Diwrnod Rasio Greenpower Goblin
Dydd Sadwrn, Ebrill 22ain, cynhaliwyd digwyddiad rhanbarthol Greenpower Goblins yn Renishaw, Meisgyn. Adeiladodd a dyluniodd y disgyblion gar cit i rasio ar y diwrnod ac roedd y dyluniadau’n amrywio o thema Diwrnod y Ddaear ecogyfeillgar, i ddraig, achub y gwenyn, a hyd yn oed Mario!
Roedd dechrau cyffrous i'r diwrnod gyda ras lusgo rhwng 2 gystadleuydd ac yna llwybr o 'chicanes' oedd yn profi sgiliau'r gyrwyr i'r eithaf!
Roedd yn wych gweld ysbryd tîm go iawn gydag ysgolion yn cymeradwyo ei gilydd trwy gydol y dydd. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!
Mae Ymddiriedolaeth Addysg Greenpower yn elusen yn y DU sy'n ennyn diddordeb pobl ifand mewn gwyddoniaeth a pheirianneg trwy eu herio i ddylunio, adeiladu a rasio car trydan. Maen nhw'n cyflenwi Ceir Cit sy'n briodol i'w hoedran, y gellir eu hadeiladu yn yr ysgol, coleg neu rywle arall a'u rasio yn lleoliadau chwaraeon moduro mewn digwyddiadau arbennig Greenpower. Mae her Greenpower yn defnyddio cyffro chwaraeon moduro i ysbrydoli pobl ifanc i ragori mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). Gallwch ddarganfod mwy yma.
|