Croeso i'r cylchlythyr STEM diweddaraf ar gyfer Ysgolion Cynradd o'ch Hwb Llysgennad STEM lleol.

Rydym yn deall fod nawr yn   amser anodd i bob un o'n dysgwyr, eu  teuluoedd ac eich cydweithwyr. Yn ystod yr amser hwn, rydyn ni'n gwybod fod rhieni yn treulio oriau ar y  we yn chwilio am weithgareddau difyr, diddorol i'w plant tra fod athrawon yn ceisio paratoi a darparu cymaint o wersi â phosib. Ein blaenoriaeth yw cefnogi'r genhadaeth hon felly byddwn yn cyrchu ac yn rhannu adnoddau ar gyfer y cartref a'r ysgol, cystadlaethau, fideos, prosiectau, syniadau,  a mwy!
Mae gan Gweld Gwyddoniaeth  dudalen facebook lle byddwn hefyd yn rhannu llawer o syniadau newydd yn rheolaidd  - byddem yn ddiolchgar pe bai modd i chi ein dilyn  
https://www.facebook.com/SeeScienceGweldGwyddoniaeth/


Gyda dymuniadau gorau

Gweld Gwyddoniaeth

Y cylchlythyr sy'n ffynhonnell hanfodol o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i athrawon ac unrhyw un sydd gyda  diddordeb mewn ymgysylltiad STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) ledled Cymru.

CYNNWYS

Newyddion STEM

 

Cyfleoedd Ariannu a Digwyddiadau Lleol
 

 

Cystadleuthau, adnoddau a gwobrau
 

Adborth
 

D

 


Er mwyn cefnogi athrawon i barhau i addysgu pobl ifanc tra'u bod gartref, mae STEM Learning wedi datblygu ystod o ddeunyddiau, gan gynnwys adnoddau am ddim, awgrymiadau gan eu  harbenigwyr pwnc a chyfleoedd datblygiad proffesiynol.

Mae eu Tîm Addysg hefyd wedi argymell detholiad o weithgareddau i gefnogi rhieni a gofalwyr gyda dysgu yn y cartref.
Os oes angen unrhyw help arnoch, mae arbenigwyr pwnc ar gael yn ystod yr wythnos rhwng 8:30 am a 4.30 pm trwy sgwrs ar y We.

Gall cyfranogiad Llysgennad STEM ennyn diddordeb ac ennyn brwdfrydedd myfyrwyr ac athrawon. Os oes gennych ddiddordeb mewn gofyn i Lysgennad STEM eich cynorthwyo gallwch wneud eich cais yma. Rydym wedi creu canllawiau cryno i annog Llysgenhadon STEM ac addysgwyr i ddefnyddio'r hunanwasanaeth. Canllaw fideo i athrawon ac arweinwyr grŵp

Os yw Llysgennad wedi ymgysylltu â chi, neu os ydych wedi cwrdd â Llysgennad mewn gweithgaredd cyfoethogi, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech lenwi ein ffurflen adborth athrawon. Anogwch gydweithwyr i ymateb.

 

 
Newyddion STEM

Cyfle i ysgogi eich dysgwyr.....

 

Cyfle i ysgogi dysgwyr...
Mae'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol yn cynnig ystod eang o adnoddau addysgu a chefnogaeth i athrawon sy'n gweithio o bell yn ystod y pandemig coronafirws, gan gynnwys cyrsiau datblygiad proffesiynol am ddim. Mae pob adnodd ar gael am ddim os ydych chi'n cofrestru ar wefan Addysg RSC. Mae Arddangosiadau Gwyddoniaeth Cynradd yn darlunio cysyniadau gwyddonol sylfaenol gan ddefnyddio'r syniadau syml a'r cynhyrchion bob dydd.

Mae'r We Syniadau Gwyddoniaeth yn archwilio syniadau ar gyfer gweithgareddau gwyddoniaeth sy'n gysylltiedig â phynciau cynradd cyffredin, gyda dolenni i trawsgwricwlaidd i bynciau megis hanes, gan gynnwys y  Groegiaid   neu Oes Fictoria â allai fod yn fan cychwyn delfrydol os ydych chi'n meddwl paratoi ar gyfer y  cwricwlwm newydd. Mae  arbrofion bwytadwy yn gallu ennyn brwdfrydedd eich myfyrwyr, yn ogystal a chyffroi neu syfrdanu aelodau o'r teulu!

Bydd Explorify yn defnyddio'r blog hwn i'ch diweddaru ar y gefnogaeth ddiweddaraf i athrawon, rhieni, gofalwyr a phlant gyda'u gwyddoniaeth dros yr wythnosau nesaf.
Mae eu casgliadau gweithgaredd cyntaf ar gael nawr. Mae Explorify  yn gyflenwad wythnosol o weithgareddau i rieni a gofalwyr eu gwneud â'u dysgwyr gartref. Mae'n seiliedig ar y cwricwlwm gwyddoniaeth cynradd ac mae nifer o weithgareddau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae'n hawdd ei wneud gartref. Archwiliwch blanhigion neu briodweddau deunyddiau heddiw!
Gallwch hefyd gymryd rhan yn #ScienceFromHome ar Twitter, lle bydd Explorify yn rhannu hyd yn oed mwy o weithgareddau y gall plant eu gwneud gartref. Gall athrawon ymuno â'n Ystafell Athrawon  Explorify ar Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnwys newydd, neu i ofyn cwestiwn i'r gymuned addysgu.

Mae gan yr NFU rai adnoddau defnyddiol hefyd - edrychwch ar eu hadnoddau STEMterprise. Mae prosiectau STEMterprise yn tywys plant trwy bob cam o sefydlu busnes siop fferm: ystyried natur dymhorol wrth benderfynu pa gnwd i'w dyfu, tyfu eu cynhwysion eu hunain, ystyried maeth wrth ddylunio eu ryseitiau, defnyddio ymchwil i'r farchnad i brofi eu syniadau gyda darpar ddefnyddwyr, gan weithio o fewn cyllideb wrth brynu cynhwysion ychwanegol, dysgu sgiliau cyllell wrth wneud eu cynhyrchion, cyfrifo'r elw disgwyliedig, dylunio pecynnau cyfrifol a llawer mwy. Dolenni cwricwlwm wedi'u cynnwys a bydd y cyfan ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn fuan.

Darllenwch fwy

Atyniad magnetig Llysgenhadon STEM yn Ysgol Gynradd Sandfields (Port Talbot)

Roedd yr athrawes Rachael Webbe yn awyddus i archwilio thema Trydan ar gyfer Wythnos Wyddoniaeth fel pwnc cwricwlaidd allweddol. Gan gyflwyno cais i’r Cydlynydd Llysgenhadon STEM Sian Ashton, sicrhaodd 3 ymweliad.
Adeiladodd un Llysgennad STEM, Jon Laver, ei becyn Arddangos Electromagnetig ei hun. Bu Jon yn gweithio am nifer o flynyddoedd fel Peiriannydd Trydanol gyda'r Grid Cenedlaethol. Gyda llawer iawn o brofiad yn y pwnc hwn, mae wedi profi mai’r ffordd orau o gyfleu gwybodaeth yrfa a syniadau cymhleth i ddisgyblion cynradd yw trwy arddangosiadau ymarferol.
Mae Llysgenhadon STEM yn gwerthfawrogi croeso da ac ymateb da gan ddisgyblion – pwysig iawn i annog ail-ymweliadau fel yr adroddodd Jon!
‘Rachael, cefais ddiwrnod da yn eich ysgol ddoe. Mae ganddo awyrgylch braf a phlant cwrtais sydd yn ymddwyn yn dda iawn. Diolch am eich trefniadau.
Fe wnaethant roi sylw llawn i'r arddangosfeydd a chawsant i gyd amser da yn chwarae gyda’r magnetau ymarferol wedi hynny. Roeddwn i'n meddwl tybed a oeddech chi'n bwriadu gwneud unrhyw waith dilynol ddydd Llun? Os felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn unrhyw adborth. Rwy'n gobeithio bod y syniadau wedi aros yn eu meddyliau.
Byddwn yn hapus i ddychwelyd yn y dyfodol (rhywbeth nad wyf bob amser yn ei ddweud!)’

Ymateb Rachael:
‘Roedd pob un o’r gwirfoddolwyr a ymatebodd yn rhagorol gyda’r plant ac fe wnaethon ni fwynhau eu mewnbwn yn fawr. Diolch yn fawr am fy rhoi mewn cysylltiad. ’

Unwaith eto, diolch o galon gan athrawes sydd bellach hefyd yn deall ychydig mwy am electromagnetiaeth nag y gwnes i o'r blaen. Y tro nesaf y byddaf yn mynd i’r afael â phwnc fel hwn yn yr ysgol, byddaf yn siŵr o anfon e-bost atoch.
Rachael
 

Darllenwch fwy

Wythnos Wyddoniaeth Ysgol Gynradd Edwardsville (Tredegar)

Gwnaeth yr athrawes Catherine Price ei chais gyda’r Cydlynydd Llysgenhadon STEM yn gynnar ar gyfer sesiynau Llysgennad STEM yn ystod yr Wythnos Wyddoniaeth. Yn ffodus, digwyddodd hyn ychydig cyn i'r argyfwng presennol achosi i ysgolion gau a chynigiodd tri Llysgennad sesiynau gwych yn amrywio ar draws sawl pwnc cwricwlwm.
Cynigiodd Nicola Jones her ar ailgylchu dur ac yna cystadleuaeth boster a lansiodd yr wythnos. Daeth Fatemah Mohamad a Daniel Davies (Go Compare) â gweithgaredd ymarferol ar Beirianneg Meddalwedd. Cyflwynodd Tim Homan (Nat West) Money Sense a Mathemateg.
Bu Catherine yn ddigon caredig i anfon adborth yn dilyn y gweithgareddau hynod boblogaidd hyn:
 ‘Roedd y gwasanaeth a drefnwyd i lansio'r wythnos yn wych. Gosodwyd cystadleuaeth gan Nicola ond yn anffodus ni ellid ei barnu oherwydd cau i lawr!
Roedd yr holl Lysgenhadon STEM a ddaeth, gan gynnwys Timothy o Nat West, yn darparu gweithgareddau, sgyrsiau neu weithdai addas a difyr.
Felly, unwaith eto, diolch yn fawr am allu cefnogi dysgu ein disgyblion eleni.’
Athrawes Bl 4 Catherine Price
 

Digwyddiadau lleol a chystadleuthau

Gyrfaoedd mewn Cemeg

Ymunwch â Gweld Gwyddoniaeth a'r Gymdeithas Frenhinol Cemeg ar gyfer gweithdy hyfforddi ar sut i gyflwyno cyflwyniad rhyngweithiol yn canolbwyntio ar Yrfaoedd mewn Cemeg.

Cyfle i rannu eich angerdd am y pwnc ac argyhoeddi pobl ifanc bod cymhwyster cemeg yn agor y drws i ystod eang o opsiynau gyrfa, i mewn ac allan o'r labordy. Mae swyddi diddiwedd diddorol a gwerth chweil yn seiliedig ar wyddoniaeth ar gael gan gynnwys rhai na fyddech efallai wedi meddwl amdanynt. Mae gwyddonwyr cemegol yn gwneud gwahaniaeth bob dydd.

Bydd pob cyfranogwr yn cael pecyn adnoddau gan gynnwys cyflwyniad ac ystod o weithgareddau ymarferol y gellir eu teilwra i'r gynulleidfa. Gellri archebu lle drwy ddefnyddio y dolenni isod
23 Ebrill 4pm     28 Ebrilll 11am     6 Mai 1.30pm    15 Mai 11am      20 Mai 4pm 

Bydd manylion Zoom yn cael eu hanfon 24 awr cyn y cyfarfod
 
Darllenwch fwy
Hyfforddiant Gweithdy 'Making Space' Dydd Iau 30 Ebrill am 2pm ac yna bydd yn cael ei ail adross ar dydd Mawrth 12 Mai am 4pm 

Ymunwch â Dr Katherine Compton yng Nghaerdydd i ddarganfod mwy am weithgareddau y gallech eu cynnig i ysbrydoli pobl ifanc i ymddiddori mewn seryddiaeth a gofod fel rhan o'r fenter One Million Interactions a lansiwyd yng nghynhadledd Asiantaeth Ofod y DU yng Nghasnewydd, gyda chefnogaeth STEM Learning, ESERO UK a The Careers and Enterprise Company, er mwyn denu mwy o bobl ifanc i mewn i wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) a'r diwydiant gofod, sy'n cynhyrchu biliynau o bunnoedd i'r economi ac yn creu 42,000 o swyddi.

“Mae yna amrywiaeth enfawr o yrfaoedd ar gael yn y sector gofod,” meddai Tim Peake, “ac yn ystod fy nghenhadaeth i’r Orsaf Ofod Ryngwladol roeddwn yn rhan o dîm o filoedd o bobl yn gweithio y tu ôl i’r llenni i’w gwneud yn bosibl.

Bydd y gweithdy hwn yn darparu amrywiaeth o syniadau ac adnoddau newydd i chi y gellid eu defnyddio ar lefel gynradd ac uwchradd ac mae'n addas ar gyfer athrawon, arweinwyr grwpiau cymunedol, Llysgenhadon STEM a gwirfoddolwyr.  Bwciwch yma.

Darllenwch fwy

Dysgwrdd  Cynradd ASE 2pm. Mai 6ed 2020 Ar-lein


Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer addysgwyr Cynradd gyda ffocws ar weithgareddau ymarferol y gallwch eu gwneud o hir  bell gyda disgyblion neu eu gosod fel gweithgareddau y gallant eu gwneud yn y cartref gydag adnoddau cyfyngedig.

Mae Dysgwrdd ASE  yn ffordd anffurfiol, hwyliog ac ysbrydoledig i athrawon rannu syniadau â'i gilydd. Mae pobl yn dod i rannu neu i wrando yn unig. Pum munud yw hyd nodweddiadol cyflwyniad ac mae defnyddio PowerPoint a darparu deunyddiau yn gwbl ddewisol.
Dewch draw i gwrdd â chydweithwyr o'r un anian a chael eich ysbrydoli! Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim ond cofrestrwch fel y gallwn drefnu trefn y cyflwynwyr. Dewiswch eich math o docyn isod yn dibynnu a ydych chi'n bwriadu cyflwyno ai peidio. Bydd y ddolen i Zoom yn cael ei hanfon y diwrnod cyn y cyfarfod at y rhai sydd wedi cofrestru.
Bydd lluniaeth ar gael o 3.00 yn eich cartref eich hun! Cofrestrwch yma
Darllenwch fwy

Cyfarfod Gwyddoniaeth Mawr i Ysgolion  2020

Mae y cyfarfod yn ymwneud â phlant yn cyfathrebu rhywbeth y maent wedi bod yn ymchwilio iddo sy'n dechrau gyda chwestiwn y mae ganddynt ddiddordeb ynddo. Ar ôl cyrraedd dros 100,000 o bobl ifanc ers ei lansio yn 2016, rydym yn gyffrous i'ch gwahodd i fod yn rhan o'r ymgyrch gydweithredol 2020.

COFRESTRU AM DDIM YMA

O'r  4ydd Mai, bydd thema wythnosol yn cael ei lansio i ysbrydoli'ch disgyblion. Bydd yn ffordd wych i blant rannu eu cwestiynau gwyddonol â'i gilydd. Bydd y  rhain yn dudalen we newydd ar eich cyfer chi yn unig! Gwyliwch y gofod hwn
Bydd y Great Science Groove-along yn cael ei ryddhau ryddhau ar y 4ydd Mai. Darllenwch y cyfan amdano a chymryd rhan mewn cyfarfod gwyddoniaeth dorfol eleni.
16eg Mehefin 2020 Y  Cyfarfod Gwyddoniaeth Mawr -  diwrnod gwych i bobl ifanc rannu gwyddoniaeth m - gall fod yn rhywbeth maen nhw wedi'i wneud o'r blaen yn yr ysgol neu gartref, yn rhywbeth maen nhw wedi'i wylio neu'n rhywbeth newydd maen nhw'n ei wneud ar y diwrnod!
Mae'n syml! Gall pawb ei wneud! Dim ffioedd na thaliadau.
Rhieni / gofalwyr, athrawon, sefydliadau STEM ac eraill. Os ydych chi am gymryd rhan ... Cofrestrwch i:
dderbyn gwybodaeth a newyddion perthnasol, gan gynnwys adnoddau am ddim ynogystal a  derbyn Tystysgrif Cyfarfod  Gwyddoniaeth Mawr 2020 pwrpasol  i'ch plentyn / plant
derbyniwch docyn  raffl am ddim am adnoddau i fynd i ysgol eich plentyn cyn gynted ag y byddwn  yn ôl!
Cystadleuthau

'Great Bug Hunt' 2020

Yn cael ei rhedeg bob blwyddyn gan yr ASE mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol, mae'r gystadleuaeth 'Great Bug Hunt' boblogaidd yn mynd â dysgu gwyddoniaeth allan o'r ystafell ddosbarth Gynradd ac yn dod yn fyw yn yr awyr agored.

Mae ein her yn eithaf syml - ewch â'ch dosbarth y tu allan, eu harfogi â chwyddwydrau a llyfrau nodiadau, a'u pwyntio at y gwrychoedd agosaf, gwelyau blodau, coed, glaswellt hir, boncyffion, cerrig, creigiau ayyb a gadael iddyn nhw archwilio ac adrodd yn ôl ar yr hyn maen nhw'n ei ddarganfod.

Gall eich cofnodion fod yn boster wal, adroddiad, fideo neu hyd yn oed bodlediad neu gerdd! Ein huchelgais yn syml yw grymuso athrawon cynradd i ennyn brwdfrydedd eu disgyblion ynghylch potensial archwilio'r byd naturiol ar stepen eu drws.

Y dyddiad cau yw 12 Mehefin 2020.

Manylion yma.

Darllenwch fwy

!! GALLWCH WNEUD YN Y CARTREF !! Cystadleuaeth Robot i Ysgoionl:

Plant 5 i 7 oed - Tynnwch lun o Robot
Plant 7 i 11 oed - Unwaith 'roeddwn yn  robot

A oes gan eich plentyn 5 i 7 oed y dychymyg i dynnu llun  robot buddugol?
A oes gan eich plentyn 7 i 11 oed y creadigrwydd i ysgrifennu stori robot wych?
Y dyddiad cau yw Mehefin 8. Manylion yma
Darllenwch fwy

Mae'r gystadleuaeth hon wedi'i thargedu at blant 7-14 oed. Dyluniwyd y prosiect I barhau am dymor cyfan yn  yr haf, gan ddiweddu gyda  arddangosfa wych. Mae yna gwerth 7 wythnos o weithgareddau yn y prosiect a hyd yn oed grŵp Facebook i gefnogi ymgeiswyr.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno fideo 1 munud yn cyflwyno eu Arddangosfa Fawr yn y Cartref, sy'n mynd i'r afael â'r cwestiwn:

Sut gall peirianneg helpu i amddiffyn y blaned?

Cymerwch ran yn ‘Her yr Arddangosfa Fawr yn y Cartref ‘i fod â siawns o ennill gwobrau gwych gan gynnwys: gwerth £500 o offer ar gyfer pynciau STEM yn eich ysgol, y cyfle i sgwrsio fideo gydag un o'n peirianwyr ysbrydoledig a mwy! Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Medi.

I gofrestru, lawrlwytho adnoddau a darganfod mwy, ewch i'r wefan yma.
 

Adnoddau

Mae gweithgareddau Gwobrau CREST yn ddelfrydol ar gyfer athrawon a rhieni sy'n chwilio am ffyrdd y gall plant gymryd rhan mewn gweithgareddau STEM gartref gydag ychydig iawn o adnoddau. Mae gan Lyfrgell Adnoddau Gwobrau CREST fanylion am ystod eang o weithgareddau STEM y gellir eu defnyddio i ennill Gwobrau CREST.Mae yna weithgareddau addas ar gyfer pob oedran a phob gallu, pob un am ddim i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio.Ysgrifennwyd yr holl adnoddau cynradd ar gyfer athrawon nad ydynt yn arbenigwyr gwyddoniaeth.
Mewn ymateb i gau ysgolion oherwydd COVID-19, mae Cymdeithas Wyddoniaeth Prydain- sy'n rhedeg Gwobrau CREST - wedi nodi gweithgareddau penodol sydd angen ychydig neu dim adnoddau ar gyfer plant 5 i 14 oed. Ymhlith yr enghreifftiau mae:

O gasgliad CREST Star(Sylfaen)
Rainbow colour collectors (tudalen 40): Dyma gyfle i ddisgyblion ddod o hyd i holl liwiau'r enfys yn y byd o'u cwmpas. Mae'r gweithgaredd hwn yn berffaith ar gyfer y cartref a gallai arwain yn braf at brosiect celf.
O gasgliad CREST SuperStar(CA2)
A hole in my bucket (tudalen 6): Ar gyfer y gweithgaredd hwn, y cwbwl sydd ar ddisgyblion eu hangen yw cwpanau plastig, tac glas, cellotape, gwelltyn, a phethau eraill a all eu helpu i ddatrys problem twll yn y bwced.

Canllawiau yn unig yw'r oedrannau a nodwyd ac, i'r rhai sy'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy heriol i ddisgyblion hŷn, edrychwch ar yr adran Gwobrau Efydd. Ymhlith yr enghreifftiau priodol i'w gwneud gartref mae un sy’n gofyn am ddyfeisio arbrawf i wneud y cwpanaid o de perffaith.

Mae athrawon a rhieni yn dal i allu gwneud cais am dystysgrifau CREST ar-lein ar gyfer disgyblion sydd wedi cyflawni meini prawf y Gwobrau. Cysylltwch â Llinos yn llinos.misra@see-science.co.uk
 i gael mwy o wybodaeth.
Darllenwch fwy

Enwebwch nawr ar gyfer Gwobrau Athrawon Gwyddoniaeth Cynradd

Mae athrawon sy'n gwneud gwaith anhygoel, yn codi safonau, yn rhagori mewn amodau anodd ac yn mynd y tu hwnt i hynny yn haeddu cael eu dathlu. Mae'r Gwobrau Athrawon Gwyddoniaeth Gynradd yn gwneud hynny'n union - rydym yn dathlu, yn gwobrwyo ac yn darparu llu o gyfle i'r athrawon haeddiannol hyn.

Mae'r gwobrau'n agored i'r holl Athrawon Cynradd cyfredol (llawn neu ran-amser) sy'n arloesol ac yn greadigol wrth ddysgu gwyddoniaeth;
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 12 Mehefin.

Manylion yma.

Cyfleodd ariannu, 

Cymorth ariannol gan IoP Cymru 

Oes gennych chi syniadau ar gyfer cyfleoedd allgyrsiol i'ch myfyrwyr? Cynlluniwyd cynllun grant Ymgysylltiad Cyhoeddus Sefydliad Ffiseg Cymru i roi cymorth ariannol o hyd at £ 750 i unigolion a sefydliadau sy'n rhedeg digwyddiadau a gweithgareddau ffiseg yng Nghymru. Mae'r cynllun grant hwn ar agor trwy gydol y flwyddyn a bydd ceisiadau yn cael eu hasesu gan Bwyllgor Sefydliad y Ffiseg yng Nghymru. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu trwy e-bost o'r canlyniad o fewn chwe wythnos i'r dyddiad cau.

Mae'r Sefydliad Ffiseg yn ganolog hefyd yn cynnig grantiau o hyd at £600 i ysgolion.
Mwy o wybodaeth yma

Darllenwch fwy

Cyrsiau ar-lein i athrawon

Mae amrywiaeth o gyrsiau ar-lein rhad ac am ddim i athrawon ar bob cam o'u gyrfa. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu gan arbenigwyr blaenllaw a rhannu syniadau â miloedd o addysgwyr eraill ledled y byd. Llawrlwythwch y calendr i weld pa gyrsiau sydd ar gael a phryd maen nhw ar gael i ymuno.

 

DPP diweddaraf o'r Bartneriaeth STEM Learning

I ddarganfod mwy am y DPP diweddaraf oddi wrth eich Partner Dysgu Gwyddoniaeth, cliciwch yma

 

Dilynwch ni ar Facebook - Gweler tudalen facebook Gweld Gwyddoniaeth
Hoffwch chi neu ddilynwch y dudalen