Pentref Gwyddoniaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei drawsnewid yn ardal ryngweithiol, ddeniadol a chyffrous, gan ddod â phob elfen o STEAM yn dod yn fyw i ymwelwyr o bob oed.
Gyda rhaglen gyfoes o weithgareddau, o sgyrsiau a chyflwyniadau am y datblygiadau gwyddonol diweddaraf ledled y byd, i gyfleoedd i blant arbrofi gyda phob math o wyddoniaeth, dyma un o ardaloedd prysuraf a mwyaf poblogaidd y Maes.
Mae'r Pentref Gwyddoniaeth yn rhan gynyddol bwysig o'r ŵyl, gan groesawu cynrychiolwyr o'r sefydliadau academaidd yn ogystal â chwmnïau a sefydliadau sy'n dymuno ymgysylltu â phobl ifanc ym mhob agwedd ar wyddoniaeth a thechnoleg. Yn ogystal â gweithgareddau rhyngweithiol, roedd heriau peirianneg dyddiol i bobl ifanc. Diolch i'r holl wirfoddolwyr a gynigiodd helpu gyda'r digwyddiad dros y 6 diwrnod, yn enwedig athrawon o ysgolion lleol.
Enillydd Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yw Dewi Bryn Jones, arloeswr blaenllaw mewn technolegau iaith a lleferydd Cymraeg.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Dewi wedi gwneud mwy nag unrhyw un arall i ddatblygu offer ac adnoddau iaith gyfrifiadurol Cymraeg, gan alluogi'r cyhoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ar eu cyfrifiaduron ac mewn cyfathrebu digidol. Mae ei dechnolegau hefyd yn cefnogi unigolion anabl a'r rhai ag anghenion ychwanegol i gyfathrebu yn y Gymraeg.
Mae Dewi yn arwain tîm o ddatblygwyr meddalwedd yn yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Mae ei weledigaeth a'i gyfraniadau wedi sbarduno arloesedd mewn technoleg ysgrifennu Cymraeg, technoleg lleferydd Cymraeg, a chyfieithu peirianyddol Cymraeg yn y byd digidol.
Mae'r fedal, a ddyfarnwyd gyntaf yn 2004, yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniad unigolyn at wyddoniaeth a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn briodol, y derbynnydd cyntaf oedd yr Athro Glyn O Phillips, gwyddonydd amlwg o Wrecsam a phennaeth sefydlu Sefydliad Gogledd Ddwyrain Cymru – Prifysgol Wrecsam bellach.
Nod y fedal yw anrhydeddu a dathlu cyfraniadau rhagorol i'r diwydiant gwyddoniaeth a thechnoleg drwy gyfrwng y Gymraeg.
|