Dyma’r adeg honno o’r flwyddyn, mae ceisiadau am Grantiau Kick Start ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth Prydain nawr ar agor! Os ydych yn gweithio mewn ysgol mewn amgylchiadau heriol, gallwch wneud cais am grant o hyd at £700 yn dibynnu ar y math o ddigwyddiadau yr hoffech eu cynnal a phwy fydd yn eu cynnal.
Mae’r BSA yn gyffrous i ariannu digwyddiadau sy’n cynnwys plant na fyddent fel arfer yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau STEM, neu’n cynnwys cymunedau lleol, neu’n herio stereoteipiau ynghylch beth yw gwyddoniaeth ac ar gyfer pwy y mae. Mae Wythnos Wyddoniaeth Prydain yn gyfle gwirioneddol i gael pawb i gymryd rhan.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i wneud cais, y mathau o ddigwyddiadau sy'n cael blaenoriaeth, a sut i gyflwyno eich cais am grant.
Y dyddiad cau yw 11.59pm ddydd Llun 6 Tachwedd 2023.
Manylion yma.
|