel. Gwyddoniaeth Gwallgo. Ionawr 8 – Chwefror 9. Ysgol Gynradd Crughywel NP8 1DY.
  • Mae’r athrawes Sue Jones yn gofyn am sesiwn i Bl 5/6
  • Mae’r thema yn rhedeg rhwng Ionawr 8fed a Chwefror 9fed – gellir trefnu unryw ddyddiad
  • Tua 30 disgybl ymhob dosbarth
  • Bwriad y sesiwn yw i ysgogi plant trwy ddangos STEM fel gweithgaredd cynhwysol deniadol
 
17. Crughywel. 30 Ionawr – 1 Chwefror Lab mewn Lorri Ysgol Uwchradd Crughywel, New Road, NP8 1AW
Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ac sy’n cael llawer o gefnogaeth. Cynigir treuliau teithio ar gyfer pellteroedd anodd eu cyrraedd. Mae Llysgenhadon STEM yn derbyn hyfforddiant ar yr arbrofion cyn y sesiwn. Mae croeso i bob cefndir STEM. Ar gyfer disgyblion CA3. Byddwch yn gweithio gyda thîm Lab mewn Lorri ochr yn ochr â Llysgenhadon STEM eraill. Os am wybod mwy: www.labinalorry.org.uk  

18. Crughywel. Ffair Wyddoniaeth. Sesiynau a / neu Beirniadu Mawrth 12 a 13 (dewis o ba ddiwrnod) Ysgol Uwchradd Crughywel NP8 1AW.
Dau gais am y digwyddiad yma:
  • Syrcas o weithdai i flynyddoedd 7 ac 8. Sesiwn awr ar unryw bwnc STEM. Bydd angen ailadrodd y sesiwn yn ystod y dydd.
  • Beirniaid Ffair Wyddoniaeth: bydd disgyblion yn arddangos eu gwaith gyda’r nos. Mae gofyn am Lysgenhadon i fod yn feirniaid.


19. **YSGOL GYMRAEG** Caerffili. Ymweliadau Clwb STEM Ysgol Y Castell. CF83 1WH
Mae’r athrawes Lowri Davies yn cynnal Clwb STEM amser cinio bob dydd Llun. Mae Llysgenhadon STEM sydd wedi ymweld eisioes wedi gwneud argraff dda ar y disgyblion a'r athrawon. Byddai Lowri yn croesawu mwy o ymweliadau ar unrhyw ddydd Llun. Mae'r sesiynau'n 30 - 40 munud ac mae modd cynnwys unrhyw bwnc. Byddai croeso i arddangosfa fechan, maent yn hapus i ymestyn profiadau'r disgyblion.  

20. Caerffili GCSE Chwaraeon a Gwyddoniaeth. Ysgol Gyfun Rhymni NP22 5XF.
Mae’r athrawes Alex Strong yn chwilio am gefnogaeth gan Lysgenhadon STEM. Bydd disgyblion TGAU sy'n astudio Addysg Gorfforol yn ymdrin â phynciau megis ffisioleg, maeth, offer chwaraeon a phob pwnc cysylltiedig. Mae'r dyddiadau'n hyblyg. Byddai sesiwn gyda sgwrs, arddangosfa neu weithgaredd ymarferolyn wych.
 
21. Y Barri.  Ymweliad Clwb STEM Ysgol Gynradd Cadoxton Y Barri CF63 2JS.
 
Mae Hannah Cogbill yn cymryd Clwb STEM bob dydd Mawrth 3.30 - 4.15pm. Byddai Llysgenhadon STEM yn werthfawr i arwain unrhyw bwnc a sesiwn gweithgaredd STEM. Mae croeso i unrhyw Lysgennad i ysbrydoli ei disgyblion.

 22Penarth. Bring Science and Maths to Life. Headlands Special School St Augustine’s Rd CF64 1YY. Flexible dates as suit Ambassadors.
 
Mae’r athro Kevin Farrow yn gofyn am Lysgenhadon STEM ar gyfer ei ddisgyblion anghenion arbennig. Mae disgyblion rhwng 14 a 19 oed yn gweithio yn CA3 - 5. Byddai cymhwysiadau gwyddoniaeth / mathemateg mewn bywyd gyda gweithdy, sesiwn ymarferol yn wych. Dylai Llysgenhadon STEM nodi bod gan ddisgyblion anghenion emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol.

23.  Caerdydd. Ffeiriau Gyrfaoedd. Mae gwahoddiad i Lysgenhadon STEM sydd am gynrychioli eu cyflogwyr / gyrfa i fod yn rhan o’r digwyddiadau yma: 
  • 19 Ionawr 10am – 2pm Ysgol St Teilo Caerdydd CF23 9PD Bl 9,10 a disgyblion 6ed Dosbarth
  • 1 Chwefror 4.30pm – 6.30pm Ysgol Corpus Christi Caerdydd CF23 6XL Bl 9.10 11
 
24. Caerydd. Stadiwm Peldroed Cardiff City. 2 Mawrth 10am – 2.30pm Digwyddiad Prentisiaid wrth eu Gwaith.

Digwyddiad proffil uchel gyda 60+ o gyflogwyr, darparwyr a cholegau sy'n mynychu gyda phob un ohonynt yn cynnig Prentisiaethau. Mynychodd pob Ysgol Uwchradd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg y llynedd gyda Blwyddyn 11 a'r 6ed Dosbarth yn cael eu targedu. Mae angen Llysgenhadon / Cyflogwyr STEM sy'n gallu cynnig cipolwg ar yrfaoedd Prentisiaeth.


25. Caerdydd. Ysgol Gynradd St Peters Y Rhath CF24 3SP.
Sesiynau STEM / Ymweliadau i weithleoedd. Mae’r athro Phil Ryan yn awyddus iawn i adeiladu ar ymweliadau diweddar gan Lysgenhadon STEM ac i ddiwydiannau lleol. Dyddiadau’n hyblyg. Hoffai Phil glywed gan Lysgenhadon STEM unigol neu fel grŵp sydd yn gallu cynnig seswin neu ymweliad i gwmni. Mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ym mlwyddyn 4.


26. Caerdydd. Ysgol Gynradd Lansdowne. Gwyddoniaeth Bl 5 Treganna CF5 1JY 
Mae'r athro Karl Redding yn awyddus i gynnal sesiwn Llysgennad STEM. Gall pynciau fod yn unrhyw beth o Natur – Y Gofod - Corff Dynol - Peirianneg a'r Byd o'n cwmpas. Gall sesiwn / gweithdy fod o 1 awr i hanner diwrnod fel sy'n addas i'ch sesiwn


27. Caerdydd. Ysgol Gynradd Rhydypenau Llanishen CF14 0NX. Dylunio Cynnyrch, Dyfeisio, Anatomi Dynol.
Mae’r athrawes Clarissa Brind yn gofyn am sesiynau arbenigol ar gyfer ei disgyblion. Bl3: Anatomi dynol - y system dreulio, esgyrn, y gwaed. Bl6: Dyfeisio a Dylunio Cynnyrch. Os gallwch helpu gydag un o’r ddau, cysylltwch â mi.  

28. Pengam. Cymhwysiadau Cyfrifiadureg. Ysgol Lewis Pengam Bargoed CF81 8LJ.
 
Mae’r athro David Eyles yn gofyn am Lysgenhadon STEM i gynnig sesiynau, sgyrsiau neu weithdai ar Gyfrifiadureg. Mae’n hyblyg o ran dyddiadau. Mae nifer fawr o ddisgyblion â diddordeb mawr mewn gemau cyfrifiadurol, rhaglennu a chymhwyso cyffredinol mewn gyrfaoedd. Cysylltwch â mi os gallwch chi gefnogi.  

29. Tonypandy. Coleg Tonypandy. Sesiwn linc fideo gyda disgyblion Bl 9.
 
Dyddiadau hyblyg i siwtio Llysgennad STEM. Mae Adam Rayson yn gofyn am Lysgenhadon STEM i gymryd rhan mewn sesiwn cwestiwn ac ateb trwy linc fideo gyda disgyblion. Gall fod trwy bodlediad / gwegam / Skype. Hoffai Adam sesiwn am eich ymchwil / gwaith / gyrfa.  

30. Merthyr Tudful. Coleg Merthyr CF48 1AR. Sesiynau STEM. Unrhyw ddydd Mercher 1.15 – 3pm
Mae’r tiwtor Mark Richards yn gofyn am Lysgenhadon STEM (Perianneg / Gwyddoniaeth / Mathemateg) ar gyfer sgyrsiau neu weithdai. Y nôd yw i ysbrydoli myfyrwyr gydag ystod eang o yrfaoedd STEM.

31. Merthyr Tudful. Digwyddiadau Gyrfaoedd. Cais am Lysgenhadon STEM i fynychu’r digwyddiadau yma.
 
Os gallwch helpu am unryw gyfnod yn ystod y digwyddiad, mi wnai roi eich enw ymlaen i Joanne O’Keefe.  
 
Ysgol Uwchradd Cyfarthfa Dydd Mawrth 16eg Ionawr - 3.00pm – 6.00pm 
(yn cydfynd â noson rieni Bl 9 ond mae gwahoddiad i ddisgyblion a rhieni eraill i fynychu hefyd. (Bydd lluniaeth ar gael)

Ysgol Uwchradd Bishop Hedley– Dydd Iau 18fed Ionawr  11.30am – 6.00pm 
(i ddisgyblion Bl 9, 10 ac 11 yn ystod y dydd yna i rieni o 3.30

Ysgol Afon Taf CF48 3ED 27 Mawrth 1pm – 5pm.
Disgyblion a rhieni.



32.  Merthyr. Sesiynau STEM ar gyfer oedrannau gwahanol. Dyddiadau hyblyg. Ysgol Gellifaelog Merthyr Tudful CF47 9TJ
Mae Ysgol Gynradd Gellifaelog yn awyddus iawn i ddatblygu dealltwriaeth athrawon ar sut i gyfathrebu a darparu sesiynau STEM diddorol. Byddai’r Pennaeth, Sally Williams, yn hoffi i athrawon gael gweld sut mae Llysgenhadon STEM yn ymgysylltu â disgyblion. Os gallwch chi gynnig sesiwn ar unryw un o’r pynciau hyn mi wna i eich rhoi mewn cysylltiad â Sally
Blynyddoedd Cynnar:-
Grymoedd – gwthio/tynnu/cydbwyso
Ymchwilio sain
 
Bl 1&2:-
Grymoedd
Golau, cysgodion a sain
Anifeiliaid
 
CA2  

Tiroedd Pellenig
Astudiaeth o blanhigion mewn dau gynefin cyferbyniol: 
Ffactorau amgylcheddol sy’n effeithio beth sy’n tyfu ac yn byw yn y ddau gynefin; e.e heulwen, argaeledd dŵr, tymheredd
Anifeiliaid a sut maent wedi addasu i’r cynefinoedd gwahanol
Y Ddaear
Symudiadau dyddiol a blynyddol y Ddaear a sut mae’n effeithio hyd dydd a blwyddyn.

  

33. Pen-y-Bont. Diwrnod pontio STEM. Dydd Mawrth 6 Chwefror 2018. Ysgol Gyfun Bryntirion Pen-y-Bont CF31 1QR

Mae’r ysgol yn chwilio am sesiynau ar unrhyw bwnc STEM yn ystod y dydd. 8 sesiwn o 25 munud yr un yn cael eu darparu i ddisgyblion Bl 6 sy’n ymweld am y dydd. Byddai sesiwn ddiddorol gydag elfen ryngweithiol yn ddelfrydol. Mae croeso i chi ddod a chefnogi fy sesiwn i fel dewis arall.  

34.  Pen-y-Bont. Ymweliad Clwb STEM. Ysgol Gyfun Bryntirion CF31 1QR. Unrhyw ddydd Llun 3pm – 4pm

Mae cais brwd am Lysgenhadon STEM i ymweld â Chlwb STEM newydd. Mae’r athrawes yn croesawu unryw bwnc neu sesiwn yrfaoedd. Gallaf anfon unryw ddyddiadau rhydd sydd ganddoch at Helen Workman.

 
35. Ras Renishaw Greenpower Goblin 2018. Renishaw Meisgin (dyddiad ar benwythnos i’w gadarnhau)

Mae’r digwyddiad llwyddiannus hwn yn croesawu cefnogaeth y Llysgenhadon bob blwyddyn. Os hoffech fod yn rhan o’r digwyddiad nesaf fel mentor, beirniad neu dîm, cysylltwch â info@greenpower.co.uk.
 

 
 
 
 
 
1. Abertawe. Sesiynau Cyfweliadau Ffug Mae galw brwd am Lysgenhadon STEM ar gyfer ffug gyfweliadau. Unrhyw gyfnod rhwng 9 a 3 o’r gloch.
 
  • Ysgol Dylan Thomas 6 Chwefror
  • Ysgol Bishopston 27,28, Chwefror, 1 Mawrth
     
 
 
  1. STEM – Ffrangeg – Sbaeneg YSgol Gymunedol Dylan Thomas, Abertawe  SA3 0FR
  • Mae’r athrawes Lucy Griffin yn chwilio am Lysgennad STEM gyda sgiliau iaith mewn Ffrangeg neu Sbaeneg
  • Disgyblion Bl 7 yn astudio Sbaeneg gyda Ffrangeg yn cael ei gyflwyno yn Bl 8
  • Ffocws y sesiwn fyddai gyrfaoedd ond gyda STEM a ieithoedd tramor modern 
  • Cyfleoedd i ddefnyddio sgiliau iaith dramor ond hefyd yng Nghymru 
  • Mae llawer o'i myfyrwyr o gefndir eithaf inswleiddiol, statws economaidd-gymdeithasol isel, llawer â medrau llythrennedd is na'r cyfartaledd cenedlaethol.
    • Yn ddelfrydol 4 sesiwn gydag egwyl cinio rhwng sesiynau
 
Byddai hwn yn gyfle gwych i'r disgyblion hyn gan eu bod o ardal o Abertawe lle mae llai o gyswllt gyda gweithwyr proffesiynol STEM.
 
 
  1. Llanelli. Ysbrydoliaeth STEM i Ferched. Ysgol Bryngwyn Llanelli. SA14 8RP. Unryw fore Llun hyd at fis Mawrth 2018.
Mae'r athrawes Francesca Fair yn chwilio am Lysgenhadon STEM i ysbrydoli a chymell ei merched Bl 9 gyda stori gyrfa ysgogol. Mae’r merched yn fyfyrwyr da mewn grŵp gallu cymysg ond mae angen iddynt godi uchelgeisiau gyda llwybrau gyrfaoedd.
 
  1. Abertawe. Ffair Gyrfaoedd. 16 Chwefror. Ysgol Pentrehafod.
Bydd Llysgenhadon STEM yn gosod stondin a bydd disgyblion yn cerdded o amgylch yn gofyn am gyngor ar yrfaoedd ayyb
                                   
 

 

5.     Castellnedd. Sesiwn myfyrwyr MAT/GATE. Coleg Nedd Port Talbot Heol Dwr-y-Felin, Castellnedd, SA10 7RF unrhyw ddydd Mercher (12.30-1.30) neu ddydd Gwener (11.30-12.30)

Mae Sam Oxley yn chwilio am weithgaredd ymestyn a herio ar fater gwyddonol; maent yn fyfyrwyr GATE/MAT ac mae ganddynt broffil TGAU uchel ac yn gallu ymdopi â rhai syniadau heriol. Mae’r mwyafrif yn cymryd cemeg ac maent i gyd yn ymgymryd ag o leiaf un pwnc gwyddoniaeth.  
 
 
  1. Abertawe. Peirianneg i Flwyddyn 6. Ysgol Gynradd Dyfnant SA2 7SN. Mae’r Dirprwy ac arweinydd cwricwlwm, Tina Davies, yn chwilio am brofiad o beirianneg ar gyfer Blwyddyn 6. Maent wedi gweld Lab mewn Lorri ar gyfer Disgyblion Uwchradd a byddent wrth eu bodd yn cael fersiwn fach o weithgaredd ymarferol. Mae Gerau a Hylifau o ddiddordeb.
 
 
  1. Abertawe. Ymweliadau Clwb Gwyddoniaeth: STEM / Codio. Ysgol Pontarddulais SA1 8PD.  Unryw ddydd Iau 12.15pm – 1.00pm. Mae’r athrawes Michelle Wood yn gofyn am Lysgenhadon STEM ar gyfer gweithgareddau gwyddoniaeth neu weithgareddau datrys problemau. Mae disgyblion hefyd yn dysgu Scratch fel rhan o godio. 20 o ddisgyblion CA2/CA3 yn mynychu.
 
 
  1. Ceredigion. Llandysul. Gwyddoniaeth Meddygol Lefel 3. Sesiwn mesuriadau Ffisiolegol. Unrhyw ddyddiad y tymor yma. Ysgol Bro Teifi SA44 4JL 
Mae’r athrawes Rachel Rees yn gofyn am sesiwn neu sesiynau i edrych ar unryw un neu fwy o’r canlynol:
 
  • Prawf otosgopig,
  • Awdiometreg tôn bur,
  • Profion fforch diwnio tympanometreg,
  • Delweddu offthalmolig,
  • Mesuriadau pwysedd mewnllygadol.
 
 
 
Sir Benfro
  1. Abergwaun. 1 a 2 Mawrth Lab mewn Lorri Ysgol Bro Gwaun, Heol Dyfed, Abergwaun, SA65 9DT.
 
Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ac sy’n cael llawer o gefnogaeth. Cynigir treuliau teithio ar gyfer pellteroedd anodd eu cyrraedd. Mae Llysgenhadon STEM yn derbyn hyfforddiant ar yr arbrofion cyn y sesiwn. Mae croeso i bob cefndir STEM. Ar gyfer disgyblion CA3. Byddwch yn gweithio gyda thîm Lab mewn Lorri ochr yn ochr â Llysgenhadon STEM eraill. Os am wybod mwy: www.labinalorry.org.uk  


 
  1. Sir Benfro. Sesiynau Gwyddoniaeth. Unryw ddyddiad. Ysgol Gynradd Holy Name Abergwaun. SA65 9DF
Mae’r athrawes Abbie Davies yn awyddus i dderbyn help arbenigol ar unryw un o’r canlynol:
 
Dosbarth Un (3 a 4 oed)
Tymor 2 – Ni ein hunain
Tymor 3 – Trafnidiaeth
Dosbarth Tri (5 a 6 oed)
Tymor 2 – sut mae pobl yn effeithio’r amgylchedd leol ee sbwriel, llygredd dŵr, llygredd sain
Tymor 3 – Sut mae pethau’n gweitio – golau a sain
Dosbarth Pedwar - (7 a 8 oed)
Tymor 2 – Y Ddaear Gynaliadwy
Tymor 3 – Y Corff Dynol
Dosbarth Pump - (9 a 10 oed)
Tymor 2 – Grymoedd/Trydan
Tymor 3 – Cyd-ddibyniaeth Organebau
 
 
 
 
 
 
  1. Bangor. Ysgol St Gerards. Mae Tamzin Pritchard yn rhedeg Clwb STEM ar ddydd Mawrth rhwng 3 a 4 o’r gloch. Mae Tamzin wedi derbyn ymweliadau gan Lysgenhadon dros y tymor diwetha a byddai’n falch o gael ymweliadau newydd ar unrhyw bwnc STEM. Os na fedrwch fod yno ar gyfer y Clwb STEM, gall Tamzin drefnu diwrnodau ac amserau eraill. Bydd croeso arbennig i weithgareddau rhyngweithiol.
 
  1. Lab mewn Lorri Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ac sy’n cael llawer o gefnogaeth. Cynigir treuliau teithio ar gyfer pellteroedd anodd eu cyrraedd. Mae Llysgenhadon STEM yn derbyn hyfforddiant ar yr arbrofion cyn y sesiwn. Mae croeso i bob cefndir STEM. Ar gyfer disgyblion CA3. Byddwch yn gweithio gyda thîm Lab mewn Lorri ochr yn ochr â Llysgenhadon STEM eraill. Os am wybod mwy: www.labinalorry.org.uk  
    • 12 Ionawr  Ysgol St Brigid, Dinbych, LL16 4BH.
    • 23, 24 Ionawr Ysgol Glan Y Mor & Ysgol Botwnnog,Pwllheli, LL53 5NU
    • 13 – 19 Mawrth Digwyddiad Hwb ym Mhrifysgol Bangor
    • 20,21,22, 23 Mawrth Ysgol Y Berwyn & Ysgol Y Moelwyn, digwyddiad hwb yn Y Bala.
 
  1. Bangor. Cefnogaeth Clwb Codio. Ysgol Y Faenol Bangor LL57 2NN. Dydd Iau 3.30pm – 4.30pm.
Byddai Joanna Thomas a Martin Pike yn ddiolchgar am unrhyw help i redeg clwb codio ar ôl ysgol ar gyfer blynyddoedd 3 a 4. Bydd y disgyblion yn defnyddio www.j2e.com (yn debyg iawn i Scratch) ar gyfer codio sylfaenol a chydrannau Crumble i adeiladu a rhaglen robotiaid.
 
  1. Gwahanol ysgolion yn y Gogledd Ddwyrain. Sgyrsiau ar lwybrau gyrfa Prentisiaeth/Technegydd.
Mae Lesley Lloyd yn chwilio am amryw o Lysgenhadon sydd yn gallu rhoi sgyrsiau ar brentisiaethau fel dewis yn lle prifysgol.
 
  1. Gwahanol ysgolion yn y Gogledd Ddwyrain. Sgyrsiau Cyflogwr.
Mae Lesley Lloyd yn chwilio am amryw o Lysgenhadon sydd yn gallu rhoi sgyrsiau are eu gwaith. Mewn ysgol leol i chi.
 
  1. Wrecsam. Gŵyl Gyrfaoedd Dewiswch eich Dyfodol. 31 Ionawr 2018. Canolfan Chwaraeon Prifysgol Glyndwr
Mae Gyrfa Cymru yn gwahodd disgyblion o Flynyddoedd 10, 11, 12 a 13 o holl ysgolion uwchradd Sir y Fflint a Wrecsam. Gwahoddir Llysgenhadon STEM gydag arddangosfeydd, stondinau a chyfleoedd trafodaeth bwrdd gyda'r disgyblion. Nôd y digwyddiad yw cynyddu a gwella ymwybyddiaeth disgyblion o'r cyfleoedd gwahanol a'r llwybrau gyrfa galwedigaethol sydd ar gael iddynt.  
 
  1. Wrecsam Bl 11 Ffug Gyfweliadau 18 Ionawr 2018. Ysgol St Josephs LL13 7EN. Galw am Lysgenhadon STEM i fod yn gyfwelwyr gan roi adborth ar berfformiad a CV.
 
  1. Wrecsam Bl 11 Ffug Gyfweliadau 26 Ionawr 2018. Ysgol Uwchradd Rhosnesni LL13 9ET. Galw am Lysgenhadon STEM i fod yn gyfwelwyr gan roi adborth ar berfformiad a CV.
 
  1. Bangor. Ffair Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor. Dydd Mercher 14 Mawrth 2018.  
    Mae’r Llysgennad STEM Katrien Van Landeghem yn trefnu Ffair Yrfaoedd Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhorthaethwy ar y thema “Adnoddau Cynaliadwy”.  
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r ffair gyrfaoedd, rhowch wybod i mi. Bydd Katrien yn anfon gwybodaeth ychwanegol yn nes at yr amser a byddaf yn gofyn i chi faint fydd yn mynychu o’ch sefydliad a beth yw eich gofynion penodol ar gyfer eich arddangosfa. Yn anffodus, ni allant ad-dalu'ch treuliau ond gallant gynnig cinio i chi + te a choffi.  k.v.landeghem@bangor.ac.uk
 
 
  1. Gŵyl Gyrfaoedd Powys 2018. 7 Mawrth 2018 Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae croeso i Lysgenhadon STEM / Cyflogwyr fynychu gyda gweithgaredd ymarferol neu stondin yn y digwyddiad yma sydd fel arfer yn cael llawer o gefnogaeth. I gofrestru am le, cysylltwch â Jo  Shiel: joanna.sheil@careerswales.com Bydd cyfle i noddi'r digwyddiad eleni, os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â jayne.bevan@powys.gov.uk  
 
 
Lab mewn Lorri Un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ac sy’n cael llawer o gefnogaeth. Cynigir treuliau teithio ar gyfer pellteroedd anodd eu cyrraedd. Mae Llysgenhadon STEM yn derbyn hyfforddiant ar yr arbrofion cyn y sesiwn. Mae croeso i bob cefndir STEM. Ar gyfer disgyblion CA3. Byddwch yn gweithio gyda thîm Lab mewn Lorri ochr yn ochr â Llysgenhadon STEM eraill. Os am wybod mwy: www.labinalorry.org.uk
 
Cysylltwch â mi i roi eich enw ar y rhestr o wirfoddolwyr.
 
  1. Y Fenni. Ffair Gyrfaoedd Ysgol King Henry VIII. 15 Chwefror 6pm – 8pm. Bydd Llysgenhadon STEM yn cwrdd â disgyblion o flynyddoedd 9 – 13. Er mwyn galluogi pobl ifanc ac aelodau'r gymuned i deimlo'n gyfforddus ynghylch gofyn cwestiynau a gofyn am gyngor, bydd y trefniadau mor anffurfiol â phosib. Bydd gan bob busnes ddwy gadair a bwrdd wedi'i labelu gyda'r enw a'r categori busnes a bydd trefniant tebyg ar gyfer prifysgolion a cholegau.
 
  1. Canolbarth Cymru. Girlguiding Cymru Broneirion Llandinam SY17 5DE. Wythnos WYddoniaeth. Llun 12 - Iau 15 Mawrth 2018. 
Mae'r Arweinydd Jo Woodall yn cynllunio wythnos yn seiliedig ar STEM ar gyfer Wythnos Guides flwyddyn nesaf. Bydd y sesiynau'n rhedeg o 10am - 2.30pm bob dydd. Byddai Jo yn croesawu Llysgennad STEM all wirfoddoli yn ystod yr wythnos trwy gynnig sesiwn. Byddai sesiwn yn rhedeg am 50 munud. 15 disgybl fesul gweithdy. Bydd y disgyblion yn CA2.
Ar gyfer Llysgenhadon STEM benywaidd a hoffai helpu am y 4 diwrnod gallant gynnig treuliau llety. Os hoffech gynnig cymorth, fe wnaf eich rhoi mewn cysylltiad â Jo.                                                                                                                                                   
 
  1. Llangors Aberhonddu. Sesiynau Gwyddoniaeth Cynradd. Dyddiadau hyblyg. Ysgol Gynradd Llangors LD3 7UB. Mae’r athrawes Meg yn awyddus i gael Llysgenhdaon STEM ar gyfer y pynciau canlynol:
a)    Fforestydd Glaw Bl 3
b)    Y Môr a Bywyd Morol Bl 4
c)    Cynaliadwyedd Bl 5
Byddem yn gwerthfawrogi’n fawr cael gwirfoddolwyr i’r ysgol fach wledig yma
 
  1. Powys. Sesiynau Ynni adnewyddadwy  / Biomas/ Tyrbinau gwynt. Llangynidr Primary School Crughywel NP8 1LU. Mae’r athrawes Claire Watson yn chwilio am Lysgennad i gyflwyno gweithdy neu sgwrs ar unai ynni adnewyddadwy, biomas neu ynni amgen.
 
  1. Crughywel. Ysgol Uwchradd Crughywel. Syrcas STEM. Dydd Llun a dydd Mawrth 12 a 13 Mawrth 2018
Mae’r athrawes wyddoniaeth Kelly Holmes wedi ceisio am grant Kick Start. Byddai’n hoffi cynnal Syrcas o ddigwyddiadau i Bl 7 & 8. Maent yn chwilio am 5 o weithdai/weithgareddau/sgyrsiau gwahanol dros y 2 ddiwrnod. Bydd awr ar gyfer pob gweithgaredd. Bydd disgyblion o 5 ysgol y clwstwr. 30 ymhob sesiwn.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys Ffair Wyddoniaeth gyda’r nos lle bydd disgyblion yn arddangos eu gwaith i rieni ac yn cael y cyfle i ennill gwobrau.
Maent yn ceisio am arian ar gyfer adnoddau felly bydd peth costau treulio ar gael. Fy nghyswllt i yw kellyh@crickhowell-hs.powys.sch.uk
 
 
Cyfleoedd eraill
 
Cyfle e-fentor Princes Trust
Fel e-fentor, byddwch chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl ifanc trwy roi cymorth, arweiniad, anogaeth ac ysbrydoliaeth un-i-un iddynt ar adeg a lleoliad sy'n addas i chi. Gan ddefnyddio galwadau llais a fideo, byddwch yn helpu'r person ifanc i gwblhau a deall modiwlau e-ddysgu sy'n seiliedig ar fynd i gyflogaeth neu hunangyflogaeth. Er mwyn ein helpu ni i gynorthwyo cymaint o bobl ifanc â phosibl, rydym yn gofyn i bob E-Fentor fentora dau berson ifanc. Ar gyfartaledd, byddai angen i E-Mentor ymrwymo tua dwy awr o'u hamser yr wythnos i gefnogi dau berson ifanc. Byddwch yn mentora pob person ifanc ar-lein am hyd at dri mis a'u helpu i osod nodau ac amcanion wedi'u teilwra i'w hanghenion unigol. Yr ymrwymiad amser yw hyd at ddwy awr ar y platfform bob wythnos. Rydym yn argymell galwad fideo wythnosol a gwiriad cyflym bob dydd o'r platfform, ond mi fydd lan i chi a’r bobl ifanc i benderfynu beth sy'n gweithio orau i'r ddau ohonoch chi.
I gofrestru, ebostiwch ptovolunteers@princes-trust.org.uk. Os gallwch fentora mwy nag un person ifanc, gadewch i ni wybod pan gysylltwch â ni.
 
 
 
Twitter
Facebook
Website

See Science / Gweld Gwyddoniaeth

8 St Andrew's Crescent, Cardiff CF10 3DD

02920 344727 | www.see-science.co.uk | enquiries@see-science.co.uk


Want to change how you receive these emails?
You can update your preferences or unsubscribe from this list
Twitter
Facebook
Website