This is the Welsh version of the See Science newsletter for primary schools - you can view the English version here
 

Croeso i’r cylchlythyr STEM diweddaraf  ar gyfer Ysgolion Cynradd  gan eich Hwb Llysgenhadon STEM lleol. 
 

Mae nifer o gyfleoedd ymgysylltu STEM newydd ar gael ar gyfer yr hanner tymor sydd i ddod. Mae Llysgenhadon STEM yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd cyfoethogi â phosibl i ddysgwyr ac rydym yn croesawu ceisiadau am Lysgenhadon STEM i helpu gydag unrhyw gyfle cyfoethogi - cysylltwch â ni yn uniongyrchol i drafod eich anghenion unigol.

Cofiwch annog cydweithwyr i gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn cylchlythyron Gweld Gwyddoniaeth yn y dyfodol
www.stem.org.uk/user/register ac yna dewis derbyn cylchlythyron.


Mae gan Gweld Gwyddoniaeth  dudalen Facebook lle byddwn hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd  - byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ein dilyn. 

Cofiwch gysylltu gyda ni os hoffech unrhyw gefnogaeth wrth ddysgu pynciau STEM.


Gyda dymuniadau gorau, 
Tîm Gweld Gwyddoniaeth

 

Newyddion

Llysgenhadon STEM PwC yn Ysgol Marshfield
Rowndiau Terfynol Rhanbarthol FIRST® LEGO® League Challenge
Her Engineering Educates: Farmvention 2022-24

Digwyddiadau Cenedlaethol

Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion

Digwyddiadau

Explorify - Dathlu Gwyddonwyr
Gwneud Past Dannedd - gweithgaredd STEM i athrawon cynradd
Llysgenhadon STEM: Dyma Fi
Explorify - Her yr Hinsawdd
I Ysgolion Cynradd yn Wrecsam! - Gwyliwch y Gwyllt gyda Xplore!

Cystadleuthau, Grantiau a Chyfleoedd

Cystadleuaeth BioArtAttack Cymdeithas Fioleg Frenhinol
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gymdeithas Fioleg Frenhinol
Grantiau Natur Ysgolion Lleol
DPP gan STEM Learning
Gwneud cais am Lysgennad STEM 

Gall cyfranogiad Llysgennad STEM ennyn diddordeb myfyrwyr ac athrawon fel ei gilydd. Os oes gennych ddiddordeb mewn gofyn i Lysgennad STEM i helpu gallwch wneud eich cais yma. Rydym wedi creu canllawiau byr i annog Llysgenhadon STEM ac addysgwyr i ddefnyddio’r hunanwasanaeth. 

 

Gall unrhyw athro neu athrawes wneud cais am Lysgennad STEM i ymweld â'u hysgol felly annogwch eich cydweithwyr i Please encourage colleagues to gofrestru gyda STEM Learning er mwyn derbyn cylchlythyron Gweld Gwyddoniaeth a dysgu mwy am y rhaglen.

Newyddion STEM diweddara

 

Llysgenhadon STEM PwC yn Ysgol Marshfield


Fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain, mynychodd Isobel Banfield a Geraint Worgan o PwC Ysgol Gynradd Marshfield yng Nghaerdydd i gyflwyno gwers mewn Technoleg ar gyfer Helpu Pobl i ddau ddosbarth Blwyddyn Un (tua 60 o blant).

Hon oedd y wers TechSheCan gyntaf i Isobel a Geraint ac roedd yn wych gweithio mewn partneriaeth. Roedd y wers yn cynnwys dangos enghreifftiau o dechnoleg i helpu'r gwasanaethau brys, gofal iechyd, pobl ag anableddau a'r henoed. Roedd y plant wrth eu bodd yn clywed am y siwt jet disgyrchiant a'r robot llysnafedd magnetig!

Fe wnaethom hefyd wylio un o'r fideos TechSheCan lle mae Katie a Tex yn archwilio roboteg a deallusrwydd artiffisial a mwynhaodd y plant yn fawr. Dyluniodd y plant eu robotiaid eu hunain i helpu pobl a chawsom ein hysbrydoli a’n plesio gymaint gyda’u dyluniadau gan gynnwys robot neidr a robot athro dawns, a gyflwynwyd ganddynt yn ôl i’w cyd-ddisgyblion ar ddiwedd y wers.

Newyddion STEM diweddara

Rowndiau Terfynol Rhanbarthol 
FIRST
® LEGO® League Challenge


Roedd Gweld Gwyddoniaeth yn falch o gynnal 3 rownd derfynol ranbarthol FIRST® LEGO® League Challenge dros yr wythnosau diwethaf, un yn Sir Benfro, un yng Nglynebwy a’r llall ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg Caerdydd.

Mae FIRST® LEGO® League Challenge yn rhaglen STEM fyd-eang ar gyfer timau o bobl ifanc, i annog diddordeb mewn themâu byd go iawn a datblygu sgiliau allweddol sy'n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae pobl ifanc yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio pwnc penodol ac i ddylunio, adeiladu a rhaglennu robot LEGO® ymreolaethol i ddatrys cyfres o genadaethau. Thema eleni yw Ynni.

Dros y tair rownd derfynol ranbarthol, bu 40 o ysgolion yn cystadlu a chael llawer o hwyl ar y diwrnod. Llongyfarchiadau enfawr i’r tri Pencampwr Rhanbarthol a PHOB LWC wrth iddynt fynd ymlaen i gynrychioli eu rhanbarthau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol FIRST® LEGO® League yn Harrogate yn ddiweddarach y mis hwn!

  • Pencampwyr Sir Benfro: Ysgol Gelli Aur
  • Pencampwyr De Ddwyrain Cymru: Ysgol Derwendeg
  • Pencampwyr Cyfrwng Cymraeg Caerdydd: Ysgol Bro Edern


Diolch i Ysgol Harri Tudur, Ysgol Gynradd Willowtown ac Addewid Caerdydd am eu croeso a’u cydweithrediad cyn ac yn ystod y digwyddiadau.

Newyddion STEM diweddara

Her Engineering Educates: Farmvention 2022-24

Ysbrydoli peirianwyr ifanc trwy gyd-destunau'r byd go iawn.

Mae Her Engineering Educates: Farmvention yn cynnwys 3 llwybr gwahanol wedi'u teilwra i ysbrydoli plant 7-14 oed i feddwl fel peirianwyr yng nghyd-destun ffermio ym Mhrydain. Mae pob un yn cynnwys dilyniannau o bum sesiwn sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm. Mae dysgwyr yn cymhwyso sgiliau a gwybodaeth mathemateg, gwyddoniaeth, dylunio a thechnoleg a chyfrifiadureg trwy gyd-destun ffermio a pheirianneg amaethyddol. Mae'r llwybrau'n arwain dysgwyr drwy'r broses dylunio peirianyddol ac yn ymgorffori materion allweddol amgylchedd a chynaliadwyedd. Trwy feddwl fel peirianwyr, mae dysgwyr yn datrys problemau sy'n gwneud gwahaniaeth mewn lleoliadau byd go iawn gan ddefnyddio creadigrwydd, dychymyg a chydweithio. 

Bydd yr her yn rhedeg yn ystod blynyddoedd academaidd 2022-2023 a 2023-2024, ac ar ôl hynny rhagwelir Her Engineering Educates newydd. 

Manylion yma.

Digwyddiadau Cenedlaethol

Y Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion. Dydd Mawrth 13 Mehefin.

Mae’r Cyfraniad Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion (GSSfS) yn ymgyrch arobryn, flynyddol i ysbrydoli plant 5-14 oed i ofyn, ymchwilio a rhannu eu cwestiynau gwyddonol gyda chynulleidfaoedd newydd.

Mae GSSfS yn codi proffil gwyddoniaeth mewn ysgolion a’u cymunedau, gan annog pobl ifanc i gael eu hysbrydoli i fyd gwyddoniaeth a pheirianneg.

Profiad cynhwysol, anghystadleuol a chydweithredol i bawb.

Cymerwch ran! Y cyfan sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys adnoddau gwych yma.

Dydd Mercher 19 Ebrill, 3.45-4.45pm, bydd Grace Marson, Cydlynydd Ymgyrch GSSfS, yn cynnal sesiwn taro i mewn ar-lein yn rhoi gwybodaeth a chyfle i ofyn cwestiynau. Bydd yn ddelfrydol ar gyfer athrawon sydd yn newydd i’r ymgyrch neu i unryw un sydd am atgoffa eu hunain! Bwcio yma.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

Explorify - Dathlu Gwyddonwyr. Dydd Mercher 26 Ebrill, 4-4.45pm. Ar-lein

Mae modelau rôl yn hanfodol os ydym am i fwy o blant ystyried gyrfaoedd STEM. Ymunwch â ni i edrych ar adnoddau Explorify newydd - 'Dathlu Gwyddonwyr' - sy'n darparu adnoddau hawdd eu defnyddio i athrawon sy'n cysylltu gwaith gwyddonwyr â'r cwricwlwm gwyddoniaeth cynradd.

Bellach mae gennym ni fath newydd o weithgaredd sydd wedi’i gynllunio i gyflwyno plant i weithwyr proffesiynol STEM pwysig drwy ofyn y cwestiwn, ‘Pwy yw…?’ Mewn arddull Explorify go iawn, rydym wedi gwneud y cwestiwn hwn yn hygyrch i bawb trwy ddarparu cliwiau ffotograffig. Mae pob gweithgaredd yn cysylltu ag ystod o fideos yn yr adran ‘Gwylio’ gydag o leiaf un yn cynnwys y gwyddonydd. Mae Explorify hefyd wedi partneru â'r Gymdeithas Frenhinol ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain i greu gweithgareddau Beth Sy'n Digwydd? newydd yn seiliedig ar weithwyr proffesiynol STEM.  Bwcio yma.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

Gwneud Past Dannedd - gweithgaredd STEM i athrawon cynradd. Ar-lein 

Dydd Mercher 3 Mai, 4-5pm. Sesiwn Saesneg

Dydd Llun 15 Mai, 4-5pm. Sesiwn Cymraeg.

Dewch ag arbrawf cemeg i'ch dosbarth cynradd gyda'r weithgaredd ymarferol hwyliog, syml yma.

Byddwn yn dangos pa mor hawdd yw hi i wneud eich past dannedd eich hun ac yn awgrymu sut y gall eich disgyblion ymchwilio'r cynnyrch trwy brofi os ydy'r past dannedd yn gweithio neu beidio!

Gall gwneud past dannedd fod yn weithgaredd yn ei hun neu byddwn yn dangos i chi sut gall fod yn gychwyn ar daith Gwobrau CREST i chi a'ch disgyblion.

Bydd pawb sy'n cofrestru yn derbyn rhestr cynhwysion fel y gallwch ddewis wneud yr arbrawf gyda ni. Byddwch hefyd yn derbyn fideo o'r sesiwn wedyn.

Bwciwch yma ar gyfer y sesiwn Saesneg.

Bwciwch yma ar gyfer y sesiwn Cymraeg.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

​Llysgenhadon STEM: Dyma Fi. Dydd Mercher Mai 10fed 3.45-4.30pm. Ar-lein

Mae sesiynau Dyma Fi yn gyfle i athrawon weld manteision dod â Llysgennad STEM i’r ystafell ddosbarth.

Bydd athrawon yn cael y cyfle i gwrdd â rhai Llysgenhadon STEM a chael gwybod am y mathau o weithgareddau y gallant ddod â nhw i'r ystafell ddosbarth. Bydd yn cynnig cyfle i athrawon drafod manteision dod â Llysgenhadon STEM i’r ystafell ddosbarth i gefnogi pynciau a phrosiectau y gellid eu cynnwys yn y cwricwlwm newydd i Gymru. 

*Os nad ydych yn gallu mynychu'r digwyddiad byw hwn ond wedi cofrestru, yna bydd recordiad o'r sesiwn ar gael i chi. 

Bwcio yma.

Digwyddiadau Cymru Gyfan

Explorify - Her yr Hinsawdd. Dydd Mawrth 23 Mai, 4-5pm. Ar-lein

Mynd i’r afael â ‘Her yr Hinsawdd’ – pam a sut?

Mae cyfle i drafod amcanion penodol i hinsawdd, bioamrywiaeth a llygredd yn parhau i esblygu ac yn cael eu cymharu gan ddefnyddio adnoddau Explorify. Lansiodd NAEE (Cymdeithas Genedlaethol Addysg Amgylcheddol) faniffesto yn 2022 i helpu i arwain ysgolion i ddod yn fwy cynaliadwy a gwella'r addysg mae plant yn ei dderbyn i'w paratoi ar gyfer wynebu heriau amgylcheddol yn y dyfodol.

Byddwn yn rhannu adnoddau Explorify yn ogystal â thrafod a rhannu syniadau eraill i'ch galluogi i weithredu hyn yn eich ystafell ddosbarth eich hun.  Bwciwch yma.

Digwyddiadau Lleol

I Ysgolion Cynradd yn Wrecsam! - Gwyliwch y Gwyllt gyda Xplore!

Dewch i gymryd rhan yn ein gweithdy bioamrywiaeth newydd sbon a ariennir yn llawn gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r gweithdy’n defnyddio’r fioamrywiaeth anhygoel sydd gennym o amgylch Wrecsam i addysgu dysgwyr am eu hamgylchedd lleol, cynefinoedd bywyd gwyllt a byd rhyfeddol y creaduriaid lleiaf sy’n byw yn ein mannau gwyrdd. Mae'r sesiwn yn dechrau yn ein canolfan gyda gweithdy 45 munud yn cyflwyno'r cysyniad o fioamrywiaeth a gwyddor dinasyddion. Yna gadewch y ganolfan am dro i’n mannau gwyrdd lleol lle byddwn yn creu arolwg o natur yr ardal. Bydd ein holl ysgolion yn derbyn pecyn Bioamrywiaeth i fynd ag ef yn ôl i'r ysgol er mwyn i ddysgwyr allu parhau i ddysgu am y byd o'u cwmpas. 

Mae'r gweithdy hwn yn 4 awr o hyd ac ar gael ar gyfer Blwyddyn 6, wedi'i gyfyngu i 30 o ddysgwyr fesul ysgol. Gweithdy ar gael i archebion ysgolion sir Wrecsam yn unig. 

I gadw lle, e-bostiwch bookings@xplorescience.co.uk.

Cystadleuaeth

Cystadleuaeth BioArtAttack Cymdeithas Fioleg Frenhinol

Mae Cystadleuaeth BioArtAttack y Gymdeithas Fioleg Frenhinol (2D) 2023 (Gwobr Nancy Rothwell gynt) yn gystadleuaeth lluniadu a phaentio celf 2D i blant i blant 7 – 18 oed i dynnu llun neu beintio eu hoff anifail, planhigyn neu ffyngau. Mae Gwobr Nancy Rothwell bellach yn is-gategori ar gyfer lluniadau enghreifftiol a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth hon.

Mae'r gystadleuaeth bellach ar agor ar gyfer cyflwyniadau, ac mae gwobrau'n cynnwys £50 i fyfyrwyr buddugol. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29 Gorffennaf.  Manylion yma.

Cystadleuaeth

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gymdeithas Fioleg Frenhinol

‘Natur a Hinsawdd’ yw thema Cystadleuaeth Ffotograffiaeth y Gymdeithas Fioleg Frenhinol eleni. Mae bywyd ar y ddaear yn cael ei effeithio gan yr hinsawdd, y tywydd a newidiadau tymhorol ac eleni rydym yn eich gwahodd i ddal hyn.

Gallai eich ffotograff ddarlunio a dal stori bywyd wrth iddo gael ei effeithio gan yr hinsawdd, y tywydd neu newidiadau tymhorol, efallai mewn amgylchedd annisgwyl neu wedi newid, neu ddangos sut mae hinsawdd newidiol (a phatrymau tywydd) yn effeithio ar y byd naturiol. Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau sy’n archwilio thema eleni ar y lefel foleciwlaidd neu gellog, gan ddangos yr effeithiau neu’r newidiadau mewn natur a hinsawdd trwy brosesau a ddatgelir i ni gyda chymorth microsgop yn unig. 

Mae dau gategori yn y gystadleuaeth, pob un â gwobr ariannol:

  • Ffotograffydd y Flwyddyn (18 oed a throsodd) - prif wobr o £1,000 
  • Ffotograffydd Ifanc y Flwyddyn (dan 18 oed) - prif wobr o £500 

Dyddiad cau Mehefin 27.  Manylion yma.

Grantiau

Grantiau Natur Ysgolion Lleol

Beth sydd gan flychau adar, gwestai gwenyn ac arbenigwyr natur i gyd yn gyffredin? Maent i gyd ar gael am ddim fel rhan o’n rhaglen Grantiau Natur Ysgolion Lleol, a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Yn agored i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, mae gan y gronfa grantiau dysgu awyr agored hon ddwy elfen – £500 o offer awyr agored wedi’u dewis o gatalog o dros 100 o eitemau, a chwrs hyfforddi dysgu awyr agored ar gyfer eich staff. 

Manylion yma.

DPP gan STEM Learning

DPP gwyddoniaeth ddwys effaith-uchel gan STEM Learning

Mae STEM Learning yn ymroddedig i ddarparu datblygiad proffesiynol wyneb yn wyneb o safon mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth dilys yn eu Canolfan Dysgu STEM Genedlaethol yn Efrog. Gweithiwch gydag athrawon o'r un anian, rhwydweithiwch, a datblygwch eich addysgu mewn ffyrdd rhyngweithiol ac effeithiol.

Mae cymorthdaliadau ar gael i gyfrannu at gostau teithio a chyflenwi i helpu athrawon i gymryd rhan mewn DPP. Maent yn darparu cyllid i gefnogi’r athro i wreiddio ei ddysgu o ran ei arfer broffesiynol ei hun ac yn lledaenu’r hyn a ddysgwyd gyda’u cydweithwyr yn unol â blaenoriaethau ysgol ac adrannol. 

Mae pob cwrs yn cynnwys llety ac arlwyo am gyfnod eich arhosiad fel y gallwch ganolbwyntio'n llawn ar eich dysgu. 

Dewch o hyd i amserlen cyrsiau eleni yma.

Dilynwch ni ar Facebook -  Hoffwch neu ddilynwch ein tudalen os gwelwch yn dda!