This is the Welsh version of the Secondary Schools and Colleges Newsletter April  2022. To read the English version of the newsletter go to: www.see-science.co.uk/schools-newsletters/secondary-newsletter-current.html

Croeso i'r cylchlythyr STEM diweddaraf ar gyfer Ysgolion Uwchradd a Cholegau o'ch Hwb Llysgennad STEM lleol. Mae sawl cyfle ymgysylltu STEM newydd ar gael ar gyfer yr hanner tymor sydd i ddod. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich anghenion unigol
Gellir gweld yr e-bost llawn yma
Mae Llysgenhadon STEM yn dal i fod yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd cyfoethogi â phosibl i ddysgwyr.


Cofiwch annog cydweithwyr i gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn y cylchlythyr Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol: https://www.stem.org.uk/user/register
Mae gan Gweld Gwyddoniaeth  dudalen facebook lle byddwn hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd  - byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ein dilyn  
https://www.facebook.com/SeeScienceGweldGwyddoniaeth/

Y cylchlythyr sy'n ffynhonnell hanfodol o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i athrawon ac unrhyw un sydd gyda  diddordeb mewn ymgysylltiad STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ledled Cymru.

CYNNWYS

Newyddion STEM
 

Adnoddau 
 

 

Gweithgareddau a digwyddiadau 
 


 

Cystadleuthau  a Chyrsiau
 

 



Gall cyfranogiad Llysgennad STEM ennyn diddordeb ac ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ac athrawon. Os oes gennych ddiddordeb mewn gofyn i Lysgennad STEM eich cynorthwyo gallwch wneud eich cais yma. Rydym wedi creu canllawiau cryno i annog Llysgenhadon STEM ac addysgwyr i ddefnyddio'r hunanwasanaeth. Canllaw fideo i athrawon ac arweinwyr grŵp

Cofiwch annog cydweithwyr i gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn y cylchlythyr Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol:

Os yw Llysgennad wedi ymgysylltu â chi, neu os ydych wedi cwrdd â Llysgennad mewn gweithgaredd cyfoethogi, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi ein ffurflen adborth athrawon. Anogwch gydweithwyr i ymateb.

Newyddion STEM diweddaraf

Diwrnod y Llyfr - Llysgenhadon STEM yn serenu.  Gwyddonwyr go iawn yn rhannu eu hoff straeon yn fyw

 

Cymerodd Llysgenhadon STEM ran yn Niwrnod y Llyfr gan darllen straeon neu ddetholiadau o lyfr i dros 100 o ysgolion a gymerodd ran yn y digwyddiad ar-lein.

Wedi’i drefnu gan Gweld Gwyddoniaeth bu disgyblion yn gwrando ar ddarlleniadau o amrywiaeth o lyfrau gan gynnwys Alice in Wonderland, a hefyd yn clywed sut roedd y darlleniadau hyn yn cysylltu â byd gwaith a llwybrau gyrfa unigol Llysgenhadon STEM

Rheolwyd y gweithdy 2 awr fel gweithdy cylchdro a bu pob Llysgennad STEM yn ymdrin â gwahanol agweddau ar STEM
Diolch i'r Llysgenhadon canlynol am gymryd rhan a chefnogi
• Lil Martin Arbenigwr Cemeg, UWTSD  yn darllen Dragon’s Breath gan E.D. Baker
• Justin Baldwin - Uwch Dechnegydd Labordy, Lasers, Canolfan Arloesi Catapwlt y CSA yn darllen "Women in Science" gan Rachel Ignotofsky
• JP Hadden  - Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol, Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn darllen "Alice in Wonderland gan Lewis Caroll 
• Wendy Sadler – Prif Swyddog Gweithredol Science Made Simple yn darllen “Why Do Golf Balls have Dimples” gan Wendy Sadler
• Chris Squire – Llysgennad STEM –yn darllen “Le Petit Prince” gan yr awdur Ffrengig Antoine de Saint Exupéry
• Darius Mc Phail - Ymchwilydd PhD mewn Geneteg a Chanser ym Mhrifysgol Caerdydd yn darllen “Treasure Island” gan Robert Louis Stevenson
• Steve Markham – Peiriannydd Ansawdd yn rhannu cerddi o’i ddewis
• Frankie Hobro Cyfarwyddwr a Pherchennog Sw Môr Môn yn darllen Menai, a turtely unexpected visitor"  gan Leah Green
Mae Frankie yn Fiolegydd Cadwraeth a Morol. Mae hi'n mwynhau helpu pobl i ddysgu am yr anifeiliaid bendigedig ynein moroedd a sut i'w hamddiffyn, a'n planed ryfeddol. Cafodd Menai’r crwban ei hachub a’i hadsefydlu yn Sŵ Môr Môn nôl yn 2016. Roedd hi’n grwban byd enwog a dorrodd record! I ddathlu 5 mlynedd ers achub Menai, creodd Leah Green y llyfr hyfryd hwn i blant yn llawn gwybodaeth am Fenai a chadwraeth forol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn derbyn recordiad o unrhyw un o'r darlleniadau hyn neu fwy o wybodaeth am y llyfrau neu'r tresenters yna cysylltwch â llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk i ofyn
Byddai y Hwb Llysgenhadon STEM yn hapus i gefnogi digwyddiad tebyg yn eich ysgol - cysylltwch am fwy o fanylion
Mae mwy o fanylion am y siaradwyr ar gael yma
https://www.greatscienceshare.org/gssfs-blog-2022/2022/1/13/great-science-ideas-world-book-day

Mwy o wybodaeth
 

Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno gwyddoniaeth hynod i ddisgyblion yn eu digwyddiad allgymorth blynyddol


Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno penglogau anifeiliaid, crwydriaid robotig a bwydydd rhyfedd i bron i 1,000 o ddisgyblion fel rhan o’i digwyddiad allgymorth blynyddol sy’n cael ei gynnal fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain.

Cynhaliwyd y digwyddiad rhwng 15-17 Mawrth a chroesawyd disgyblion Blynyddoedd 5, 6, 7 ac 8 o ysgolion ar draws Ceredigion, Powys a Gwynedd.

Ar fwy nag 20 stondin, gofynnwyd i ddisgyblion ddyfalu i ba anifail yr oedd penglogau penodol yn perthyn, a dangoswyd iddynt bwysigrwydd brechlynnau, sut y gall modelau mathemategol helpu i amddiffyn rhag pandemigau a sut mae tirwedd Ceredigion wedi newid dros y canrifoedd.

Roedd academyddion a staff allgymorth y Brifysgol wrth law i ddangos i ddisgyblion sut mae gwyddoniaeth yn greiddiol i rai o ffenomenau mwyaf trawiadol bywyd ac yn effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn ffyrdd cadarnhaol.

Gwnaed stondinau rhyngweithiol gan adrannau’r Gwyddorau Biolegol, yr Amgylchedd a Gwledig, Cyfrifiadureg, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Mathemateg, Ffiseg, a Seicoleg y Brifysgol.

Nid yw digwyddiadau allgymorth wyneb yn wyneb yr Wythnos Wyddoniaeth wedi digwydd ers 2020 oherwydd y pandemig COVID-19.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Addysgu a Dysgu: “Rydym yn falch iawn o fod yn croesawu disgyblion ar gyfer ein digwyddiadau Wythnos Wyddoniaeth Prydain unwaith eto. Mae wir yn rhan hanfodol o’n calendr, gan arddangos hynodrwydd a hwyl y byd gwyddoniaeth, o archwilio glaswelltiroedd i bwysigrwydd tebygolrwydd.

“Gall y digwyddiadau hyn danio dychymyg plentyn ac arwain at yrfa mewn gwyddoniaeth. Rydym eisiau ysbrydoli bechgyn a merched o bob cefndir a chwalu’r dirgelwch am y Brifysgol felly rydym wedi gweithio’n galed i wneud cynhwysiant yn greiddiol i’r digwyddiadau hyn. Yn ogystal, roedd ein staff wedi bod yr un mor greadigol wrth feddwl am syniadau a fyddai’n cyffroi’r disgyblion.

“Roeddwn yn falch iawn o weld niferoedd mor uchel o ysgolion ar draws gorllewin Cymru ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at groesawu mwy o ddisgyblion y flwyddyn nesaf.”

Mwy o wybodaeth
 

Byddwch yn rhan o ddyfodol egni mwy disglair

Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd cynyddol, mae angen inni symud oddi wrth danwydd ffosil a chroesawu trydaneiddio. Rhan hanfodol o'r daith hon yw batris mwy a gwell. Mae angen iddynt fod yn ddatrysiad storio cynaliadwy i hwyluso ein trawsnewidiad egni. Bydd cymryd rhan yn ein harbrawf batri byd-eang yn caniatáu i'ch myfyrwyr archwilio'r wyddoniaeth y tu ôl i fatris - a pham eu bod yn rhan mor bwysig o'n dyfodol ynni disglair.

Mae'r arbrawf batri byd-eang yn addas ar gyfer myfyrwyr 9-14 oed. Gyda'ch gilydd byddwch yn darganfod fod:
 batris wedi'u gwneud o haenau, ac fod pob haen wedi'i wneud o wahanol ddeunyddiau
i greu'r batri mwyaf effeithlon, mae angen ichi ddod o hyd i'r cyfuniad cywir o ddeunyddiau
mae angen i ni wneud llawer o fatris, felly mae lle yr ydym yn dodo o hyd i'r deunyddiau hynny yn wirioneddol bwysig
y defnyddiau gorau yw'r rhai sy'n helaeth ac yn hawdd i'w cyrchu. I ddarganfod mwy cliciwch yma

Ar wefan yr arbrawf byd-eang fe welwch ddewis o ddau ymchwiliad gwahanol. Mae'r ddau yn rhoi'r cyfle i chi a'ch myfyrwyr archwilio gwyddor batri a gwneud eich batri eich hun, ond mae gan bob un lefelau gwahanol o gymhlethdod ac offer gofynnol. Efallai y byddwch hefyd yn gweld bod un ymchwiliad yn fwy addas ar gyfer ystod oedran eich myfyrwyr. Ar gyfer pob ymchwiliad, fe welwch gyfarwyddiadau manwl, adnoddau ychwanegol a nodiadau athrawon i wneud y broses gyfan yn syml.
Ymunwch ar Mai 11eg i ddarganfod mwy am yr Arbrawf Byd-eang - gweler isod am fanylion

Gweithdai  i fyfyrwyr
 

Energy Quest


Roedd yn bleser cyflwyno'r gweithdai Energy Quest i ddisgyblion CA3 y tymor diwethaf.
Cafodd y cynnwys dderbyniad da wrth i bobl ifanc archwilio gwahanol ffynonellau ynni
ac ymchwilio i drosglwyddo ynni wrth iddynt ddylunio datrysiad i bweru ffôn symudol.
Ariennir Energy Quest gan Shell a'i ddarparu gan Engineering UK. Gall pob ysgol
Gymraeg wneud cais am o leiaf 2 weithdy cyfrwng Cymraeg. Cysylltwch â ni i
ddarganfod faint y gallem ei gynnig i'ch dosbarthiadau CA3.
Gellir cyflwyno'r digwyddiad hwn yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein ac mae'n ffordd
wych o ailedrych ar gynnwys craidd y cwricwlwm ac i ddod â modelau rôl
trosglwyddadwy i'r ystafell ddosbarth.
Byddwn yn cyflwyno'r gweithdy AM DDIM trwy gydol y flwyddyn academaidd hon. Mae'r
dyddiadau eisoes yn llenwi felly os oes gennych ddyddiad penodol mewn golwg,
cysylltwch â llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk i fwcio neu i ddarganfod mwy.

Digwyddiadau Lleol
Cwrs Girls into Electronics ym Mhrifysgol Caerdydd. Dydd Mawrth 5 Gorffennaf 9.00am - 4.00pm.

Mae dyddiadau a lleoliadau eraill ar gael.

Mae Girls into Electronics yn rhoi cyfle unigryw i ferched Blwyddyn 11 a chweched dosbarth ddatblygu eu diddordeb mewn Electroneg trwy gwrs undydd mewn prifysgol flaenllaw yn y DU, gyda chynnwys ychwanegol yn cael ei ddarparu ar-lein gan yr UKESF. Bydd cyfranogwyr yn darganfod mwy am Electroneg ac astudio'r pwnc ar lefel prifysgol, yn ogystal â chlywed gan beirianwyr graddedig benywaidd sy'n gweithio yn y sector Electroneg. 

Yn ystod y diwrnod wyneb yn wyneb, bydd y mynychwyr yn profi darlith sampl gan uwch academydd, mewnbwn gan fyfyrwyr presennol, taith adrannol, sesiwn holi-ac-ateb gydag Ysgolor UKESF a chyflwyniad i ficroreolyddion. Bydd sesiynau dilynol ar-lein yn arwain cyfranogwyr trwy weithgareddau ymarferol pellach gyda'r microreolyddion. 

Manylion yma

Darllenwch fwy

Fforwm Ffiseg ar lein 

Ymunwch â ni yn ein Fforwm Ffiseg IOP Cymru ar. 28 Ebrill neu 12 Mai  am 7pm. Mae croeso i bawb e.e. Athrawon (arbenigwyr ffiseg ac anarbenigwyr).   Mae archebu'n hanfodol ac anfonir dolen cyn y digwyddiad. I archebu ewch yma
 

Darllenwch fwy
RSC Gwyddoniaeth a'r Senedd. Dydd Mawrth 17 Mai 12.00 – 7.30. Senedd, Bae Caerdydd

Cynhelir 18fed digwyddiad Gwyddoniaeth a Senedd blynyddol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol yn y Senedd a’r Pierhead, Bae Caerdydd, ddydd Mawrth 17 Mai 2022.

Thema eleni fydd Adeiladu ein Dyfodol: Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru. 

Wedi’i gynllunio i feithrin cysylltiadau agos â llunwyr polisi a rhanddeiliaid allweddol, trefnir Gwyddoniaeth a’r Senedd ar ran, ac mewn cydweithrediad â, y gymuned wyddoniaeth a pheirianneg yng Nghymru. 

Manylion yma.

Darllenwch fwy
Dysgwrdd: 'Take Charge' - byddwch yn rhan o ddyfodol mwy llachar. Dydd Mercher 11 Mai 4 - 5pm. Ar-lein

Mae cyfarfod rhwydwaith athrawon cemeg Cymru y mis hwn yn sesiwn ar y cyd ar gyfer athrawon gwyddoniaeth cynradd ac uwchradd. Mewn cydweithrediad â Gweld Gwyddoniaeth a'r ASE mae’n ymwneud â chymryd rhan yn Take charge: arbrawf batri byd-eang, Energy Quest Engineering UK a’r ymgyrch Great Science Share. Mae Energy Quest yn rhaglen sydd wedi’i datblygu i ddatgloi peiriannydd mewnol y dysgwr wrth archwilio ffynonellau ynni cynaliadwy. Mae’r ymgyrch Great Science Share yn hybu chwilfrydedd gwyddonol a chyfathrebu pobl ifanc.

Mae’r digwyddiad hwn yn sesiwn ar-lein ar gyfer athrawon CA2 ac uwchradd a drefnir gan y Gymdeithas Gemeg Frenhinol fel rhan o’n cyfres uwchradd. 

Manylion a bwcio yma.

Darllenwch fwy
Canolfan Gwlyptir Llanelli: Yn cefnogi chi a'ch ysgol. Dydd Mercher Mai 11 4pm – 4.45pm. Ar-lein

Gweminar ar gyfer Llysgenhadon ac Athrawon gan Addysg STEM gydag Ymddiriedolaeth Adar Gwyllt a Gwlyptiroedd (WWT) Cymru.

Bydd Llysgenhadon STEM yn cael cipolwg ar brofiad dysgu awyr agored ac adnoddau ar gyfer ymgysylltu. 

Clywch gan dîm dysgu’r WWT sut y gall ymweliad â Chanolfan Gwlyptir Llanelli ddod â’ch cwricwlwm gwyddoniaeth yn fyw gyda sesiynau dysgu ymarferol i bob oed a gallu. 

Byddwch hefyd yn dod i wybod am Generation Wild, eu rhaglen cysylltu natur newydd ar gyfer ysgolion mewn ardaloedd dan anfantais economaidd. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau ysgol AM DDIM (gan gynnwys cludiant AM DDIM), ymweliadau AM DDIM i deuluoedd a gwefan wedi’i dylunio’n arbennig i annog gweithgarwch cysylltu natur parhaus yn yr ysgol, gartref ac mewn mannau gwyrdd lleol. 

Fel cymhelliant ychwanegol, maent yn garedig wedi cynnig darparu tocyn ymweliad teulu am ddim i bob athro sy'n mynychu'r sesiwn. 

Dewch i ddarganfod yr ystod o ymweliadau ac adnoddau sydd ganddynt i'w cynnig. 

Bwcio yma.

Cystadleuthau, Adnoddau a Gwobrau

Dewch yn Bencampwr yn y Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol

Gyda'n gilydd gallwn helpu pawb i deimlo'n dda am rifau
Mae hi’n 5ed penblwydd y  Diwrnod Rhifedd Cenedlaethol ar 18 Mai ac fe’ch gwahoddir chi i’r parti!
P'un a ydych yn ysgol gynradd, ysgol uwchradd, yn addysgu gartref, mewn meithrinfa neu grŵp cymunedol, cofrestrwch i gael eich pecyn digidol am ddim

Bydd eich pecyn digidol yn cynnwys:
• Syniadau a deunyddiau argraffadwy i gefnogi cynllunio gweithgareddau
• Cystadleuaeth Arwyr Rhif Ysgol i ennill bwndel  o wobrau rhifedd ar gyfer eich ysgol (ar gyfer plant cyn-ysgol i Bl8)
• Fideo cychwyn gwers enwog gyda gweithgareddau a gemau (ar gyfer ysgolion cynradd)
• Adnoddau hyder rhif i helpu pob grŵp oedran, o 0-18, i deimlo'n dda am fathemateg
• Adnoddau i gefnogi staff a rhieni
• Cyfleoedd ar gyfer ymweliadau gwirfoddol, sgyrsiau llysgennad STEM a mwy!

Darllenwch fwy
Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion. Diwrnod Dathlu 14 Mehefin

Ymgyrch flynyddol i ysbrydoli pobl ifanc i rannu eu cwestiynau gwyddonol gyda chynulleidfaoedd newydd.

Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion yw’r ymgyrch arobryn sy’n gwahodd plant 5-14 oed i rannu eu cwestiynau a’u hymchwiliadau gwyddonol eu hunain, i godi proffil gwyddoniaeth mewn ysgolion a chymunedau, ac i gael eu hysbrydoli i fyd gwyddoniaeth a pheirianneg. 

Cyflwynir gweithgareddau a gwersi â thema i athrawon ac addysgwyr, i’ch ysbrydoli i ofyn, ymchwilio a rhannu cwestiynau gwyddonol yr ydych yn chwilfrydig yn eu cylch. 

Thema’r ymgyrch eleni yw Gweithredu dros yr Hinsawdd ac mae’n cysylltu â’r materion a drafodwyd yng nghynhadledd fyd-eang COP26 ym mis Tachwedd 2021, yn arwain at ddathliad yr ymgyrch ar 14eg Mehefin 2022. 

Cofrestrwch unrhyw bryd i gael mynediad at adnoddau a newyddion! 

Cofrestru a manylion yma.

Darllenwch fwy

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit, sed do eiusmod tempor incididunt ut labore et dolore magna aliqua. Ut enim ad minim veniam, quis nostrud exercitation.

Cystadleuaeth Young Coders

Mae'r gystadleuaeth Young Coders yn ôl eto ar gyfer 2022 gan ddod â chyfle anhygoel i chi a'ch myfyrwyr ennill profiad ymarferol mewn codio gyda Scratch. 

Yn wreiddiol dim ond ar gyfer ysgolion cynradd blynyddoedd 4 - 6, gwnaethom wrando ar adborth y llynedd ac rydym bellach wedi agor y meini prawf mynediad i gynnwys blynyddoedd uwchradd 7 ac 8. 

Thema eleni yw ‘Fy Myd, Ein Planet’. Rydym yn chwilio am gystadleuwyr i greu gêm adweithiol sy'n annog plant i ofalu am adnoddau naturiol a gwella'r amgylchedd. Mae'r cyfleoedd yn ddiddiwedd ac chi sydd â gofal am greadigrwydd! 

Dyddiad cau Mai 27. Manylion yma.

.
Darllenwch fwy
Her Bioleg UKBC

Mae Her Bioleg yn ysgogi chwilfrydedd ar gyfer y byd naturiol ac yn annog myfyrwyr i ymddiddori mewn bioleg y tu allan i'r ysgol.

Mae'r Her Bioleg ar agor i fyfyrwyr 13 i 15 oed. 

Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys dau bapur amlddewis, pum munud ar hugain i'w cymryd ar-lein o dan amodau arholiadau dan oruchwyliaeth staff. 

Gosodir cwestiynau ar gwricwlwm yr ysgol, ond bydd y gystadleuaeth hefyd yn gwobrwyo'r myfyrwyr hynny y mae eu gwybodaeth o'r pwnc wedi'i chynyddu trwy ddarllen llyfrau a chylchgronau, gwylio rhaglenni hanes natur, cymryd sylw o'r cyfryngau newyddion am eitemau o ddiddordeb biolegol, ac maent yn gyffredinol ymwybodol o'n fflora a'n ffawna naturiol. 

Bydd ysgolion yn gallu cynnal Her Bioleg ym mha bynnag ffordd sy'n gweddu orau i'w disgyblion, gan sicrhau eu bod yn mwynhau cymryd rhan a bod ganddynt ddisgwyliad rhesymol o gydnabyddiaeth am eu cyflawniadau. Yn ogystal â gallu cyflwyno sgoriau eu disgyblion i’r gystadleuaeth genedlaethol, anogir ysgolion i ddyfarnu eu gwobrau eu hunain ac i ddefnyddio tystysgrifau a ddarperir ar eu cyfer. 

Cofrestrwch o Dachwedd 1af. 

Manylion yma.

Darllenwch fwy
Enwebwch nawr ar gyfer gwobrau Addysg Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol 2022

A hoffech chi gydnabod addysgwr gwyddoniaeth sy'n gwneud gwaith anhygoel yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr neu gefnogi cydweithwyr gyda'u datblygiad?

Mae dau brif gategori: 

Mae Gwobrau Rhagoriaeth mewn Addysg yn dathlu addysgwyr mewn addysg gynradd, uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch – gan gynnwys, athrawon, technegwyr a mwy. Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod ystod eang o sgiliau – o gynllunio’r cwricwlwm i addysgu effeithiol, ac o ddatblygiad personol i ddiwylliant gweithio. 

Mae Gwobrau Addysg Horizon yn tynnu sylw at fentrau diweddar sydd ar fin cael effaith wirioneddol ym maes addysg, ac sy'n agored i dimau a chydweithrediadau yn ogystal ag unigolion. Gallai'r mentrau hyn gynnwys rhaglenni neu dechnegau addysgu, datblygiadau ymchwil, technolegau arloesol a mwy. 

Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 22 Mehefin.  Manylion yma.

Darllenwch fwy

Cyrsiau ar-lein i athrawon

Mae amrywiaeth o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i athrawon ar bob cam o'u gyrfa. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu gan arbenigwyr blaenllaw a rhannu syniadau â miloedd o addysgwyr eraill ledled y byd. Lawrlwythwch y calendr i weld pa gyrsiau sydd ar gael a phryd maen nhw ar gael i ymuno.

Darllenwch fwy
 

Cefnogi dilyniant dysgwyr trwy asesiad - ar gyfer athrawon yng Nghymru yn unig

Arweinydd Cwrs : Andrea Mapplebeck
16 Meh 2022 Techniquest, Stryd Stuart, Caerdydd CF10 5BW
Sut gallwch chi ddarganfod ac ymateb i’r hyn y mae disgyblion yn ei wneud a’r hyn nad ydynt yn ei wybod fel fod pob disgybl yn cael eu herio, eu hymgysylltu, eu hysgogi ac yn  symud ymlaen yn eu dysgu?

Bydd y cwrs hwn yn tynnu ar yr arferion ffurfiannol gorau o ymchwil. Archwiliwch amrywiaeth o weithgareddau ystafell ddosbarth y gellir eu  defnyddio ar unwaith i'ch helpu i ddatblygu eich ymatebolrwydd gyda  disgyblion.
Byddwch yn archwilio ffyrdd y gallwch:
• helpu bob disgybl i fod yn ddysgwyr llwyddiannus mewn gwyddoniaeth
• ennyn ac ymateb i syniadau disgyblion i ddyfnhau a herio eu meddwl
• ennyn diddordeb disgyblion fel eu bod yn gyfryngau gweithredol yn eu dysgu, gan gefnogi ei gilydd a'u hunain
• darparu adborth a fydd yn gwneud i ddisgyblion feddwl a bod yn gyfrifol am symud eu dysgu ymlaen
• adeiladu hunan-barch a chymhelliant disgyblion i ddyfalbarhau a mwynhau dysgu mewn gwyddoniaeth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at Weinyddwr Cymru: joss@techniquest.org

DPP diweddaraf o'r Bartneriaeth STEM Learning

I ddarganfod mwy am y DPP diweddaraf oddi wrth eich Partner Dysgu Gwyddoniaeth, cliciwch yma

 

Dilynwch ni ar Facebook - Gweler tudalen facebook Gweld Gwyddoniaeth
Hoffwch chi neu ddilynwch y dudalen