Mae gwobrau Athrawon Ffiseg yn dathlu llwyddiant athrawon ffiseg ysgolion uwchradd sydd wedi codi proffil ffiseg a gwyddoniaeth mewn ysgolion.
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau IOP 2023 bellach ar agor.
Gwyddom fod athrawon yn cyfrannu llawer iawn at gymdeithas, a dymunwn roi’r gydnabyddiaeth haeddiannol iddynt. Gyda’r gwobrau hyn, rydym yn anrhydeddu athrawon ochr yn ochr â gwyddonwyr ymchwil a diwydianwyr nodedig. Yn y modd hwn rydym yn cydnabod na fyddai unrhyw gymuned ymchwil ffiseg na sylfaen dechnolegol yn y gymdeithas heb athrawon ymroddedig.
Mae'r enillwyr yn derbyn gwobr o £1,000, tlws gwydr wedi'i ysgythru a thystysgrif.
Mae system ymgeisio gyffredin ar gyfer pob athro yn Lloegr, Iwerddon a Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ond bydd y dyfarniadau yn cael eu beirniadu gan ddefnyddio paneli cenedlaethol ar wahân.
Manylion yma.
|