Ennyn Chwilfrydedd a chychwyn Gyrfaoedd: Xplore! yn bwrw iddi i Sbarduno :Dyfodol Addysg STEAM
Mae’r Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! poblogaidd yn Wrecsam wedi
cyhoeddi eu cynlluniau cyffrous am drawsnewidiad gwerth miliynau o bunnoedd.
Fel rhan o’r gwaith ailddatblygu sylweddol bydd y ganolfan yn cyflwyno saith parth
dysgu newydd sbon danlli gyda’r nod o ysbrydoli a difyrru ymwelwyr o bob oedran, gan
gynnig gweithgareddau ymarferol sy’n ymchwilio i fyd Gwyddoniaeth, Technoleg,
Peirianneg, y Celfyddydau a Mathemateg (STEAM).
Bu adborth y cyhoedd yn hollbwysig i Xplore! wrth iddyn nhw fynd ati i gynllunio Xplore!
2.0. Drwy gydweithio’n agos gydag ymchwilwyr marchnad, roedd modd iddyn nhw
gysylltu gyda thrigolion lleol, teuluoedd ac ymwelwyr i gasglu eu meddyliau, eu barn a’u
syniadau am ddyfodol Xplore!
“Mae Xplore! 2.0 yn gam cyffrous ymlaen i Wrecsam a’r fro. Mae ymrwymiad y ganolfan i
ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEAM proffesiynol yn cyd-fynd â’n nodau ni
yma ym Mhrifysgol Wrecsam i’r dim. Gan fynd rhagddi i feithrin creadigrwydd, arloesedd
a meddwl yn feirniadol, mae Xplore! yn cyfoethogi’r gymuned yn ogystal â chynnig
cyfleoedd gwerth chweil i fyfyrwyr a phobl ifanc archwilio a datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol.” dywedodd athro Joe Yates, Is-ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol
Wrecsam.
Wrth i’r prosiect fynd rhagddo, bydd y cymorth parhaus gan bartneriaid cyllid yn gofalu
bod modd bwrw iddi gydag Xplore! 2.0 gan helpu i ysbrydoli ac arfogi cenedlaethau’r
dyfodol o feddylwyr, creawdwyr a datryswyr problemau yn Wrecsam a thu hwnt.
Cofiwch fod arddangosfa bresennol Xplore yn dal i fod ar agor, gan gynnig ymweliadau
bythgofiadwy i deuluoedd, ysgolion a phobl chwilfrydig o bob oedran. Gallai ymwelwyr
barhau i fwynhau gweithgareddau gwyddoniaeth hwyl ac ymarferol, sioeau
gwyddoniaeth byw atyniadol ac arddangosion rhyngweithiol cyn cychwyn y gwaith
trawsnewid anhygoel. Peidiwch ag oedi! Ewch lawr i Xplore! i gael blas ar hud a lledrith
gwyddoniaeth heddiw, mae’r antur ar waith eisoes!
|