This is the Welsh version of the  STEM Ambassador newsletter for Secondary Schools and Colleges. To view the English version please click here

Croeso i’r cylchlythyr STEM diweddaraf  ar gyfer Ysgolion Uwchradd a Cholegau  gan eich Hwb Llysgenhadon STEM lleol. 

Mae nifer o gyfleoedd ymgysylltu STEM newydd ar gael ar gyfer yr hanner tymor sydd i ddod. Mae Llysgenhadon STEM yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd cyfoethogi â phosibl i ddysgwyr ac rydym yn croesawu ceisiadau am Lysgenhadon STEM i helpu gydag unrhyw gyfle cyfoethogi - cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich anghenion unigol.

Cofiwch annog cydweithwyr i gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn cylchlythyron Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol
www.stem.org.uk/user/register ac yna dewis derbyn cylchlythyron.


Mae gan Gweld Gwyddoniaeth  dudalen Facebook lle byddwn hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd  - byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ein dilyn. 

Cofiwch gysylltu gyda ni os hoffech unrhyw gefnogaeth wrth ddysgu pynciau STEM.


Gyda dymuniadau gorau, 
Tîm Gweld Gwyddoniaeth

 

Newyddion

Rowndiau Terfynol Rhanbarthol FIRST® LEGO® League Challenge
Gweld Gwyddoniaeth i gynnal Diwrnodau Her Faraday® yr IET o fis Medi 2023

Digwyddiadau Cenedlaethol

Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion
Her Engineering Educates: Farmvention 2022-24

Digwyddiadau

RSC: Rhwydwaith athrawon cemeg Cymru – Paratoi at arholiadau.
Llysgenhadon STEM: Dyma Fi
RSC: Gwreiddio gyrfaoedd yn eich gwersi gwyddoniaeth
Cemeg ar Waith - Dydd Iau, Gorffennaf 6ed ym Mhrifysgol Abertawe
Diwrnodau Girls into Electronics

Cystadleuthau, Grantiau a Chyfleoedd

Cystadleuaeth BioArtAttack Cymdeithas Fioleg Frenhinol
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gymdeithas Fioleg Frenhinol
Grantiau Labordy Gwyddoniaeth Gopher
Grantiau Natur Ysgolion Lleol
DPP gan STEM Learning
Gwnewch gais am Lysgennad STEM 


Gall cyfranogiad Llysgennad STEM ennyn diddordeb myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gofyn i Lysgennad STEM i helpu gallwch wneud eich cais yma. Rydym wedi creu canllawiau byr i annog Llysgenhadon STEM ac addysgwyr i ddefnyddio’r hunanwasanaeth. 

 

Gall unrhyw athro neu athrawes wneud cais am Lysgennad STEM i ymweld â'u hysgol felly annogwch eich cydweithwyr i Please encourage colleagues to gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn cylchlythyron Gweld Gwyddoniaeth a dysgu mwy am y rhaglen.   

Newyddion STEM diweddara

Rowndiau Terfynol Rhanbarthol FIRST® LEGO® League Challenge

Roedd Gweld Gwyddoniaeth yn falch o gynnal 3 rownd derfynol ranbarthol FIRST® LEGO® League Challenge dros yr wythnosau diwethaf, un yn Sir Benfro, un yng Nglynebwy a’r llall ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd.

Mae FIRST® LEGO® League Challenge yn rhaglen STEM fyd-eang ar gyfer timau o bobl ifanc, i annog diddordeb mewn themâu byd go iawn a datblygu sgiliau allweddol sy'n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae pobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio pwnc penodol ac i ddylunio, adeiladu a rhaglennu robot LEGO® ymreolaethol i ddatrys cyfres o genadaethau. Thema eleni yw Ynni.

Dros y tair rownd derfynol ranbarthol, bu 40 o ysgolion yn cystadlu a chael llawer o hwyl ar y diwrnod. Llongyfarchiadau enfawr i’r tri Pencampwr Rhanbarthol a PHOB LWC wrth iddynt fynd ymlaen i gynrychioli eu rhanbarthau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol FIRST® LEGO® League yn Harrogate yn ddiweddarach y mis hwn!

  • Pencampwyr Sir Benfro: Ysgol Gelli Aur
  • Pencampwyr De Ddwyrain Cymru: Ysgol Derwendeg
  • Pencampwyr Cyfrwng Cymraeg Caerdydd: Ysgol Bro Edern


Diolch i Ysgol Harri Tudur, Ysgol Gynradd Willowtown ac Addewid Caerdydd am eu croeso a’u cydweithrediad cyn ac yn ystod y digwyddiadau.
 

Newyddion

Gweld Gwyddoniaeth i gynnal Diwrnodau Her Faraday® yr IET o fis Medi 2023

Mae Gweld Gwyddoniaeth wrth eu bodd i gyhoeddi y byddwn ni'n cynnal Diwrnodau Her Faraday® yr IET mewn ysgolion ar draws Cymru o fis Medi 2023 ymlaen!

Mae Diwrnodau Her Faraday® yr IET yn ddiwrnodau gweithgaredd STEM trawsgwricwlaidd sydd wedi’u cynllunio ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 8.
Cynhelir Diwrnodau Her IET Faraday® mewn Ysgolion, Sefydliadau a Phrifysgolion ledled y DU ac maent yn rhoi cyfle i dimau o fyfyrwyr ymchwilio, dylunio a gwneud datrysiadau prototeip i heriau peirianneg y byd go iawn.

Bydd enillwyr pob Diwrnod Her Faraday® yr IET yn ennill tlws i'w hysgol ac yn ennill lle ar y tabl cynghrair cenedlaethol. Bydd y timau gorau o bob rhan o’r DU yn cael eu gwahodd i’r Rownd Derfynol Genedlaethol ar ddiwedd y tymor i gystadlu am wobr ariannol o hyd at £1,000 i’w hysgol ei wario ar weithgareddau STEM.

Trwy ei gangen elusennol, yn ogystal â chefnogwyr allanol, mae'r IET yn darparu Diwrnodau Her Faraday® yr IET am ddim i ysgolion y DU.

Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer tymor 2023-24 ac yn cau ar Ebrill 28ain 2023.

Manylion yma.

Newyddion

Her Engineering Educates: Farmvention 2022-24

Ysbrydoli peirianwyr ifanc trwy gyd-destunau'r byd go iawn.

Mae Her Engineering Educates: Farmvention yn cynnwys 3 llwybr gwahanol wedi'u teilwra i ysbrydoli plant 7-14 oed i feddwl fel peirianwyr yng nghyd-destun ffermio ym Mhrydain. Mae pob un yn cynnwys dilyniannau o bum sesiwn sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm.

Mae dysgwyr yn cymhwyso sgiliau a gwybodaeth mathemateg, gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg a chyfrifiadureg trwy gyd-destun ffermio a pheirianneg amaethyddol. Mae'r llwybrau'n arwain dysgwyr drwy'r broses dylunio peirianyddol ac yn ymgorffori materion allweddol amgylchedd a chynaliadwyedd. Trwy feddwl fel peirianwyr, mae dysgwyr yn datrys problemau sy'n gwneud gwahaniaeth mewn lleoliadau byd go iawn gan ddefnyddio creadigrwydd, dychymyg a chydweithio. 

Bydd yr her yn rhedeg yn ystod blynyddoedd academaidd 2022-2023 a 2023-2024, ac ar ôl hynny rhagwelir Her Engineering Educates newydd.  mManylion yma.

Digwyddiadau Cenedlaethol DU

Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion. Dydd Mawrth 13 Mehefin.

Mae’r Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion (GSSfS) yn ymgyrch arobryn, flynyddol i ysbrydoli plant 5-14 oed i ofyn, ymchwilio a rhannu eu cwestiynau gwyddonol gyda chynulleidfaoedd newydd.

Mae GSSfS yn codi proffil gwyddoniaeth mewn ysgolion a’u cymunedau, gan annog pobl ifanc i gael eu hysbrydoli i fyd gwyddoniaeth a pheirianneg.

Profiad cynhwysol, anghystadleuol a chydweithredol i bawb.

Cymerwch ran! Y cyfan sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys adnoddau gwych yma.

Dydd Mercher 19 Ebrill, 3.45-4.45pm, bydd Grace Marson, Cydlynydd Ymgyrch GSSfS, yn cynnal sesiwn taro i mewn ar-lein yn rhoi gwybodaeth a chyfle i ofyn cwestiynau. Bydd yn ddelfrydol ar gyfer athrawon sydd yn newydd i’r ymgyrch neu i unryw un sydd am atgoffa eu hunain! Bwcio yma.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

RSC: Rhwydwaith athrawon cemeg Cymru – Paratoi at arholiadau. Dydd Mawrth 18 Ebrill, 4–5pm. Ar-lein.

Dewch i ymuno â’n rhwydwaith cefnogol sy’n rhoi cyfle i siarad ag athrawon eraill am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru, boed yn newid cwricwlwm neu’n rhannu syniadau ac adnoddau.

Yn y cyfarfod hwn bydd Jonathan Owen (Swyddog Pwnc – Cemeg CBAC) yn ymuno â ni i ateb eich cwestiynau ac i gynnig cyngor ar y tymor arholiadau sydd i ddod. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i chi rannu eich hoff awgrymiadau adolygu fel y gallwn lunio rhestr o'r deg awgrym adolygu gorau.  Manylion ac archebu yma.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

Llysgenhadon STEM: Dyma Fi. Dydd Mercher Mai 10fed 3.45-4.30pm. Ar-lein

Mae sesiynau Dyma Fi yn gyfle i athrawon weld manteision dod â Llysgennad STEM i’r ystafell ddosbarth.

Bydd athrawon yn cael y cyfle i gwrdd â rhai Llysgenhadon STEM a chael gwybod am y mathau o weithgareddau y gallant ddod â nhw i'r ystafell ddosbarth. Bydd yn cynnig cyfle i athrawon drafod manteision dod â Llysgenhadon STEM i’r ystafell ddosbarth i gefnogi pynciau a phrosiectau y gellid eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd i Gymru. 

*Os nad ydych yn gallu mynychu'r digwyddiad byw hwn ond wedi cofrestru, yna bydd recordiad o'r sesiwn ar gael i chi.  Bwcio yma.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

RSC: Gwreiddio gyrfaoedd yn eich gwersi gwyddoniaeth. Dydd Mawrth Mehefin 6ed , 4–5pm. Ar-lein

Hoffech chi gael rhai syniadau am sut i ddod â gyrfaoedd gwyddoniaeth gemegol i mewn i'ch addysgu?

Dewch draw i archwilio rhai o'n hadnoddau a thrafod gwahanol syniadau am sut i'w defnyddio a gwneud gyrfaoedd cemeg yn berthnasol. Yn ystod y sesiwn ryngweithiol hon byddwn yn amlygu rhai o’n hadnoddau gyrfa ac yn cyflwyno gwahanol ddulliau o ddod â gyrfaoedd i wahanol bynciau o fewn camau cynnydd 4 a 5 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd cyfle i drafod gydag athrawon eraill pa ddulliau sy’n gweithio a pha wybodaeth neu adnoddau eraill fyddai’n ddefnyddiol yn y dosbarth. Manylion a bwcio yma.
 

Digwyddiadau Lleol

Cemeg ar Waith - Dydd Iau, Gorffennaf 6ed ym Mhrifysgol Abertawe

Unwaith eto bydd yr Athro Simon Bott a'i dîm yn Adran Cemeg Prifysgol Abertawe yn cynnal Diwrnod Cemeg ar Waith wyneb yn wyneb ar gyfer blwyddyn 9.

Bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn 4 gweithdy ymarferol gwahanol trwy gydol y dydd lle cânt gyfle i wneud gweithgareddau cemeg ymarferol yn labordai modern yr adran. 

Nod diwrnodau Cemeg yn y Gwaith, a ariennir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, yw rhoi gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth i ddisgyblion o bwysigrwydd cemeg yn ein bywydau bob dydd a thynnu sylw at yr amrywiaeth o yrfaoedd gwyddor gemegol. 

Mae bwrsariaethau teithio o £75 ar gael i ysgolion cymwys. 

I archebu lle neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk

Digwyddiadau Lleol

Diwrnodau Girls into Electronics

Mae’r UKESF, mewn cydweithrediad ag Apple, wedi cyhoeddi ei raglen gyffrous ‘Girls into Electronics’ ar gyfer 2023.

 Mae Girls into Electronics yn rhoi cyfle unigryw i ddisgyblion Blwyddyn 11 a chweched dosbarth ddatblygu eu diddordeb mewn Electroneg. Wrth galon y rhaglen mae digwyddiad undydd mewn prifysgol flaenllaw yn y DU. Does dim un o’r digwyddiadau yng Nghymru ond mae rhai o’r Prifysgolion o fewn pellter teithio rhesymol, fel Lerpwl, Aston a Bryste. 

Yn ystod y dydd, bydd cyfranogwyr yn darganfod mwy am Electroneg ac astudio'r pwnc ar lefel prifysgol, yn ogystal â chlywed gan beirianwyr graddedig benywaidd sy'n gweithio yn y sector Electroneg. Mae gwneud datblygiadau mewn Electroneg a lled-ddargludyddion yn hanfodol i ddarparu atebion technolegol i rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu cymdeithas, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, gwella gofal iechyd a gwell cysylltedd a chyfathrebu. 

Bydd Girls into Electronics yn digwydd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2023. 

Manylion yma.

Cystadleuaeth

Cystadleuaeth BioArtAttack Cymdeithas Fioleg Frenhinol

Mae Cystadleuaeth BioArtAttack y Gymdeithas Fioleg Frenhinol (2D) 2023 (Gwobr Nancy Rothwell gynt) yn gystadleuaeth lluniadu a phaentio celf 2D i blant i blant 7 – 18 oed i dynnu llun neu beintio eu hoff anifail, planhigyn neu ffyngau. Mae Gwobr Nancy Rothwell bellach yn is-gategori ar gyfer lluniadau enghreifftiol a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth hon.

Mae'r gystadleuaeth bellach ar agor ar gyfer cyflwyniadau, ac mae gwobrau'n cynnwys £50 i fyfyrwyr buddugol. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Gorffennaf.  Manylion yma.

Cystadleuaeth

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gymdeithas Fioleg Frenhinol

‘Natur a Hinsawdd’ yw thema Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gymdeithas Fioleg Frenhinol eleni. Mae bywyd ar y ddaear yn cael ei effeithio gan yr hinsawdd, y tywydd a newidiadau tymhorol ac eleni rydym yn eich gwahodd i ddal hyn.

Gallai eich ffotograff ddarlunio a dal stori bywyd wrth iddo gael ei effeithio gan yr hinsawdd, y tywydd neu newidiadau tymhorol, efallai mewn amgylchedd annisgwyl neu wedi newid, neu ddangos sut mae hinsawdd newidiol (a phatrymau tywydd) yn effeithio ar y byd naturiol. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau sy’n archwilio thema eleni ar y lefel foleciwlaidd neu gellog, gan ddangos yr effeithiau neu’r newidiadau mewn natur a hinsawdd trwy brosesau a ddatgelir i ni gyda chymorth microsgop yn unig. 

Mae dau gategori yn y gystadleuaeth, pob un â gwobr ariannol: 

  • Ffotograffydd y Flwyddyn (18 oed a throsodd) - prif wobr o £1,000 
  • Ffotograffydd Ifanc y Flwyddyn (dan 18 oed) - prif wobr o £500 

Dyddiad cau Mehefin 27. 

Manylion yma.

Grant

Grantiau Labordy Gwyddoniaeth Gopher

Mae'r RSB yn awyddus i rai o'r grantiau yma fynd i ysgolion yng Nghymru ac mae'r adnoddau AR GAEL YN Y GYMRAEG!

Mae’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol (RBS) yn cynnig cyfle i ysgolion uwchradd a ariennir gan y wladwriaeth yn y DU i ddau athro gynnal Labordy Gwyddoniaeth Gopher, diwrnod labordy gydag ysgolion cynradd gwahoddedig, yn eu hysgol neu a gynhelir fel digwyddiad hybrid, gyda chymorth grant bach o £500.

Mae hyn yn cynnwys mynediad i gwrs hyfforddi ar-lein Labordy Gwyddoniaeth Gopher yr RSB i alluogi’r ysgol i hyfforddi rhai o’i myfyrwyr i gyflwyno’r addysgu diwrnod labordy gyda chefnogaeth gan y ddau athro gwyddoniaeth arweiniol. Gall athrawon ysgol uwchradd sy’n gweithio mewn ysgolion uwchradd yn y DU, a ariennir gan y wladwriaeth, anfon e-bost at Amanda Hardy i wneud cais ar ran eu hysgol am grant bach, sydd wedi’i fwriadu i gefnogi ysgolion a’u myfyrwyr na fyddent yn cael cyfle i redeg eu diwrnod labordy eu hunain am resymau ariannol. 

Manylion yma.

Grant

Grantiau Natur Ysgolion Lleol

Beth sydd gan flychau adar, gwestai gwenyn ac arbenigwyr natur i gyd yn gyffredin? Maent i gyd ar gael am ddim fel rhan o’n rhaglen Grantiau Natur Ysgolion Lleol, a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Yn agored i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae gan y gronfa grantiau dysgu awyr agored hon ddwy elfen – £500 o offer awyr agored wedi’u dewis o gatalog o dros 100 o eitemau, a chwrs hyfforddi dysgu awyr agored ar gyfer eich staff. 

Manylion yma.

DPP gan STEM Learning

DPP gwyddoniaeth ddwys effaith-uchel gan STEM Learning

Mae STEM Learning yn ymroddedig i ddarparu datblygiad proffesiynol wyneb yn wyneb o safon mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth dilys yn eu Canolfan Dysgu STEM Genedlaethol yn Efrog. Gweithiwch gydag athrawon o'r un anian, rhwydweithiwch, a datblygwch eich addysgu mewn ffyrdd rhyngweithiol ac effeithiol.

Mae cymorthdaliadau ar gael i gyfrannu at gostau teithio a chyflenwi i helpu athrawon i gymryd rhan mewn DPP. Maent yn darparu cyllid i gefnogi’r athro i wreiddio ei ddysgu o ran ei arfer broffesiynol ei hun ac yn lledaenu’r hyn a ddysgwyd gyda’u cydweithwyr yn unol â blaenoriaethau ysgol ac adrannol. 

Mae pob cwrs yn cynnwys llety ac arlwyo am gyfnod eich arhosiad fel y gallwch ganolbwyntio'n llawn ar eich dysgu. 

Dewch o hyd i amserlen cyrsiau eleni yma.

 

Follow us on facebook -  Please like or follow the page