Ymunwch ag IOP Cymru ar gyfer y digwyddiad hwn nos Wener a/neu ddydd Sadwrn yn Y Bandstand, Glan y Môr, Aberystwyth SY23 2BY
Dydd Gwener 5.30pm – 7.30pm Ein lle yn y Bydysawd - addas ar gyfer oedolion, teuluoedd a grwpiau cymunedol
Cyfle i ddarganfod ein lle ni yn y Bydysawd, y sêr a'r planedau. Gwisgwch yn gynnes i archwilio rhyfeddodau awyr y nos gyda thelesgopau. Ewch am dro trwy'r sêr dan arweiniad staff o'r IOP a fydd yn dod â gwyddoniaeth, y celfyddydau a chreadigedd ynghyd. Gwrandewch ar straeon serennog, crëwch rai crefftau ar thema seryddiaeth neu crëwch fodel wedi’i oleuo o’r cytserau.
Manylion a bwcio yma.
Dydd Sadwrn 10yb – 2.30yp - addas ar gyfer athrawon cynradd ac uwchradd , myfyrwyr TAR a'r rhai sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym myd addysg
Rhaglen amrywiol o sgyrsiau (gan gynnwys cinio):
- seryddiaeth a ffiseg gronynnau,
- y sbectrwm electromagnetig a’i berthnasedd i seryddiaeth a’r Cwricwlwm i Gymru
- allblanedau
- cymhwyso tonnau i gosmoleg
Gorffen gyda thaith ar Reilffordd y Clogwyn – taith hamddenol i fwynhau’r olygfa banoramig fawreddog hon o Arfordir y Cambrian ar reilffordd glogwyn drydan hiraf Prydain. Darperir hufen iâ!
Manylion a bwcio yma.
|