This is the Welsh version of the September 2023 STEM Ambassador newsletter for Secondary Schools and Colleges. To view the English version please click here

Croeso i’r cylchlythyr STEM diweddaraf ar gyfer Llysgenhadon STEM yng Nghymru gan eich Hyb Llysgenhadon STEM lleol.
Rydym yn croesawu pob cynnig gan Lysgenhadon STEM i helpu gydag unrhyw gyfleoedd cyfoethogi - cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich anghenion unigol.

Gawn ni gymryd y cyfle hwn i ddiolch i chi am yr amser rydych chi wedi gwirfoddoli. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio cofnodi'ch holl weithgareddau gan gynnwys yr amser paratoi sydd wedi mynd i mewn i drefnu'r gweithgareddau hynny.

I’r Llysgenhadon STEM hynny sy’n dal i fynd drwy’r broses gofrestru, cofiwch gwblhau eich cyfnod sefydlu ar-lein a’ch gwiriad DBS.

Os oes angen unrhyw help neu gefnogaeth ar unrhyw un gyda hyn yna cysylltwch â hayley.pincott@see-science.co.uk.

Mae Gweld Gwyddoniaeth yn dal yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd cyfoethogi â phosibl i ddysgwyr ledled Cymru. Sicrhewch fod cydweithwyr sydd wedi cofrestru gyda STEM Learning wedi ticio’r blwch i dderbyn cylchlythyrau yn eu dewisiadau er mwyn derbyn cylchlythyr Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol gan ddefnyddio’r ddolen https://www.stem.org.uk/user/register a yna dewiswch dderbyn y cylchlythyr yn ôl eich dewisiadau.

Mae gan Gweld Gwyddoniaeth dudalen Facebook lle byddwn ni hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd - hoffwch neu dilynwch y dudalen os gwelwch yn dda.

Peidiwch ag oedi cysylltu â ni os gallwn gefnogi addysgu pynciau STEM.

Dymuniadau gorau
Tîm Llysgenhadon STEM @Gweld Gwyddoniaeth.

NEWYDDION DIWEDDARAF

Science Aglow 
Llysgenhadon STEM yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Merched Mewn Adeiladu

Adroddiad Effaith CREST

DIGWYDDIADAU 

Wythnos Tech Cymru

Gofod i bawb
Paratoi ar gyfer Wythnos Gemeg
Gweithgaredd STEM Calan Gaeaf
Sesiwn Wybodaeth CREST Darganfod

 

CEISIADAU YSGOLION UWCHRADD 

Ysgol Maelor, Wrecsam
Ysgol Garth Olwg, Pontypridd
Rhwydwaith Seren Cymru
Ysgol Uwchradd y Trallwng

CEISIADAU YSGOLION CYNRADD AC ERAILL

Cais Clwb STEM Riverside

Cyfweliadau Ffug
Ffeiriau Gyrfaoedd
Gweithdai Gyrfaoedd

Newyddion STEM diweddara

Science Aglow yng Nghanolfan Darwin

Mynychodd dros 130 o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Gymunedol Fenton, Ysgol Gynradd Llandyfái, Ysgol Gynradd Johnston ac Ysgol Gynradd Gatholig Mair Ddihalog y digwyddiad, gan ddod ag ymchwiliad gwyddoniaeth gyda nhw i’w gyflwyno i dîm Darwin i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu gwyddoniaeth.
Cymerodd y disgyblion ran mewn carwsél o weithdai STEM, a gyflwynwyd gan Lysgenhadon STEM:

Roedd Science Aglow yng Nghanolfan Darwin, Coleg Sir Benfro yn gyfle i arddangos gwahanol sefydliadau STEM sy’n gweithio yn yr ardal ac amlygu’r llwybrau gyrfa posibl sydd ar gael. Ffocws y diwrnod oedd Ynni. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i ddisgyblion cynradd weithio ar eu prosiect eu hunain yn yr ysgol a chyflwyno eu gwaith i banel o wahoddedigion, cymryd rhan mewn carwsél o weithdai a ddarparwyd gan Lysgenhadon STEM o ddiwydiant lleol a mynychu sioe. Cyflwynodd y Sefydliad Brenhinol sioe ‘We’ve got the Power’ i ddisgyblion ac yna DPP i athrawon ar sgiliau cyflwyno gwyddoniaeth a Sioe Gymunedol i deuluoedd o’r ardal leol.

  • Timothy Brew - Fforwm Arfordirol Sir Benfro
  • Magnus Harrold a Michelle Hitches – Catapwlt Ynni Adnewyddadwy ar y Môr (ORE).
  • Rebecca Laye - Cydlynydd Addysg Cymdeithas Frenhinol Cemeg yng Nghymru

Cyflwynodd yr holl ddisgyblion eu hymchwiliad ynni adnewyddadwy i banel er mwyn amlygu’r gwaith a wnaed yn ystod y tymor yn yr ysgol.
Daeth y digwyddiad i ddisgyblion i ben gyda sioe addysgiadol a hwyliog, sioe ‘We’ve got the Power’ gan Usmaa Choudry, Y Sefydliad Brenhinol - Gwyddoniaeth mewn Ysgolion.

Dywedodd Samantha Williams, rheolwraig Dragon LNG Canolfan Darwin: “Cymerodd dros 100 o ddisgyblion ran yn Science Aglow a chawsom ein syfrdanu gan ansawdd eu hymchwiliadau gwyddonol a’u sgiliau cyflwyno.
“Fe wnaeth pawb fwynhau’r diwrnod yn fawr ac rydym mor ddiolchgar i bob un o’r sefydliadau gwych hyn am ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr.”

Dilynwyd y digwyddiad i ysgolion gan sesiwn DPP y Sefydliad Brenhinol ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd. Nid oes gan bawb sy'n dysgu gwyddoniaeth gefndir mewn gwyddoniaeth eu hunain. Gall sesiwn DPP gyda chyflwynydd proffesiynol helpu i feithrin sgiliau a hyder i ysbrydoli plant gyda gwyddoniaeth ymarferol mewn ffyrdd diddorol a syml. Anogwyd yr holl fynychwyr i rwydweithio a rhannu arfer da gyda'i gilydd.

Fe wnaeth y sioe gymunedol – ‘Rockets’, unwaith eto gan y Sefydliad Brenhinol, danio diddordeb mewn gwyddoniaeth mewn pobl o bob oed, trwy gymysgedd o sgyrsiau, arddangosiadau ac arbrofion rhyngweithiol.

Cydlynwyd digwyddiad Science Aglow gan Gweld Gwyddoniaeth ar y cyd â’r ASE a Chanolfan Darwin. Cysylltwch â cerian.angharad@gweld-gwyddoniaeth.co.uk os hoffai eich cwmni gynnal digwyddiad tebyg i ymgysylltu ag ysgolion yn eich ardal.

Newyddion STEM diweddara

Llysgenhadon STEM yn yr Eisteddofd Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedalethol 2023 ym Moduan ym Mhen Llyn rhwng y 5ed a'r 12fed o Awst. Roedd amryw o Lysgenhadon STEM yno ar wahanol stondinau yn ymgysylltu ag ymwelwyr o bob oed. 
 

Mae'r darn canlynol gan Dr Victoria Bradley o'r Sefydliad Gwyddoniaeth Biofeddygol:
 

Yn cael ei chynnal mewn lleoliad gwahanol yng Nghymru yn ystod wythnos gyntaf mis Awst bob blwyddyn, yr Eisteddfod Genedlaethol yw’r wyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop ac mae’n dathlu diwylliant ac iaith Cymru. Mae’r Eisteddfod yn denu 150,000 o ymwelwyr dros yr wythnos gyda llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan. 

Er bod Cymru efallai’n adnabyddus fel Gwlad y Gân, mae cyfraniad ymchwilwyr Cymreig i’r byd gwyddonol yr un mor rhyfeddol, ac yn dod yn rhan gynyddol o’r Eisteddfod. 

Eleni, cymerodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) y cyfrifoldeb i gynnal stondin ym mhentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod.

Trefnwyd y stondin ar y cyd gan Dr Victoria Bradley (aelod o Gyngor IBMS o Brifysgol Metropolitan Caerdydd) a Luke Hughes (Pennaeth Addysg a Datblygiad Patholeg, BIPBC), i gydnabod y gwaith a wneir gan wyddonwyr biofeddygol a gwyddonwyr gofal iechyd eraill – gan gynnwys y rhai sy’n gweithio ym maes patholeg.

Ychwanega Dr Bradley:“Roeddem yn ffodus i gael cefnogaeth gan aelodau IBMS ledled Cymru i baratoi ar gyfer y digwyddiad hwn. Rydyn ni’n bwriadu mynychu bob blwyddyn nawr wrth symud ymlaen, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, sydd wedi’i hanelu’n benodol at blant iau.”

Drwy’r stondin hon, bu cydweithwyr ar draws BIPBC, aelodau RCPath, ac aelodau Rhanbarth Cymru IBMS yn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith a wneir gan labordai patholeg a rôl gwyddoniaeth fiofeddygol mewn gofal iechyd. 

Manteisiodd ymwelwyr ar y cyfle i ofyn cwestiynau ynglŷn â sut mae samplau’n cael eu prosesu mewn labordai, ac ehangder y dadansoddi y gall gwyddonwyr biofeddygol ei wneud. Roedd llawer wedi'u swyno i ddarganfod pa mor bwysig yw canlyniadau profion labordy i unrhyw broses ddiagnostig ac i'r ddarpariaeth o feddyginiaeth bersonol.

Roedd ein haelodau hefyd yn gallu trafod gyrfaoedd gyda myfyrwyr ysgol ar draws grwpiau oedran amrywiol. Gyda myfyrwyr lefel A tynnodd yr aelodau sylw at bwysigrwydd graddau gwyddoniaeth fiofeddygol Achrededig IBMS ac esbonio'r cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael mewn patholeg hefyd. Ar gyfer plant iau, roedd yr aelodau'n gallu defnyddio'r fersiwn Gymraeg newydd o'n comics Superlab i ennyn diddordeb plant mewn sgyrsiau yn ymwneud â gwyddoniaeth.

Cawsom y sylwadau canlynol gan Lysgennad STEM arall oedd yn gweithio ar stondin wahanol:
"Croesawyd y gweithgareddau STEM gan bawb y bûm yn rhyngweithio â nhw ac roedd yn ymddangos bod ein presenoldeb yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y gymuned leol.

Un o’r prif fanteision oedd cyrraedd pobl ifanc na fyddai fel arfer yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM yn yr ardal hynod wledig hon. Yn gyson roedd plant, yn enwedig cyfran uchel o ferched 3 i 11 oed, naill ai'n llusgo eu rhieni neu'n dod ar eu pennau eu hunain i'r stondin er mwyn iddynt allu cymryd rhan. Roeddent yn amlwg yn frwd dros STEM ac roedd eu llwyddiannau gyda'n gweithgareddau yn cefnogi ac yn atgyfnerthu eu hawydd i ymwneud â STEM yn eu bywydau. I lawer o’r bobl ifanc hyn roedd y digwyddiad yn gyfle prin iddynt ryngweithio â STEM ac roedd y brwdfrydedd a ddangoswyd yn amlygu’r angen i gyrraedd y ddemograffeg hon. Ar lefel bersonol, roedd hyn yn werth chweil."

Cynhelir Esiteddfod y flwyddyn nesaf ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd a bydd Llysgenhadon STEM yno eto yn gwneud cyfraniad bwysig wrth rannu STEM gydag Eisteddfodwyr. Os hoffech ddysgu mwy am sut gallech chi gymryd rhan, cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.

Mwy o newyddion

Merched mewn Adeiladu

Cynhaliwyd digwyddiad Merched mewn Adeiladu yng Ngholeg Menai yn Llangefni ddydd Gwener 7 Gorffennaf lle cafodd dros 90 o ddisgyblion o'r ardal leol gipolwg ar y diwydiant adeiladu.

 

Drwy gydol y dydd, bu’r merched yn gwrando ar sgyrsiau gan siaradwyr yn sôn am eu rôl yn y diwydiant, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau rhyngweithiol a gyflwynwyd gan nifer o gwmnïau adeiladu i’w hysbrydoli i ystyried gyrfa yn y diwydiant.

 

Cynhaliodd y Llysgenhadon STEM Kasia Williamson a Kate Jones o Read Construction weithgaredd chwalu mythau – gan herio’r merched i gwestiynu camsyniadau cyffredin am y diwydiant adeiladu. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu â myfyrwyr lleol a dangos iddynt fod lle mewn adeiladu i bawb, waeth beth fo’u rhyw neu gefndir.

 

Roedd yn braf clywed bod llawer o’r myfyrwyr nad oeddent wedi ystyried gyrfa yn y diwydiant o’r blaen, bellach yn meddwl am adeiladu fel gyrfa yn y dyfodol.

Mwy o newyddion

Ym mis Gorffennaf rhannodd y BSA yr adroddiad effaith CREST diweddaraf. Gallwch ei lawrlwytho yma. Canfu’r adroddiad fod cyfranogiad CREST wedi cynyddu’n aruthrol yn 2021 a 2022. Mae’n datgelu’r mathau o ysgolion oedd yn rhedeg CREST, cymhareb rhyw myfyrwyr, a manteision profedig CREST i fyfyrwyr ac athrawon.

  

Mae CREST yn darparu gweithgareddau cyfoethogi i ysbrydoli, ymgysylltu a chysylltu pobl ifanc 5-19 oed ledled y DU â phynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).

Trwy ystadegau a lleisiau myfyrwyr, athrawon a chyflogwyr, mae adroddiad effaith 2021/22 yn archwilio sut mae CREST yn:

  • codi dyheadau STEM mwy na 56,000 o blant a phobl ifanc ledled y DU, gan ganolbwyntio ar y rhai sy’n cael eu tangynrychioli amlaf mewn gwyddoniaeth
  • helpu addysgwyr i ymateb i’r heriau o wreiddio dysgu ymarferol yn y cwricwlwm gwyddoniaeth, yn erbyn cefndir o bwysau ariannol, amser ac adnoddau
  • darparu cyfleoedd unigryw i gyflogwyr ysbrydoli gwyddonwyr, technolegwyr, peirianwyr a mathemategwyr yfory.
 

Mae’r adroddiad yn dangos llawer o’r ffyrdd y mae CREST wedi helpu pobl ifanc, athrawon a chyflogwyr i oresgyn rhwystrau i ymgysylltu â STEM yn 2021/22.

  • Ym mlwyddyn academaidd 2021/22, merched oedd 50% o gyfranogwyr CREST. Gyda menywod yn cyfrif am ddim ond 27% o weithlu STEM y DU, rhoddodd y cynllun gyfleoedd i ferched efallai na fyddent yn eu cael fell arall i ddarganfod angerdd am wyddoniaeth a chodi eu dyheadau STEM.
  • Mae myfyrwyr sy’n cwblhau Gwobrau Arian CREST 21% yn fwy tebygol o astudio pynciau STEM ar Lefel AS, a bod hyn yn codi i 38% ar gyfer myfyrwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.


Gall Llysgenhadon STEM fod yn rhan o Wobrau CREST trwy fod yn fentoriaid ar gyfer prosiectau neu trwy ddefnyddio adnoddau CREST - sydd ar gael i'w lawrlwytho am ddim - i gynnal eu gweithgareddau CREST eu hunain mewn ysgolion a grwpiau cymunedol. Am fwy o fanylion, gwelwch y wefan CREST crestawards.org neu cysylltwch â llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk

 

Digwyddiad Cenedlaethol

 
Wythnos Tech Cymru 2023. 16 - 18 Hydref. Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.

Mae Wythnos Dechnoleg Cymru, a gyflwynir i chi gan Technology Connected, yn arddangos technoleg Cymru, ei hecosystem ac yn hyrwyddo’r diwydiant ar y llwyfan byd-eang.

Mae’n cysylltu, yn hyrwyddo ac yn datblygu Cymru fel canolfan arbenigedd a chyfle ar gyfer technolegau galluogi a thechnolegau sy’n dod i’r amlwg a’u cymwysiadau ar gyfer busnes a chymdeithas heddiw. 

Ar ôl dwy flynedd rhithwir, mae bellach yn amser i fod yn gorfforol. Bydd Wythnos Dechnoleg Cymru 2023 yn Uwchgynhadledd Dechnoleg ryngwladol, hybrid sy’n dod â’r gymuned dechnoleg fyd-eang ynghyd i gysylltu, cydweithio a gwneud busnes. 

Wythnos Dechnoleg Cymru yw lle mae Tech yn cwrdd â chyfleoedd. 

Manylion a chofrestru yma.

Darllenwch fwy

'Space for Everyone'. Medi 14 - 18. Sgwar y Frenhines, Wrecsam

Mae taith roced Asiantaeth Ofod y DU, “Space for Everyone”, yn glanio yn Wrecsam, yn Sgwâr y Frenhines, 14 - 18 Medi!

Mae’r digwyddiad yn Rhaglen Allgymorth STEAM gyda chenhadaeth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfaoedd yn niwydiant gofod y DU, yn enwedig rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Does dim angen tocynnau, dewch draw! Bydd y digwyddiad yn cynnwys: 

  • Replica anferth 72 troedfedd o roced LauncherOne 
  • Profiadau rhith-realiti 
  • Cyngor gyrfaoedd gan weithwyr proffesiynol gofod lleol 
  • Gweithgareddau sy'n ymwneud â'r gofod

Teithiau Grŵp - Argymhellir yn gryf eich bod yn ymweld â'r digwyddiad fel grŵp a mwynhau taith bersonol o amgylch y digwyddiad gydag un o'n gwesteiwyr ymroddedig. Lleiafswm o 10 o bobl fesul taith. I archebu slot amser taith grŵp e-bostiwch hello@ha-lo.co.uk gyda dyddiad/amser dewisol. 

Manylion yma.

Darllenwch fwy

Paratoi at Wythnos Cemeg – rhwydwaith athrawon cemeg Cymru.  Dydd Mawrth Medi 19eg, 4-5pm . Ar-lein

Sesiwn Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i athrawon Uwchradd.

Ydych chi i gyd yn barod ar gyfer Wythnos Cemeg 2023? Yng nghyfarfod rhwydwaith athrawon cemeg Cymru y mis hwn byddwn yn rhannu syniadau y gallwch eu defnyddio i ddod ag wythnos Cemeg yn fyw i’ch dysgwyr. Thema eleni yw Cemeg yn gwneud y byd yn lle gwell, ac mae’n ffordd wych o arddangos y rôl bwysig y mae cemeg yn ei chwarae ar draws pob agwedd o gymdeithas. Er ei bod yn cael ei galw'n Wythnos Cemeg, rydym yn eich annog i wneud mis Tachwedd yn fis Cemeg! 

Manylion a bwcio yma.

'Space for Everyone'. Medi 14 - 18. Sgwar y Frenhines, Wrecsam

Mae taith roced Asiantaeth Ofod y DU, “Space for Everyone”, yn glanio yn Wrecsam, yn Sgwâr y Frenhines, 14 - 18 Medi!

Mae’r digwyddiad yn Rhaglen Allgymorth STEAM gyda chenhadaeth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn gyrfaoedd yn niwydiant gofod y DU, yn enwedig rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Does dim angen tocynnau, dewch draw! Bydd y digwyddiad yn cynnwys: 

  • Replica anferth 72 troedfedd o roced LauncherOne 
  • Profiadau rhith-realiti 
  • Cyngor gyrfaoedd gan weithwyr proffesiynol gofod lleol 
  • Gweithgareddau sy'n ymwneud â'r gofod

Teithiau Grŵp - Argymhellir yn gryf eich bod yn ymweld â'r digwyddiad fel grŵp a mwynhau taith bersonol o amgylch y digwyddiad gydag un o'n gwesteiwyr ymroddedig. Lleiafswm o 10 o bobl fesul taith. I archebu slot amser taith grŵp e-bostiwch hello@ha-lo.co.uk gyda dyddiad/amser dewisol. 

Manylion yma.

Cyfleoedd Gwirfoddoli yng Nghymru

Gweithgareddau STEM Calan Gaeaf. Dydd Iau 5 Hydref. 12.30 - 1.15pm. Ar-lein

Os na allwch ymuno â'r sesiwn hon yn fyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar Eventbrite a byddwch yn derbyn recordiad o'r sesiwn.

Calan Gaeaf yw'r esgus perffaith ar gyfer ychydig o hwyl STEM-taciwlar Arswydus!

Ymunwch â ni am syniadau gweithgaredd gwych sy’n ddelfrydol i athrawon eu dangos yn yr ysgol cyn hanner tymor a disgyblion i roi cynnig arnynt gartref ar y diwrnod mawr, neu i Lysgenhadon STEM gynnal sesiwn hanner tymor gyda grŵp cymunedol. Bydd pob gweithgaredd yn defnyddio cynhwysion cost isel sydd yn hawdd i’w cael .

Cofrestrwch yma.

Darllenwch fwy

Sesiwn wybodaeth CREST Darganfod i athrawon a Llysgenhadon STEM yn y GYMRAEG. Dydd Mawrth 24 Hydref. 12.30 - 1.15pm. Ar-lein

Os na allwch ymuno â'r sesiwn hon yn fyw, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar Eventbrite a byddwch yn derbyn recordiad o'r sesiwn.

Bydd yr un sesiwn yn y Saesneg dydd Llun 23 Hydref, 12.30 - 1.15pm.

Mae Gwobrau Darganfod CREST yn cynnig cyflwyniad i waith prosiect go iawn mewn STEM ac yn rhoi rhyddid i fyfyrwyr rhwng 10 a 14 oed redeg eu hymchwiliadau eu hunain. Perffaith ar gyfer Cwricwlwm i Gymru! Gellir eu cwblhau mewn un diwrnod, neu dros nifer o wersi neu sesiynau Clwb STEM, gyda myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn grwpiau hunanreoledig. Ar ddiwedd y prosiect mae pob myfyriwr yn ennill Gwobr Darganfod CREST ac mae'r rhain AM DDIM yng Nghymru.

Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn dangos un o’r adnoddau Darganfod CREST sydd ar gael i’w lawrlwytho - Datrysiadau Cynaliadwy - gweithgaredd lle caiff myfyrwyr eu herio i ddefnyddio offer digidol a thechnolegau newydd i fynd i'r afael â newid hinsawdd yn eu hardal leol.

Mae gweithgareddau CREST yn rhoi cyfle gwych i Lysgenhadon STEM ymgysylltu ag ysgolion gan eu bod i gyd yn seiliedig ar heriau’r byd go iawn.

Cofrestrwch yma am y sesiwn Gymraeg.

Cofrestrwch yma am y sesiwn Saesneg.

Ceisiadau Clwb STEM

Clwb STEM Riverside Caerdydd CF11 6ES

Cefnogi Clwb STEM 
Gweithgaredd barhaus
Mae clwb STEM Riverside yn grŵp o ferched Blwyddyn 9-11 sy’n cwrdd ac yn cefnogi ei gilydd wrth iddynt ddysgu pynciau STEM. Fel Llysgennad STEM, byddai cefnogi’r grŵp yn cynnwys y tasgau canlynol: - Mynychu clwb STEM bob nos Lun a nos Fawrth lle bo modd. -Cefnogi plant gyda dysgu grŵp, gwaith cartref ac adolygu. -Tiwtora mewn meysydd pwnc lle gallai disgyblion fod yn cael trafferth a nodi bylchau yn eu gwybodaeth. -Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar astudio pwnc STEM ar lefel addysg uwch/bellach. -Bod yn fodel rôl cyfeillgar a chefnogol.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

CAIS AM LYSGENNAD STEM SYDD YN SIARAD CYMRAEG

Ysgol Maelor, Wrecsam  LL13 0LU

Y defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle 
21 Medi
Pedwar x gweithdy 30 munud (grwpiau bach o fyfyrwyr) yn cael eu cynnal mewn ystafell ddosbarth ar gyfer profiad disgyblion mewn carwsél. Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at fyfyrwyr i gynnig cipolwg ar sut y gall dwyieithrwydd fod o fudd gwirioneddol pan ddaw’n fater o gyflogaeth â thâl yng Nghymru. Anogir myfyrwyr i ofyn cwestiynau am eich taith gyrfa a sut rydych yn defnyddio’r Gymraeg yn eich swydd.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

YSGOL GYMRAEG
Ysgol Garth Olwg, Pontypridd  CF38 1DX

Technegau Labordy Clinigol
Unrhyw adeg y tymor yma
Rwy’n gobeithio dod o hyd i gyfle i fyfyrwyr ôl-16 Gwyddoniaeth Feddygol a fydd yn astudio eu modiwl Technegau Labordy Clinigol i allu gweld ac o bosibl cyflawni rhai o’r pethau mwy technegol na allwn eu gwneud mewn labordy ysgol e.e. Profion Bradford, RIA, ELISA, sbectrophotometreg ac ati.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

**Yn galw cyn-fyfyrwyr Rhwydwaith Seren ledled Cymru** Amryw o leoliadau a dyddiadau

Cefnogi myfyrwyr Seren
Mae holl Hybiau Rhwydwaith Seren, ledled Cymru, yn chwilio am Lysgenhadon STEM i ennyn brwdfrydedd ac annog myfyrwyr i ddilyn gradd/gyrfa STEM. Roedd llawer o’n Llysgenhadon STEM yn gyn-fyfyrwyr Seren Cymru felly byddai’n wych rhoi peth amser yn ôl i’r Hybiau hyn. Yn amlwg, mae croeso hefyd i’r rhai nad oeddent yn rhan o’r rhwydwaith hwn gefnogi’r myfyrwyr MAT (mwy galluog a thalentog) hyn. Gallech ddarparu Gweithdy STEM mewn ysgolion neu golegau, rhoi sgwrs gyrfa, cymorth gyda ffug gyfweliadau, darparu sesiynau addysgu.......mae'r rhestr yn ddiddiwedd a byddai unrhyw gymorth yn cael ei dderbyn yn ddiolchgar. Gallai sesiynau fod wyneb yn wyneb neu ar-lein. Os gallwch chi fynegi diddordeb, gallwn ni eich rhoi mewn cysylltiad â'ch Cydlynydd Hyb Rhwydwaith Seren agosaf.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ysgol Uwchradd Y Trallwng, SY21 7RE

Codi dealltwriaeth o'r ystod o gyfleoedd mewn gwyddoniaeth
Dyddiadau hyblyg trwy gydol y flwyddyn
Hoffai’r athro Dave Bass ddod o hyd i nifer o Lysgenhadon STEM i gyflwyno cyfres o sgyrsiau i grŵp o fyfyrwyr blwyddyn 10 sydd wedi dewis dilyn y cwrs TGAU gwyddoniaeth triphlyg. Nod y sgyrsiau fyddai hybu’r cyfleoedd sy’n bodoli o fewn meysydd gwyddonol, i annog disgyblion i astudio’r gwyddorau ar gyfer Safon Uwch a thu hwnt. Mae'r ysgol mewn ardal lle mae dyheadau yn draddodiadol isel iawn ac mae ymwybyddiaeth gyfyngedig o'r ystod o gyfleoedd gyrfaol sy'n bodoli. Hoffai i bob Llysgennad STEM gyflwyno sgwrs un-tro 50 munud sy’n cynnwys gwybodaeth am eu swydd o ddydd i ddydd a rhywfaint o arweiniad gyrfaoedd. Byddai elfen drafod ryngweithiol yn ddefnyddiol. Mae posibilrwydd o gyflwyno hyn i fwy o grwpiau o ddysgwyr os bydd amser yn caniatáu. Hoffai i’r sgyrsiau gael eu rhoi yn bersonol, gan fod sesiynau ar-lein wedi bod yn aneffeithiol yn y gorffennol. Gellid cynnal y sesiynau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.
I fynegi diddordeb cysylltwch â cenhadon@gweld-gwyddoniaeth.co.uk neu cliciwch yma

Darllenwch fwy

Ceisiadau am help gyda digwyddiadau Gyrfaoedd

Rydym wedi derbyn y ceisiadau canlynol am gymorth Llysgennad STEM gyda digwyddiadau gyrfaoedd mewn ysgolion ledled Cymru, llawer ohonynt wedi’u trefnu gan Gyrfa Cymru:

Cyfweliadau Ffug  ardal ABERTAWE

Ysgol Gyfun Pentrehafod, SA1 2NN
17/10/2023 manylion yma
18/10/2023 manylion yma

Ysgol Gyfun Penyrheol, SA4 4FG
15/11/2023 manylion yma
17/11/2023 manylion yma

Ysgol Gyfun Pontarddulais, SA4 8PD
Manylion 20/12/2023 yma

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, SA3 3JP
5/3/2024 manylion yma
6/3/2024 manylion yma

ardal WRECSAM
Ysgol Clywedog, LL13 7UB
16/11/2023 manylion yma

Ysgol Uwchradd Rhosnesni, LL13 9ET
30/11/2023 manylion  yma
1/12/2023 manylion yma.

Ysgol Y Grango, LL14 1EL
24/1/2024 manylion yma

Ysgol Maelor, LL13 0LU
1/2/2024 manylion yma


Ffeiriau Gyrfaoedd
  ardal DE DDWYRAIN CYMRU

Ysgol Idris Davies, NP22 5XF
16/11/2023 manylion yma

Ysgol Gyfun Cil-y-coed, NP26 5XA
22/11/2023 manylion yma

ardal ABERTAWE
Neuadd Brangwyn, SA1 4PE
Digwyddiad Dewis Eich Dyfodol, GOFAL IECHYD
4/10/2023 manylion yma

Ysgol Gyfun Pentrehafod, SA1 2NN
21/11/2023 manylion yma


ardal ARFORDIR GOGLEDD CYMRU

Ysgol John Bright, LL30 1LF
17/11/2023 manylion yma

Cyflwyniadau/Gweithdai Gyrfaoedd

ardal DE DDWYRAIN CYMRU
ICC Cymru, Casnewydd NP18 1HQ
Digwyddiad ar gyfer Dysgwyr Rhwydwaith Seren Blwyddyn 9
5/2/2024 manylion yma

ardal ARFORDIR GOGLEDD CYMRU
Ysgol Y Gogarth, Llandudno LL30 1YE
Digwyddiad i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau o bob rhan o ogledd Cymru
4/10/2023 manylion yma

Ysgol Aberconwy LL32 8ED
Digwyddiad yn canolbwyntio ar yrfaoedd Gofal Iechyd
12/10/2023 manylion  yma

ardal. WRECSAM
Ysgol Uwchradd Darland, Wrecsam LL12 0DL
Cais am weithdai neu heriau cysylltiedig â gyrfaoedd dan arweiniad cyflogwyr
13/10/2023 manylion yma
15/11/2023 manylion yma
18/3/2024 manylion yma

Ysgol Maelor, Wrecsam LL13 0LU
Cais am weithdy neu heriau cysylltiedig â gyrfaoedd a arweinir gan gyflogwyr
Manylion 20/10/2023 yma
30/11/2023 manylion yma

Ysgol Y Grango, Wrecsam LL14 1EL
Digwyddiad rhwydweithio cyflym i gyflogwyr
27/2/2024 manylion yma

Ysgol Clywedog, Wrecsam LL13 7UB
Digwyddiad rhwydweithio cyflym i gyflogwyr
27/2/2024 manylion yma

Dilynwch ni ar facebook - Hoffwch neu dilynwch y dudalen