Mae Ymddiriedolwyr Cronfa Ffordd Rees Jeffreys wedi bod yn dathlu 150 mlynedd ers genedigaeth y cymwynaswr William Rees Jeffreys gyda Chystadleuaeth fawr ledled y DU. Roedd y Gystadleuaeth yn cynnig hyd at £150,000 I ysgolion oedd yn ymateb orau i gwestiwn sylfaenol: Beth yw eich gweledigaeth o'r ffordd y gallai ein ffyrdd (traffyrdd, priffyrdd, neu strydoedd) weithio i ni i gyd wrth i ni ymateb I heriau'r 50 mlynedd nesaf?
I William Rees Jeffreys,ffyrdd a strydoedd diogel ac apelgar oedd yr allwedd i well ansawdd bywyd i bawb. Roedd y beirniaid yn falch o ystod, nifer ac ansawdd y ceisiadau, a bod llawer o gynigion yn dangos ‘aliniad cryf’ i farn William Rees Jeffreys.
Ewch i wefan y Gystadleuaeth yn www.rjrf.uk i ddarganfod mwy am y ceisiadau ar y rhestr fer,
Gofyniad allweddol y Gystadleuaeth oedd am syniadau arloesol, wedi eu cyflwyno yn greadigol, a nododd yr Ymddiriedolwyr faint o ymgeiswyr a ymatebodd, gan anfon ceisiadau a oedd yn cynnwys caneuon, cerddi, fideos, paentiadau a modelau.
‘Roedd yn adfywiol clywed gan rai lleisiau newydd i’r sector a chael rhai syniadau meddylgar iawn,’ meddai Ginny Clarke, Ymddiriedolwr a Chadeirydd y Panel Beirniadu.
‘Rwyf wrth fy modd gyda’r ehangder o syniadau, ansawdd y meddwl a’r creadigrwydd, ac yn arbennig o falch o gael 142 o gynigion,’ ychwanegodd yr Ymddiriedolwr Andy Graham.
Meddai Ginny Clarke, Ymddiriedolwr a Chadeirydd y panel Beirniadu: ‘Ar ran yr Ymddiriedolwyr, hoffwn ddiolch i bob un a gyfrannodd at y 142 ymgais hyn. Roedd y safon yn gyson uchel, ac roeddem wrth ein boddau i dderbyn cymaint o gynigion ym mlwyddyn gyntaf y Gystadleuaeth.
Llongyfarchiadau i Ysgol Ferched Lewis, Hengoed a ddaeth yn ail yng nghategori Ysgol Uwchradd a derbyn £2,000 mewn gwobrau
Teitl eu prosiect oedd: Teitl eu prosiect oedd: Twmpathau cyflymder wedi'u hailgylchu sy'n cynhyrchu pŵer + ffyrdd
Mae'r syniad hwn ar gyfer ffyrdd a twmpathau cyflymder sy'n cael eu gwneud o blastig wedi'i ailgylchu, ond gyda'r twmpathau cyflymder yn cynnwys nifer fawr o blatiau Piezoelectric ynddynt. Pan fydd cerbyd yn gyrru dros y twmpath, mae pwysau'r car yn gweithredu ar y platiau Piezoelectric ac yn cynhyrchu pwls trydanol bach. Yna gellir storio'r pwls egni hwn mewn batris a'i ddefnyddio i bweru goleuadau stryd neu hyd yn oed i blygio ceir trydan i mewn i'w gwefru.
‘Fel Ymddiriedolwyr, byddwn yn estyn allan at lawer o unigolion a sefydliadau newydd yn y dyfodol, a daeth sawl un i’n sylw drwy’r Gystadleuaeth hon.’
Rheolwyd y gystadleuaeth ar ran Cronfa Ffordd Rees Jeffreys gan Landor LINKS
|