Croesawyd disgyblion Gogledd Powys i Barc Cefn Lea ger Y Drenewydd i brofi ail ddigwyddiad
"Eich Dyfodol Gwyrdd". Bu myfyrwyr o bump o ysgolion uwchradd lleol yn cymryd rhan mewn
gweithdai, sgyrsiau ac arddangosfa llwybrau gyrfa, a gynlluniwyd i gynnau eu diddordeb mewn
cynaliadwyedd, ynni gwyrdd a sgiliau sy'n gysylltiedig gyda STEM.
Roedd y digwyddiad yn rhan o brosiect Pobl Ein Dyfodol Asiantaeth Ynni Hafren Gwy, sy'n annog disgyblion
i helpu i leihau defnydd egni eu hysgolion. Roedd disgyblion o'r Drenewydd, Llanidloes, John Beddoes a Llanfyllin, i gyd yn treulio'r diwrnod yn gweithio gyda busnesau lleol gan gynnwys Oil4Wales, Prifysgol
Abertawe, Siemens a Dwr Cymru.
Bu Llysgenhadon STEM yn cyflwyno gweithdai, yn gweithio gyda disgyblion a rhoi cyngor a chefnogaeth i'r
disgyblion a'u hathrawon.
Dywedodd y Llysgennad STEM Cara Bennett: 'Rwyf wedi mwynhau cwrdd â'r disgyblion, maent mor awyddus i ddarganfod mwy am yrfaoedd STEM.
Mae'r math hwn o ddigwyddiad yn ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn rhoi
cipolwg go iawn i'r disgyblion ar y posibiliadau sydd ar gael ym Mhowys '.
Anogwyd y myfyrwyr oedd yn mynychu i feddwl am y gyrfaoedd sydd ar gael yn lleol, fe'u harweiniwyd
i ofyn ystod o gwestiynau i bob cyflogwr am yr hyn oedd fwyaf o ddiddordeb iddynt am eu gwaith a'r hyn
yr oeddent am ei fod pan oeddent yn ifanc. I'r gwrthwyneb, anogwyd y busnesau i ddewis myfyrwyr i
gyflogi yn seiliedig ar eu cwestiynau a'u diddordeb yn y cwmni.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad ewch yma
|