Y cylchlythyr sy'n ffynhonnell hanfodol o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i athrawon ac unrhyw un sydd gyda  diddordeb mewn ymgysylltiad STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ledled Cymru.

CYNNWYS

Newyddion STEM
 

Digwyddiadau Lleol
 

 

Cyfleoedd Ariannu
 

Grant Ymgysylltu a'r Cyhoedd y Sefydliad Ffiseg

Gwobrau Athrawon
 

Gwobrau Cenedlaethol Salters ar gyfer Technegwyr Gwyddoniaeth
 


Gwahoddwch Lysgennad STEM i ddod i'ch ysgol chi                    

Gall cyfranogiad Llysgennad STEM ymgysylltu ac ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ac athrawon. Os oes gennych ddiddordeb mewn gofyn i Lysgennad STEM i ymweld, gallwch wneud eich cais yma neu cysylltwch gyda  Gweld Gwyddoniaeth yn uniongyrchol yma 

Mae gwybodaeth am y wefan hunan wasanaeth a fideos ar gael ar gael yma 
Rydym wedi creu canllawiau byr i annog Llysgenhadon STEM ac addysgwyr i ddefnyddio'r hunanwasanaeth. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau fideo sy'n amlinellu sut i ddefnyddio'r llwyfan gwe a helpu athrawon ac arweinwyr grwpiau i ddod o hyd i'r Llysgennad STEM cywir ar gyfer eu gweithgaredd.
 

Anfonwch Adborth ar Lysgennad:

Os oes Llysgennad wedi ymweld  ysgol chi, neu os ydych wedi cwrdd gyda  Llysgennad mewn gweithgaredd cyfoethogi, byddem yn ddiolchgar iawn pe baech yn llenwi ein ffurflen adborth athrawon. Anogwch eich cyd-athrawon i ymateb os gwelwch yn dda

 

NEWYDDION STEM DIWEDDARAF

 

Diwrnodau STEM y Gwanwyn  ym Mharc Gwledig Margam
 

Lansiwyd menter newydd mewn partneriaeth â Pharc Gwledig Margam ar gyfer yr Wythnos Wyddoniaeth Genedlaethol.
Yn dilyn sawl cyfarfod yn y Parc, cynhaliwyd dau ddiwrnod STEM: Dydd Sul 10 a dydd Llun 11 Mawrth. Y lleoliad oedd y Castell Gothig Fictoraidd â ddarparodd ofodau enfawr ar gyfer yr arddangosfa.
Ar ddydd Sul ymwelodd grwpiau teuluol â llawer o weithgareddau yn y stondinau, ac er gwaethaf y tywydd garw, croesawyd dros 300 o ymwelwyr.
Dros y ddau ddiwrnod roedd Llysgenhadon STEM yn cynnwys, Archaeoleg (Poppy Hodkinson) TT Electronics Marcus Davies a'i dîm, Llysgenhadon DVLA, CITER (Sefydliad Meinwe a Thrwsio Caerdydd Kaiya Bartram-Daly), Network Rail, Cymdeithas Gyfrifiadurol Prydain, Jon Laver (Parametrics), Arddagosfa Gemeg – Cemeg yn y Gymuned Gweld Gwyddoniaeth, BAE Systems a Diamond Dust Robots.

Roedd y diwrnod canlynol (gyda thywydd gwell!) yn cynnig profiad gwych i Ysgol Cwm Brombil ac Ysgol Tonnau lle ymwelodd 90 o ddisgyblion i gymryd rhan yn y gweithgareddau ymarferol. Roedd yn fonws ychwanegol i gweithgaredd Pontydd ICE i Ysgolion. Cafodd tîm o 12 o Lysgenhadon STEM dan arweiniad medrus Leighton Jones o Atkins Global a Christina Kio o Skanska. Roedd y adborth I’r tîm yn  wych, - dyma sylwadau gan athrawon:

“Diwrnod ardderchog - roedd gan bawb ddealltwriaeth gwych o'r hyn roedden nhw'n ei ddysgu i'r disgyblion.” Athrawwes - Jenny Tomkins
“Yn sicr byddem yn hoffi bod yn rhan o hyn yn y dyfodol”
“Anaml y byddwn yn gwneud gwaith ymarferol yn y gwyddoraul - mae'n dangos yr hyn y gellir ei wneud os oes gennych wybodaeth a hyder”
“Dyma  ffordd wych o ddysgu Gwyddoniaeth – yn hwyl ac ysbrydoledig” Gwirfoddolwyr Parc Margam

Rhoddwyd cardiau STEM i'r disgyblion eu cymryd i bob stondin, rhoddodd Llysgenhadon STEM sticeri ar  y cardiau pan ymwelodd disgyblion â gweithgaredd ac ymgysylltu'n dda i ychwanegu ffocws at y profiad. Dyfarnwyd y  ‘Cwningod Aur’ 'i'r casgliadau gorau - er bod yr holl ddisgyblion wedi cael gwobr yn ystod y dydd!

Llysgenhadon STEM oedd yr allwedd i'r llwyddiant a’r profiad gwych hwn.
Bydd y Parc yn cynnal nifer o ddiwrnodau digwyddiadau dros yr haf, os oes gennych ddiddordeb mewn cynnig stondin, cysylltwch â mi

Darllenwch fwy

Cemeg yn y Gwaith - 4ydd Gorffennaf 2019 

Ym mis  Ionawr Cynhaliodd yr Athro Simon Bott, ynghyd â staff a myfyrwyr o'r Adran Gemeg ym Mhrifysgol Abertawe Ddiwrnod Cemeg yn y Gwaith ’llwyddiannus iawn arall ar gyfer dros 150 o ddisgyblion Blwyddyn 9 o 5 ysgol uwchradd yn Ne Cymru yn mynychu. Nod diwrnodau Cemeg yn y Gwaith, a ariennir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yw rhoi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gwell i ddisgyblion o bwysigrwydd cemeg yn ein bywydau bob dydd ac amlygu'r gyrfaoedd gwyddonol cemegol amrywiol sydd ar gael.
Darllenwch fwy am y digwyddiad ym mis Ionawr yn ein cylchlythyr blaenorol yma

Bydd Gweld Gwyddoniaeth  yn cynnal Diwrnod Cemeg yn y Gwaith arall ar Orffennaf 4ydd 2019.
Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn 4 gweithdy ymarferol gwahanol yn ystod y dydd lle cânt gyfle i wneud gweithgareddau cemeg ymarferol yn labordai diweddaraf.

Mae nifer cyfyngedig o leoedd ar gael o hyd felly os hoffech ddod â grŵp o hyd at 30 o ddisgyblion blwyddyn 9 ar hyd neu am fwy o wybodaeth am y diwrnod, cysylltwch â Llinos ar llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd allgymorth enfawr i ysgolion yn ardal De Cymru - cliciwch yma i weld rhai o'r cyrsiau sydd ar gael yn eu Labordai Prifysgol diweddaraf

Darllenwch fwy

Gwyddonydd y Flwyddyn 

Ar nos Lun  18fed Mawrth 2019 cynhaliodd Cymdeithas Wyddonol Cymru Caerdydd gystadleuaeth cyflwyno gwyddoniaeth ar gyfer pobl ifanc mewn ysgolion uwchradd blynyddoedd 11-13. Dyma'r tro cyntaf i gystadleuaeth gael ei chynnal gyda chyllid hael gan y Sefydliad Ffiseg

Cyn crybwyll y cystadleuwyr hoffwn ddiolch i'r beirniaid, yr Athro Arwyn Tomos Jones o Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd, Dr Eirian Dafydd a'r Athro Hefin Jones o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd  a Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - roedd yna swydd anodd iawn o flaen y pedwar ohonynt.
Y cyntraf i gystadlu oedd  Ffion a Meg yn siarad am Olyniaeth Ecolegol ac roeddent wedi paratoi cyflwyniad caboledig a oedd yn cynnwys ffilm
animeiddiad wedi'i greu'n arbennig ar gyfer y gystadleuaeth. Nesaf daeth Sion yn siarad am effeithiau microbau yn y coluddyn ar yr ymennydd - roedd hefyd wedi paratoi cyflwyniad trawiadol a ddaeth â'i destun yn fyw. Yna siaradodd Casi yn hyderus am effaith Plasebo. Nesaf daeth Ffion i siarad am 'Biomimicry' lle mae anifeiliaid yn esgus bod yn wahanol ac wedi cael lluniau gwych i esbonio ei thestun.
Fe symudon ni i fyd mathemateg gyda Rhys yn siarad am Rifau Trosgynnol a defnyddiodd y bwrdd gwyn i ddangos ei frwdfrydedd amlwg am syniadau y mathemategydd Georg Cantor. Ac i gau, trafododd y cyflwyniad diwethaf gan Ffion 'Cymru a'u Cyffuriau' lle disgrifiodd effaith gwahanol gyffuriau ar yr ymennydd ynghyd â'i heffaith drychinebus ar gymdeithas. Llwyddodd y beirniaid i benderfynu ar enillwyr ond roedd yn anodd iawn! Yn y pen draw daeth Ffion a Meg a'i ffilm yn gyntaf gyda'r animeiddiad ardderchog, daeth Sion a Ffion (Biomimicry) yn ail ar y cyd, a daeth Rhys, Casi a Ffion (cyffuriau) yn drydydd ar y cyd. Bu'r noson yn llwyddiant mawr, ond os oes gennym nifer tebyg o gystadleuwyr y flwyddyn nesaf, bydd angen rhagbrofion arnom!
Darllenwch fwy

Diwrnodiau CREST Darganfod am ddim yng Nghymru

Y tymor diwethaf, manteisiodd 8 ysgol ar draws Cymru - cynradd ac uwchradd - ar ein cynnig o gynnal Diwrnod Darganfod CREST am ddim, gan alluogi grŵp blwyddyn gyfan i ennill Gwobr CREST mewn diwrnod. Rhoddwyd dewis o ddwy weithgaredd i’r ysgolion, naill ai Stop the Spread neu Wild Creations. 

Thema Stop the Spread yw atal clefydau heintus rhag lledaenu mewn gwledydd sy'n datblygu trwy ganolbwyntio ar olchi dwylo ymysg plant ysgol. Mae disgyblion yn trafod sut mae clefydau'n lledaenu o berson i berson cyn ystyried diffyg cyfleusterau hylendid mewn gwledydd sy'n datblygu. Prif her y dydd yw dylunio ac adeiladu, o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, ddyfais golchi dwylo ar gyfer iard ysgol yn Kenya sy'n gallu casglu a storio dŵr glaw. Ochr yn ochr â'r elfen ymarferol hon mae'n rhaid i ddisgyblion ddyfeisio ymgyrch i addysgu plant 8 oed am yr angen i olchi eu dwylo a sut i wneud hynny'n iawn. Yn ogystal â chysylltiadau STEM amlwg, mae gan y gweithgaredd thema Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Ariannwyd Wild Creations gan Lywodraeth Cymru i gyd-fynd â Chwricwlwm Cymru ac mae'n defnyddio'r cwmni Cymreig 'Wild Creations' - sy'n enwog am greu'r bêl rygbi oedd yn byrstio allan o Gastell Caerdydd yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2015 - fel ysbrydoliaeth i ddisgyblion ddylunio ac adeiladu modelau o'u creadigaethau gwyllt eu hunain i gynrychioli eu diwylliant. Gall yr elfen ddiwylliant arwain at drafodaethau gwych! Roedd y syniadau a ddeilliodd o'r trafodaethau hyn yn wahanol iawn, yn dibynnu ar yr ysgol a'i lleoliad. Er enghraifft, ymunodd Ysgol Gynradd Llwyncrwn ac Ysgol Castellau yn y Beddau ger Pontypridd gyda'i gilydd ar gyfer eu Diwrnod Darganfod ac roedd y rhan fwyaf o'r modelau yn seiliedig ar themâu Cymreig fel cennin Pedr, rygbi a dreigiau, tra bod Ysgol Gynradd Maendy yng Nghasnewydd yn un o'r ysgolion mwyaf amlddiwylliannol yng Nghymru ac roedd eu modelau yn adlewyrchu ethos cynhwysol yr ysgol gyda llawer o faneri cenedlaethol, symbolau crefyddol a dwylo wedi'u cydblethu.

Mae holl weithgareddau Diwrnodau Darganfod CREST yn dod ag adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim sy'n cynnwys canllawiau manwl i athrawon a digon o wybodaeth gefndir. Maent yn addas ar gyfer Bl 5 i 9 ac yn ddelfrydol ar gyfer gweithgaredd diwrnod di-amserlen i'w redeg gyda grŵp blwyddyn gyfan. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma ac os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am y Diwrnodau Darganfod CREST am ddim yna  cysylltwch â Llinos ar llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.

COFIWCH BOD GWOBRAU CREST (Darganfod, Efydd, Arian ac Aur) AM DDIM YNG NGHYMRU YN UNIG GAN BOD LLYWODRAETH CYMRU YN AWYDDUS I’W HYRWYDDO A’U HARIANNU AR GYFER YSGOLION A SEFYDLIADAU SY’N CEFNOGI POBL IFANC.

Darllenwch fwy

Cemeg yn y Gymuned - gweithdai Cemeg am ddim

 
Bydd Gweld Gwyddoniaeth yn cynnig cyfle i Grwpiau Cymunedol fel y Brownies, Guides, Scouts, yr Urdd a Chlybiau Ieuenctid gymryd rhan mewn gweithdy Cemeg am ddim a ariennir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol rhwng 1 Mawrth a 30 Mehefin.

Bydd y gweithdy'n cynnig carwsél o 4 gweithgaredd gwahanol a fydd yn canolbwyntio ar Gemeg y Stryd Fawr a bydd hefyd yn rhoi cyfle i arweinwyr annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn Gwobr CREST os dymunant. Darperir yr holl ddeunyddiau yn rhad ac am ddim. I gael rhagor o wybodaeth am archebu gweithdy Cemeg yn y Gymuned cysylltwch â Llinos ar llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk​​​​​​​

Digwyddiadau lleol

Cynhadledd Gemeg i athrawon a thechnegwyr 
 

26 Mehefin 2019 9am - 4pm 


Adran Cemeg Prifysgol Bangor, Adeilad Alun Roberts, Ffordd Deiniol, Bangor, LL57 2UW,
Mae'r Gymdeithas Frenhinol Cemeg mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor,
Techniquest a STEM Learning yn cynnig diwrnod o gyflwyniadau, trafodaethau a gweithdai am ddim i athrawon cemeg a thechnegwyr. Bydd sesiynau gwahaniaethol ar gyfer athrawon cemeg ac ar gyfer technegwyr gwyddoniaeth. Mae'r gynhadledd yn agored i'r holl athrawon, technegwyr, athrawon newydd gymhwyso ac athrawon dan hyfforddiant.
Dewch i gymryd rhan mewn sesiynau labordy ymarferol, trafodwch faterion sy'n berthnasol i'ch rôl - gan gynnwys y cwricwlwm newydd a'r hyn y gallai ei olygu i chi, a darganfod y gefnogaeth a'r adnoddau sydd ar gael i'ch helpu i wneud eich swydd.

Byddwch yn gallu:
rhwydweithio a rhannu arfer da gydag athrawon cemeg a / neu dechnegwyr eraill, datblygu a diweddaru eich gwybodaeth trwy weithdai pwnc-benodol a chyflwyniadau byr, a
darganfod amrywiaeth o adnoddau cyfoethog i helpu i ysgogi brwdfrydedd myfyrwyr am gemeg.

Cyllid
Mae Techniquest yn rheoli cytundeb STEM Learning Ltd ar gyfer DPP yng Nghymru. Mae athrawon a thechnegwyr o ysgolion,  a cholegau a ariennir gan y DU yn gymwys i gael Bwrsariaeth ENTHUSE gwerth £150 diolch i STEM Learning Ltd. Mae uchafswm o 2 fwrsariaeth ar gael ar gyfer pob ysgol,neu gampws coleg.
I archebu cliciwch yma neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â mccallumd@rsc.org


Mae'r gynhadledd hon yn un o ddigwyddiadau Partneriaeth Dysgu Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol. Mae'r Bartneriaeth Learn Chemistry yn rhaglen rhad ac am ddim sy'n galluogi ysgolion i gysylltu â ni a gwneud y gorau o'n gweithgareddau a'n hadnoddau.

Darllenwch fwy

Digwyddiad STEM y BBC yng Nghaerdydd 2019BBC STEM Careers Event - Cardiff 2019- BBC Cymru  Llandaff Caerdydd CF5 2YQ - Dydd Mawrth  14 Ma1 2019

Dymuna Gohebydd Ifanc y BBC a Dysgu STEM eich gwahodd chi a’ch myfyrwyr blwyddyn 8 a 9 i ddiwrnod archwilio STEM yn BBC Cymru, Caerdydd.
 
Bydd cyfle i gwrdd â Llysgenhadon STEM y BBC a darganfod sut maen nhw’n defnyddio Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg yn eu gwaith bob dydd..
Ymunwch â ni er mwyn cwrdd â staff y BBC sy’n dylunio, creu ac yn rheoli apiau, gwefannau, technoleg symudol a BBC iPlayer.

Gallwch gyfarfod â staff sy’n defnyddio mathemateg i ganfod newidiadau mewn arferion gwylio.

Cewch wybod sut mae peirianneg yn chwarae rôl hanfodol o ran yr hyn rydym yn ei weld ar y teledu neu sut y gallai diddordeb mewn Gwyddoniaeth arwain at wneud rhaglenni fel Blue Planet2Dynasties a Planet Earth II.
 

Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ac athrawon gael gwybodaeth werthfawr am yrfaoedd, dysgu sgiliau newydd a chwblhau heriau a gweithgareddau sy’n seiliedig ar STEM. Mae angen sicrhau lle erbyn 3 Mai drwy gysylltu yma

Unwaith yr ydych wedi sicrhau lle  byddwn yn anfon rhagor o fanylion i chi  yn cynnwys ffurflenni cofrestru . Nifer cyfyngedig 4 disgybl a 2 athro o bob ysgol
 

 
Darllenwch fwy

Merched yn newid y byd
 

Mae IBM, STEM Learning a Marvel Studios wedi dod at ei gilydd i ddathlu rhyddhad ffilm Capten Marvel yn y sinemau  trwy ofyn i ferched sianelu eu prif bwerau a bod yn rhan o Girls Who Change the World!

Gallwch ddefnyddio'r faner isod i ddweud wrth eich rhwydwaith am y gystadleuaeth a chael gwybod mwy ar
www.stem.org.uk/girls-who-change-the-world.

Eisteddfod Genedlsethol yr Urdd  - Caerdydd Mai 27- Mehefin 2

Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn un o wyliau teithiol ieuenctid mwyaf Ewrop sy'n denu tua 90,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ar draws chwe diwrnod.
Bydd gan Gweld Gwyddoniaeth stondin yng Ngwyddonle - y Pafiliwn Gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod drwy'r wythnos
Am fwy o wybodaeth ewch i 
https://www.urdd.cymru/en/eisteddfod/
Peidiwch â cholli rhai gweithdai ffantasi ar Bafiliwn Prifysgol Caerdydd. - mwy o wybodaeth yma

Cyfleoedd Ariannu

Cynllun Grant Ymgysylltu a'r Cyhoedd y Sefydliad Ffiseg nawr ar agor

Mae ein cynllun grant ymgysylltu â'r cyhoedd yn darparu hyd at £ 3000 i unigolion a sefydliadau sy'n rhedeg digwyddiadau a gweithgareddau sy'n seiliedig ar ffiseg yn y DU ac Iwerddon.Mae gan y cynllun grant ddwy rownd bob blwyddyn. Mae Rownd 1 o gynllun 2019 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a dderbynnir erbyn 5pm ddydd Gwener 31 Mai 2019. Gallwch ddod o hyd i'r ffurflen gais a'r canllawiau yma.Mae'r grant hwn ar gyfer prosiectau sy'n digwydd ar ôl 1 Awst 2019 ac yn gorffen cyn diwedd Gorffennaf 2020.
Rydym yn argymell yn gryf i ymgeiswyr gysylltu â Paul Branch, cydlynydd y rownd hon o'r cynllun grant, i drafod syniadau a gofyn cwestiynau cyn eu cyflwyno. Gallwch gysylltu â ni drwy anfon e-bost at paul.branch@iop.org.
I gael gwybod mwy am brosiectau yr ydym wedi'u hariannu o'r blaen, ewch i'n gwefan.
 

 Gwobrau

 

Darllenwch fwy

Dyluniwyd gan athrawon, wedi ei adeiladu  ar gyfer disgyblion - mae'n amser i chi ddweud eich dweud am y cwricwlwm drafft i Gymru

Mae'r daith tuag at gyflwyno cwricwlwm newydd Cymru yn 2022 yn cyrraedd carreg filltir fawr gyda

cyhoeddi drafft a ddyluniwyd gan athrawon ac a luniwyd gan arbenigwyr o Gymru ac o amgylch y byd. I weld cwricwlwm drafft Cymru 2022 ewch i wefan Hwb

 

DPP diweddaraf o'r Bartneriaeth STEM Learning

To fI ddarganfod mwy am y DPP diweddaraf oddi wrth eich Partner Dysgu Gwyddoniaeth, cliciwch yma

Dilynwch ni ar Facebook - Gweler tudalen facebook Gweld Gwyddoniaeth
Hoffwch chi neu ddilynwch y dudalen