Bydd digwyddiadau, gweithgareddau a phartneriaethau cyffrous yn annog mwy o blant i fwynhau darllen, sut bynnag y maent yn dewis!
Mae’r elusen Diwrnod y Llyfr® yn cynnal ei dathliad blynyddol ddydd Iau 7 Mawrth ledled y DU ac Iwerddon.
Mae darllen er pleser yn gwella cyfleoedd bywyd plant ar draws ystod o fesurau cymdeithasol, addysgol a llesiant. Fodd bynnag, canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol fod llai nag 1 o bob 2 (47.8%) o blant bellach yn dweud eu bod yn mwynhau darllen dyma’r lefel isaf ers 2005, ac mae mwynhad darllen ar ei isaf ymhlith plant o gefndiroedd difreintiedig.
Mae Darllen Eich Ffordd yn galw ar bawb i ollwng pwysau a disgwyliadau, gan roi dewis – a chyfle – i blant fwynhau darllen.
Ar hyn o bryd, nid oes gan filiwn o blant yn y DU un llyfr eu hunain gartref, ac yn aml, llyfrau gwerth £1/€1.50 Diwrnod y Llyfr yw’r llyfr cyntaf y bydd llawer o blant yn berchen arno.
Bydd teitl unigryw ar gael i ddarllenwyr ifanc Cymru. Y llyfr Cymraeg a gefnogir gan Gyngor Llyfrau Cymru fydd Ffeithiau Ffiaidd: Y Corff wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan Kev Payne a’i addasu i’r Gymraeg gan Mari George, a gyhoeddir gan Rily Publications.
Mae nifer o adnoddau ar gael yma i chi gynnal eich gweithgaredd eich hun mewn ysgol neu ganolfan yn eich ardal chi