Sut y gall CREST helpu ysgolion i gyflawni pedwar diben y Cwricwlwm newydd i Gymru
Mae’r canlynol yn dod o dudalen blog CREST sydd i’w gweld yma.
Rydyn ni wedi siarad â Rachael Mackay, athrawes Blwyddyn 6 ac arweinydd STEM yn Ysgol Gynradd Monnow yng Nghasnewydd, am ei phrofiad o redeg CREST, y manteision i ddisgyblion a sut mae’r gweithgareddau’n cyd-fynd â’r pedwar diben.
Cynhaliodd yr athrawes Rachael Mackay ein her Darganfod ‘Machines of the Future’ (ar gael yn y Gymraeg fel ‘Peiriannau’r Dyfodol’) – “y prosiect mwyaf a gyflawnwyd gennym”. Mae’r prosiect hwn yn annog plant i feddwl am ddysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial, sut mae’n berthnasol i’w bywydau a sut y gallwn ei harneisio orau yn y dyfodol.
Meddai hi:
“Fe darodd y [prosiect] hwn gymaint o’r pedwar diben. Roedd yn rhaid i'r plant fod yn uchelgeisiol a galluog, gan fod llawer o'u gwaith yn waith tîm, gyda'r plant yn cymryd rolau penodol o fewn y grŵp.
“Roedd rhaid iddyn nhw fod yn fentrus a chreadigol er mwyn meddwl am a rhoi syniadau at ei gilydd ar gyfer peiriant nad oedd neb arall wedi meddwl amdano eto – ac wrth gwrs roedd yn rhaid iddyn nhw wedyn greu’r peiriant hwnnw’n gorfforol!
“Roedd yn rhaid iddynt hefyd fod yn ddinasyddion gwybodus ac egwyddorol, gan fod yn rhaid iddynt ystyried sut y gellid gwneud eu prototeipiau gan ddefnyddio dim ond eitemau wedi'u hailgylchu neu eu hailddefnyddio ac roedd yn rhaid iddynt hefyd feddwl a fyddai creu'r peiriant yn tynnu cyflogaeth oddi wrth unigolyn neu grŵp o bobl.”
Os hoffech ddysgu mwy am sut y gall CREST fod yn rhan o gwricwlwm eich ysgol chi, cysylltwch â llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk.
|