This is the Welsh version of the Primary Schools  Newsletter September 2022. To read the English version of the newsletter go to: www.see-science.co.uk/schools-newsletters/primary-newsletter-current.html


Croeso  i'r cylchlythyr STEM diweddaraf ar gyfer Ysgolion Cynradd o'ch Hwb Llysgennad STEM lleol.

Mae sawl cyfle ymgysylltu STEM newydd ar gael ar gyfer yr hanner tymor sydd i ddod. Cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich anghenion unigol
Gellir gweld yr e-bost llawn yma.


Mae Llysgenhadon STEM yn dal i fod yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd cyfoethogi â phosibl i ddysgwyr.


Cofiwch annog cydweithwyr i gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn y cylchlythyr Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol: https://www.stem.org.uk/user/register
Mae gan Gweld Gwyddoniaeth  dudalen facebook lle byddwn hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd  - byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ein dilyn  
https://www.facebook.com/SeeScienceGweldGwyddoniaeth/


Gyda dymuniadau gorau
Gweld Gwyddoniaeth

Y cylchlythyr sy'n ffynhonnell hanfodol o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i athrawon ac unrhyw un sydd gyda  diddordeb mewn ymgysylltiad STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ledled Cymru.

CYNNWYS

Newyddion STEM
 

Digwyddiadau wyneb yn wyneb
 

 

Digwyddiadau ar lein
 

Cystadleuthau a Grantiau 
 

D

 


Gall cyfranogiad Llysgennad STEM ennyn diddordeb ac ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ac athrawon. Os oes gennych ddiddordeb mewn gofyn i Lysgennad STEM eich cynorthwyo gallwch wneud eich cais yma. Rydym wedi creu canllawiau cryno i annog Llysgenhadon STEM ac addysgwyr i ddefnyddio'r hunanwasanaeth. Canllaw fideo i athrawon ac arweinwyr grŵp

Cofiwch annog cydweithwyr i gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn y cylchlythyr Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol:

Os yw Llysgennad wedi ymgysylltu â chi, neu os ydych wedi cwrdd â Llysgennad mewn gweithgaredd cyfoethogi, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi ein ffurflen adborth athrawon. Anogwch gydweithwyr i ymateb.

 
Newyddion STEM

Hwyl yr Haf yn Llyfrgelloedd Abertawe

Daeth cais i Gweld Gwyddoniaeth gan swyddog prosiectau digwyddiadau Llyfrgelloedd Abertawe i
ddarparu rhai gweithdai STEM i gyd-fynd â’u Her Ddarllen yr Haf ar thema, ‘Gadgeteers’.
Dros wyliau'r haf, mwynhaodd plant Abertawe ddysgu am gylchedau ac adeiladu eu Bots Brwsio eu hunain mewn dau weithdy ymarferol. Rhoddwyd pecynnau ‘STEM mewn Bag’ i staff y llyfrgell hefyd, yn cynnwys 10 gweithgaredd byr gwahanol, a oedd yn addas ar gyfer ystod eang o oedrannau. Daeth
yr holl weithgareddau gyda'r offer oedd ei angen, cyfarwyddiadau llawn ac esboniad o'r STEM dan sylw.
Mae'r gweithgareddau Bots Brwsio a STEM mewn Bag yn addas ar gyfer ysgolion cynradd, yn ogystal â grwpiau cymunedol ayyb. Cysylltwch â Llinos ar llinos.misra@gweld-gwyddoniaeth.co.uk os hoffech wybod mwy.

Darllenwch fwy

Greenpower Goblins yn Rasio Eto!

Ar safle Renishaw Meisgyn, mwynhaodd ysgolion ddychwelyd i gystadleuaeth Greenpower Racing. Wedi 
gohiriad dwy flynedd oherwydd y pandemig, trefnwyd y digwyddiad mor llwyddiannus ag erioed!
Mae Ymddiriedolaeth Addysg Greenpower oedd yn darparu rhai o'r prosiectau STEM mwyaf effeithiol, gyda disgyblion yn profi'r  dysgu Peirianneg Cynaliadwy; Gwaith tîm; deheurwydd llaw; creadigrwydd mewn peirianneg dylunio ac wrth gwrs yn cael  hwyl aruthrol o adeiladu a gyrru eu car trydan eu hunain!
Ysgol Gynradd Woodlands, Cwmbrân, oedd yn mynychu am y tro cyntaf  enillodd wobr am y Corffwaith Gwyrddaf, gyda chefnogaeth eu mentor Llysgennad STEM Igor, a oruchwyliodd a chynghorodd cwblhau'r prosiect. Llongyfarchiadau i bob  ysgol
Safle
1. Ysgol Gynradd Horfield C of E gyda Heulwen
2. Cert Jwrasig Ysgol Gynradd Cwmlai
3. Ysgol Gynradd Woodlands
4. Tîm Ysgol Gynradd Cwmlai 2 Usain Bolt

Os hoffai eich ysgol ddarganfod mwy ewch i https://www.greenpower.co.uk/start-team

Digwyddiadau Lleol a Chenedlaethol
Hud Gwyddoniaeth. Dydd Sadwrn Hydref 8fed 10.30 - 15.00. Coleg Crist Aberhonddu - Y Segydliad Ffiseg yng Nghymru

Mae IOP Cymru yn cyflwyno diwrnod o Wyddoniaeth i bob athro, rhiant a’u teuluoedd. Popeth yn rhad ac am ddim. 

Ymunwch â’r Sefydliad Ffiseg, gyda chefnogaeth y Gymdeithas Frenhinol Cemeg a’r Gymdeithas Addysg Wyddoniaeth, ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth, lle bydd teuluoedd a ffrindiau ynghyd ag athrawon cynradd ac uwchradd yn mwynhau cyfleoedd rhannu a rhwydweithio. 

Bydd digwyddiadau yn cynnwys: 

  • Harry Potter - Science or Magic? 
  • Frozen! 
  • Devastatingly Dramatic Climate Show

Anogwch gydweithwyr o ysgolion a sefydliadau eraill i fynychu. Mae archebu lle yn hanfodol felly gwnewch hynny erbyn 1af Hydref ogydd i osgoi cael eich siomi. 

Manylion llawn ac archebu lle yma.

Darllenwch fwy 
Y Sioe Addysg Genedlaethol 2022.  Dydd Gwener Hydref 7. Neuadd y Ddinas Caerdydd

Y Sioe Addysg Genedlaethol yw’r prif ddigwyddiad addysg yng Nghymru sy’n darparu cyfleoedd a ffyrdd newydd o wella a chodi safonau, gwella profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr.

Cynhelir sioe wyneb yn wyneb Sioe Addysg Genedlaethol 2022 yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Gwener 7 Hydref. Mae'r diwrnod wedi'i gynllunio i ddarparu cyfleoedd a ffyrdd newydd o wella a chodi safonau, gwella profiadau dysgu a chefnogi dysgwyr. Digwyddiad y mae'n rhaid ei fynychu ar gyfer pawb sy'n gweithio ym myd addysg gan gynnwys y blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd. Ffordd ddelfrydol o wneud y gorau o'ch hyfforddiant DPP ac archwilio cynhyrchion a gwasanaethau trwy ddiwrnod llawn gweithgareddau. 

Manylion llawn ac archebu lle yma

Darllenwch fwy 
Gŵyl Wyddoniaeth y Drenewydd. Dydd Sadwrn Medi 17eg. Ysgol Uwchradd Y Drenewydd 

Rydyn ni'n dod â dewis eang o sefydliadau gwyddoniaeth at ei gilydd i ddysgu plant am y wyddoniaeth gyffrous sy'n digwydd ar hyn o bryd!

Ymunwch â ni ar gyfer ein digwyddiad undydd sy'n dathlu'r holl wahanol ymchwil wyddonol gyffrous sy'n digwydd ar hyn o bryd. Dewch i weld drosoch eich hun beth sy'n cael ei ddarganfod. O argraffwyr 3d i archwilio planedau i dechnoleg ffermio, mae rhywbeth at ddant pawb. 

Mae tocynnau yn caniatáu mynediad am ddim i’r ŵyl ac unrhyw weithdai neu sgyrsiau. Mae'r digwyddiad cyfan yn rhad ac am ddim ac nid oes unrhyw gostau cudd ar y diwrnod. 

Manylion a chofrestru yma

Darllenwch fwy 
Dysgwrdd ASE. Dydd Mercher Medi 28ain 4.30pm. Prifysgol Metropolitan Cardiff, Heol Cyncoed.

Dewch draw am ddysgwrdd a chyfle i rwydweithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Mae Pwyllgor Rhanbarthol ASE Cymru , y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a’r Sefydliad Ffiseg yn eich gwahodd i gyfarfod dysgu gwyddoniaeth llawn syniadau ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd lle bydd cyfle hefyd i groesawu myfyrwyr TAR newydd yn ogystal â rhannu syniadau a phrofiadau ynghylch y Cwricwlwm newydd i Gymru. 

Mae croeso i addysgwyr ddod draw i rannu eu syniadau eu hunain gyda slot rhannu 5 munud neu dim ond i gasglu syniadau a dysgu gan eraill. 

Bydd y rhwydweithio yn dechrau am 4:30pm gyda'r nod o ddechrau am 5pm. 

Cofrestru yma.

Darllenwch fwy 
Tanio angerdd am addysg: Fforwm athrawon
Dydd Mawrth 20 Medi 12.30 – 1.15pm

Ar-lein  - dolen eventbrite i ddilyn - gwiriwch y wefan

Bydd y Llysgennad STEM Jenny Haigh yn cyflwyno gweithdy am ddim  i gefnogi Meysydd Dysgu yn y cwricwlwm newydd i Gymru.

Gyda'i chefndir fel Anthropolegydd Meddygol; Ffisiolegydd Dynol ac mewn galwedigaethau Gofal Iechyd, mae Jenny yn cyflwyno ystod eang o sesiynau difyr.
Mae sesiynau hefyd yn ymdrin â gweithgareddau o'i rolau fel hyfforddwr a cherddor RAF Sifil

Adnoddau, Cystadlaethau a Gwobrau 

Enwebwch nawr ar gyfer Gwobrau Athrawon Gwyddoniaeth Cynradd. 

Mae athrawon sy'n gwneud gwaith anhygoel, yn codi safonau, yn rhagori mewn amodau anodd ac yn mynd gam ymhellach yn haeddu cael eu dathlu

Mae Gwobrau Athrawon Gwyddoniaeth Cynradd yn gwneud hynny - rydym yn dathlu, yn gwobrwyo ac yn darparu llu o gyfleoedd i'r athrawon haeddiannol hyn. Edrychwn ymlaen at dderbyn enwebiadau, yn flynyddol, ar gyfer athrawon sy’n bodloni’r meini prawf.Mae’r gwobrau’n agored i bob Athro Cynradd sy’n ymarfer ar hyn o bryd (llawn amser neu ran-amser, mewn ysgolion yn y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw). Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Ionawr 13, 2023.  Manylion yma.

Darllenwch fwy

IMechE Cystadleuaeth 'Vision of the Future'

Mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn dathlu ei ben-blwydd yn 175 oed eleni ac mae ei Bwyllgor Pŵer Niwclear wedi trefnu’r gystadleuaeth hon i ddathlu manteision peirianneg. Mae peirianwyr wedi adeiladu ein gorffennol ond byddant hefyd yn siapio'r dyfodol.Mae hanes yr IMechE yn y gorffennol wedi gweld datblygiad hedfan o naid fer oddi ar y ddaear i hediadau i'r Lleuad, Mawrth a thu hwnt. Mae trafnidiaeth wedi datblygu o gyflymder y ceffyl i gerbydau heb yrwyr. Ystyriwch yr heriau a’r cyfleoedd allweddol sy’n wynebu cymdeithas heddiw megis bwyd a ffermio, trafnidiaeth, tai, ynni ac ynni adnewyddadwy, newid yn yr hinsawdd, gweithgynhyrchu, arferion siopa, gofal iechyd a meddyginiaeth, cyfathrebu, archwilio’r gofod a chyfryngau cymdeithasol. 

Sut olwg fydd ar fyd y dyfodol yn eich barn chi? Pa gyfleoedd cyffrous sydd o'u blaenau i beirianwyr ddylunio ac adeiladu? 

Dewiswch un o'r themâu uchod neu thema arall o'ch dewis a darparwch eich gweledigaeth i ni trwy unrhyw un o'r dulliau canlynol. Rhowch gynnig fel unigolyn neu fel grŵp (uchafswm o 5 aelod tîm). 

  • Llun neu baentiad â llaw a disgrifiad ysgrifenedig 1 dudalen 
  • Paentiad digidol neu boster a disgrifiad ysgrifenedig 1 dudalen 
  • Fideo (uchafswm o 5 munud) a disgrifiad ysgrifenedig 1 dudalen

Categorïau oedran rhwng 5 a 24 oed. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, dydd Gwener 28 Hydref. 

Manylion yma.

Darllenwch fwy

Gwnewch gais nawr am arian FIRST® LEGO® League

Mae FIRST® LEGO® League yn darparu profiadau STEM ymarferol i blant o 4 i 16 oed trwy dair cynghrair FIRST® LEGO® League ledled y DU a'r Iwerddon

Mae'r IET, mewn cydweithrediad â'u noddwyr a chyfranwyr, yn gyffrous i allu cynnig nifer cyfyngedig o gofrestriadau tîm a phecynnau dosbarth ar gyfer tair cynghrair FIRST® LEGO® League. 

Gall ysgolion, colegau, grwpiau dysgu yn y cartref neu grwpiau ieuenctid yn y DU a'r Iwerddon wneud cais.

Bydd y cyfnod cyfredol o ariannu yn dod i ben ar Fedi'r 11eg.

Yr holl fanylion yma

Hyfforddiant

Cyrsiau ar-lein i athrawon

Mae amrywiaeth o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i athrawon ar bob cam o'u gyrfa. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu gan arbenigwyr blaenllaw a rhannu syniadau â miloedd o addysgwyr eraill ledled y byd. Llawrlwythwch y calendr i weld pa gyrsiau sydd ar gael a phryd maen nhw ar gael i ymuno.

 

DPP diweddaraf o'r Bartneriaeth STEM Learning

Cefnforoedd anhygoel: sut i ddefnyddio'r cefnforoedd fel pwnc gwyddoniaeth

26 Medi 22 Techniquest, Stryd Stuart, Caerdydd CF10 5BW

Cwrs undydd, wyneb yn wyneb, yn edrych ar ein cefnforoedd anhygoel a sut i ddefnyddio'r cefnforoedd fel pwnc gwyddoniaeth.

Bydd y gweithgareddau  yn cynnwys:

  • Cylchrediad cefnfor (dwysedd)
  • Hydrogels Hagfish (cymwysiadau gwyddor deunydd)
  • Biooleuedd (adweithiau cemegol)
  • Cromatograffaeth cloroffyl gwymon (adweithiau cemegol)
  • Cemeg dŵr halen (trydan ac electrolysis)
  • Glanhau gollyngiadau olew (cyfraddau adwaith)
  • Peiriannau morol (grymoedd)
  • Problemau plastig (adweithiau cemegol)

Unrhyw ymholiadau, e-bostiwch joss@techniquest.org

I ddarganfod mwy am y DPP diweddaraf oddi wrth eich Partner Dysgu Gwyddoniaeth, cliciwch yma

 

Dilynwch ni ar Facebook - Gweler tudalen facebook Gweld Gwyddoniaeth
Hoffwch neu dilynwch y dudalen